Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bod William Edwards a'r Beibl Cymraeg Newydd yn faffrio "plaid"sect"/ "ymbleidio" wyth gwaith a "heresïau" ond unwaith (2 Pedr 2.1). Am y Beibl Cymraeg, ffafria "sect" bedair gwaith (Actau 15.5; 24.5; 26.5; 28.22) a "heresi"heresiau" bum gwaith (Actau 5.17; 24.14; 1 Cor. 11.9; Gal. 5.20; 2 Pedr 2.1). Wrth droi at yr ymadrodd HAIRETI- KON ANTHRÔPON, sy'n ymddangos unwaith yn Titus 3.10, y mae John Williams yn ei drosi "[Gwrthod] ddyn ymbleidgar", a'r B.C.N. "y dyn a fyn greu rhaniadau" tra bod y Beibl Cymraeg a William Edwards yn ffafrio "heretic". Er hynny noda William Edwards mai ymbleidiwr a olygid ac mai llygredigaeth foesol yn hytrach na daliadau crefyddol oedd achos yr ymbleidio (Cyf. III, 1913). Nid oes amheuaeth mai "plaid" neu "sect" yw'r unig gyfieithiad dilys o HAERESIS weithiau (e.e. tystiolaeth Paul iddo fyw "yn ôl sect fwyaf caeth ein crefydd yn Pharisead", Actau 26.5, B.C.N.) ac er i'r cysylltiadau ganiatáu "heresi" fel trosiad mewn rhai mannau, dichon y dylid dilyn esiampl John Williams a chadw'r syniad o ymbleidio bob tro y cwrddir â'r gair. Wedi'r cwbwl, a yw rhaniadau a phleidiau yn llai dinistriol i'r Eglwys na heresïau? (2 Pedr 2.1). Nid dweud a wnawn bod gwyriadau athrawiae- thol yn ddibwys na bod awduron y Testa- ment Newydd yn ddibris ohonynt eithr sylwi ar y consyrn yn yr Eglwys Fore am y duedd ymhlith Cristnogion o'r dechrau i bwysleisio'u gwahaniaethau ac ymrannu'n bleidiau a sectau ac enwadau? MUSTÊRION Y gair Groeg MUSTÊRION a roes i'r Saeson eu gair "mystery". Digwydd 28 gwaith yn y Testament Newydd:- unwaith yr un yn yr Efengylau Cyfolwg a hynny ar wefusau'r Iesu (lle mae'r mwyafrif o'r cyfieithwyr Cymraeg yn dewis "cyfrinach" i'w gyfieithu er bod Salesbury yn ffafrio "dirgeledigaeth") pedair gwaith yn y Datguddiad ("dirgelwch") ac 21 o weithiau yn yr epistolau a briodolir i'r Apostol Paul ("dirgelwch", "dirgelion" ac ati). Mae'n bwysig cofio er hynny nad yr un peth yw dirgelwch y Testament Newydd i'r hyn a olyga'r gair i ni. I ni, dirgelwch yw'r peth hwnnw na allwn ni ei ddeall na'i esbonio e.e. beth a ddigwyddodd i'r llong Mary Celeste a ddarganfuwyd ar yr Atlantic ar ddiwedd 1872, ei hwyliau i fyny, bwyd yn barod i'w fwyta, ond neb ar fwrdd y llong? Eithr y mae arlliw o'r ystyr a roddai'r Hen Roegiaid iddo ar ddefnydd y Testament Newydd o MUSTÊRION. Arferai'r Groegiaid y gair mewn perthynas â "gwirioneddau" cuddiedig cyfrin grefyddau'r hen fyd. Ni allai neb eu gwybod hyd nes iddo gael ei hyfforddi yn yr egwyddorion dirgel a'r arferion cêl rhywbeth tebyg i'r hyn a ddigwydd gyda'r Seiri Rhyddion heddiw! I awduron y Testament Newydd, felly, dirgelwch yw'r peth hwnnw sy'n anhysbys ond y gellir ei wybod