Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NID YN amal y neilltuir lIe i Brif Weinidogion Seland Newydd ar ganol llwyfan y gwledydd. Nid yw'r wlad nemor fwy poblog na Chymru. O'r braidd chwaith fod deg a thrigain o filiynau o ddefaid yn fater i gyfareddu'r cyfryngau. Er hynny, bu Mr. Reagan a Mrs. Thatcher yn ymboeni gyda'i gilydd ynghylch gwrthodiad llywodraeth David Lange (i'w ynganu'n Longi mae'n debyg) i ganiatáu mynediad i longau'n cludo arfau niwclear i ddyfroedd Seland Newydd. Bu Mrs. Thatcher'n cwyno'n enbyd ynghylch ymddygiad afresymol y dyn diflas; ac ni fu cynghorwyr Mr. Reagan heb ei hysbysu yntau mai De a Dwyrain a Pasiffig yw'r rhanbarth lle mae'r prifiant economaidd cyflymaf yn y byd. Yn ogystal, fe all safiad David Lange ddylanwadu ar Awstralia, lIe mae seren Bob Hawke yn colli ei disgleirdeb. Methodist ymroddedig yw Lange, ac etifeddodd draddodiad ac argyhoeddiad heddychol ei enwad. Nid yw'n wrth- Americanaidd, ond nid yw'n bwriadu estyn croeso i bolisïau milwriaethus y Taleithiau Unedig. Cyfreithiwr ydyw, a'r gwr gradd cyntaf i fod yn Brif Weinidog ei wlad. Dangosodd gydymdeimlad dwfn â brodorion Polynesia. Daeth amryw o'r rheini i weithio yn Seland newydd yn anterth ei llwyddiant economaidd genhedlaeth yn ôl. Ond rhoes y Farchnad Gyffredin Ewropeaidd ergyd arw i gyllid y wlad, a'r brodorion o ynysoedd y Pasiffig a ddioddefodd fwyaf. Amddiffynnodd Lange eu buddiannau. Nid Prif Weinidog yw ef sy'n anelu at wneud y cyfoethog yn gyfoethocach, a'r tlawd yn dlotach. MILIWNYDDION Fleet Street fu uchaf eu cloch yn erbyn codi pris trwydded i wylwyr rhaglenni teledu'r BBC. Ymunodd mawrion y cwmnïau hsbysebu hwythau mewn ymgyrch i ddarostwng teledu Prydain i lefel isel teledu'r Taleithiau Unedig, drwy sigo ac yn y pendraw ddifodi'r BBC. Pa reswm sydd gan berchen cadwyn bapurau'r Mirror, Robert Maxwell, dros ymuno yn yr ymosod ar y BBC? Onid ei bapurau ef yw'r unig rai poblogaidd a gyhoeddir yn Llundain nad ydynt, i bob golwg, yn llwyr lyncu Thatcheriaeth? Y rheswm yw bod Maxwell yn prynu ei ffordd i mewn yn ddwfn i deledu-cêbl. Ef yn ôl yr hanes biau'r cwmni-cêbl mwyaf yn Lloegr. Nid annisgwyl felly oedd iddo ddadlau na ddylid gwerthu'r hawl i deledu pêl-droed i'r BBC, ond i gwmni cêbl. Gan mai ef hefyd biau clwb llwyddiannus Oxford United fe gaiff wrandawiad. Yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn cyhoeddodd y Times bum erthygl olygyddol dra beirniadol o'r BBC. Bu'r Times yn bapur uchel ei barch ar un adeg. Bellach nid yw namyn talaith yn ymerodraeth cymrodor i Robert Maxwell, sef Rupert Murdoch. Gyda'r Arglwydd Matthews ffurfiant dri M sy'n gallu penderfynu pa newyddion a pha safbwyntiau y bwydir ac y cyflyrir mwyafrif llethol aelwydydd Prydain â hwy o ddydd i ddydd. TRA BO'R wladwriaeth lês yn dadfeilio 0 dan y Torïaid y mae'r cysurus eu byd yn gwneud trefniadau preifat fwyfwy ar gyfer pensiynau, iechyd, ac addysg eu plant. Po fwyaf y dirywia'r gwasanaethau cyhoeddus mewn canlyniad i doriadau'r Llywodraeth, mwyaf oll o deuluoedd a fydd yn ceisio dianc i'r sector Breifat. Mantais fydd hyn i ragolygon etholiadol y Torïaid. Gwelwyd y Blaid Lafur dan gwmwl pan wrthwynebodd werthiant tai cyngor. Y mae ein llywodraethwyr Torïaid yn colli dagrau crocodeil ynghylch nifer y di- waith nifer a dreblwyd er pan ddaethant hwy i rym chwe blynedd yn ôl. Ond tra bo mwyafrif y boblogaeth mewn gwaith ac yn ennill arian, hydera'r Torïaid mai lleiafrif a fydd yn gwrthdystio'n gryf. Ac mae protestio afreolus gan y Chwith yn chwarae i ddwylo'r Dde. Geilw'r cysurus am ragor o "gyfraith a threfn" i gadw'r gwrthryfelwyr yn eu lle. Ar Ffrwt Haws dweud y drefn yn hallt am yr anffodusion sy'n mynd i'r wal o dan bwysau laissez-faire na dirnad cymhlethdod ein cymdeithas a mynd ati i osod sylfeini ar gyfer cymdeithas decach. "It will be the dispossessed who bear the brunt of the blame for discontent" (Colin Crouch). Y MAE'N syndod na fuasai Nigel Lawson, gyda'i awch i breifateiddio pob cyfoeth sy'n eiddo i'w wlad, wedi meddwl am roi'r teulu brenhinol ar y farchnad. Meddyliwch am brynu siâr yn y Dywysoges Diana. Y fath syniad llesmeiriol. Byddai bois y gyfnewidfa stociau yn Efrog Newydd yn falch o dderbyn gwahoddiad i arddwest ym Mhlas Buckingham. Byddai modd hepgor comisiwn uchel iddynt cyffelyb i'r hyn a gawsant am werthu British Telecom i'r Americanwyr. Tybed a allem ddisgwyl i Nigel Lawson a'i brifathrawes ddilyn eu hegwyddorion monetaraidd i'r pen, a chaniatáu i'r Teulu Brenhinol fynd yn feddiant i'r Arabiaid? Pam? Y mae'r Eglwys Efengylaidd Almaenig EKD (grwp o 17 o enwadau Lutheraidd, Diwygiedig yng Ngorllewin yr Almaen) yn dweud fod ganddynt "broblem ynglyn â'r anhawster o ddelio â gormod o ymgeiswyr am y weinidogaeth blwyf." Ddeng mlynedd yn ôl yr oedd 4,000 0 fyfyrwyr mewn diwinyddiaeth. Erbyn hyn mae 12,700. Y mae'r Eglwysi EKD wedi ymateb trwy leihau cyflogau, dwyn oed ymddeol lawr a darparu swyddi rhan- amser. (Gwasanaeth y Wasg Ecciw- menaidd).