pan geir yr hyfforddiant priodol. Eu hargyhoeddiad hwy oedd bod Duw, yn Ei amser a'i ffordd Ei hun, yn datguddio yr hyn na fedr dyn ei wybod drwy ei ymdrechion ei hun. Neu, a defnyddio geiriau'r Iesu: nid oes dim dirgel, na ddatguddir, na dim cuddiedig, na wybyddir, ac na ddaw yn gyhoeddus" (Luc.8, 17, Oraclau Bywiol). Crynhodd Paul hefyd ystyr y gair yn y Mawl wers sy'n cloi eu Epistol at y Rhufeiniaid: MUSTÊRION yw'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd amser, ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd" (Rhufeiniaid 16, 25-26). Yng nghyfieithiad Salesbury o'r adnodau hyn, ei ymadrodd ef am y dirgelwch yn "yr hwn vu gyfrinachol." Yn 1 Corinthiaid 2, 6-16, y mae'r Apostol Paul yn dangos fel y mae Duw yn tywys dynion i wybodaeth o'r dirgelion trwy'r Ysbryd Glân a gwelir yn glir nad gwybodaeth yn cael ei orchuddio yn ystyr "dirgelwch" yn y Testament Newydd ond gwirionedd yn disgwyl cael ei ddatguddio. Dirgelwch fu cymeriad Duw, eithr fe'i datguddiodd Ei hun i ddynion ym mywyd a gwaith Iesu Grist (Col. 2.2) gan alw ar y rhai a oleuwyd i rannu'r datguddiad hwn (1 Cor. 2.1; Col. 4.3) a'r wybodaeth am drefn iachawdwriaeth (Col. 1.27). Nid rhyfedd i William Williams ganu: O! iachawdwriaeth gadarn, O! iachawdwriaeth glir; 'Fu dyfais o'i chyffelyb Erioed ar fôr na thir: Mae yma ryw ddirgelion, Rhy ddyrys ynt i ddyn, Ac nid oes all eu dadrys Ond Duwdod mawr ei Hun. Bwyta Bob tro y byddwn yn bwyta, bydded i ni gofio cariad Duw (Gweddi o China). Pan fydd pobl yn cwrdd â'i gilydd ym Mhrydain fe fyddant yn siarad am y tywydd. Yn y Dwyrain byddant yn siarad am fwyd. Bydd un person er mwyn cychwyn sgwrs yn dweud "Ydych chi wedi bwyta heddiw" neu ambell waith "Ydych chi wedi bwyta reis heddiw?" Os "Na" yw'r ateb yna rhaid dweud "Dewch fwyta gyda mi". Yn y weithred o fwyta yr ydym yn dangos ein dibyniaeth Ilwyr ar ddar- f pariaeth Duw ar ein cyfer. Dyna paham y mae bwyta yn weithred o arwyddochad crefyddol dwfn. Dr. Peter Leung yn y Gynhadledd Gen- hadol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ym mis Ebrill eleni. TEYRNGED I'R PARCHEDIG EMLYN JONES A FU FARW ELENI YN PIETERMARITZBURG: DE AFRICA Gwir ystyr bod yn Gristion a welwn Yng ngolau'n hatgofion; Yn rhychwant ei ymdrechion Roes yn llwyr o'i ras yn llon. Ei arf yn y Lluoedd Arfog oedd ffydd Y ffol sydd yn annog I frodyr Y Cadfridog Roi eu hun i Grist y Grog. Dilynodd afradloniaid yn archwaeth Ei serch at drueiniaid; Mwstrodd i herio meistriaid Y llu a ddenwyd i'r llaid. Bu'n fugail di-ail i'w deulu. I'r drain Fe droes i'w hanwesu; Noddwr yn aflonyddu Ar alwad y ddafad ddu. Ei allwedd i'n tywyllwch oedd ei ern Na ddarniai'n trythyllwch Y ddelw'n ei heiddilwch, Na'r llun yn nyfnder y llwch. D. Hughes Jones Y Rhyl