Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

waith mawr gyda'r SCM, drama grefyddol, a llawer cylch arall, wedi hynny; a'r Parch. Elwyn Davies a gychwynodd Mudiad Efengylaidd yng Nghymru. Wrth edrych yn ôl ar restr yr aelodau, y mae lliaws ohonynt erbyn hyn yn flaenllaw iawn yng Nghymru a thros y byd. Bu'r pwyllgor hwn hefyd yn gyfrwng i anfon y Parch. D. Jones Davies fel cynrychiolydd ieuenctid i Gynhadledd gyntaf Cyngor Eglwysi'r Byd yn Amsterdam yn 1948, ac Aneurin Jenkins Jones i Gynhadledd Travancore yn 1952. Dwy gynhadledd arall lIe bu Cymry ynddynt oedd Evanston yn 1954 ac Uppsala yn 1972. Aeth Nonn Evans i'r cyntaf ac Erastus Jones i'r ail. Oherwydd y cysylltiadau cryf oedd gan y pedwar yma ym mhob gwaith cyd-eglwysig yng Nghymru, cawsant y cyfle i ddanfon y neges i filoedd o bobl drwy'r wlad. Gwerth cofio hefyd Cynhadledd fawr ym Mangor, i Ieuenctid Prydain yn 1951. Dros y blynyddoedd trefnodd Urdd y Deyrnas gynadleddau blynyddol a buont yn gyfrwng bendith a hwyl i nifer fawr ohonom. Yr oedd y ffaith bod arweinwyr yr eglwysi, fel George McCloud, William Barclay, Pastor Neomüller a'u tebyg, yn awyddus i ddod, yn dangos safon y Gymdeithas. Un o'r rhai mwyaf egnîol ac annwyl gennym oedd Dr. Gwenan Jones, a fu'n ysbrydoliaeth i'r Urdd am flynyddoedd lawer ac yn un rheswm am y parch oedd gan bawb at y gwaith. Er tipyn o boen iddi, mi gredaf newidiwyd yr enw yn y pum degau, i "Gymdeithas Eciwmenaidd Cymru", ac wedyn fe'i cymerwyd trosodd fel adran o Gyngor Eglwysi Cymru ond mae'n chwith am Yr Urdd! Mae canolfanau eciwmenaidd yn bod mewn llawer gwlad, ac yn 1958, trwy ysbrydiaeth Cymdeithas Eciwmenaidd Cymru, a chydweithrediad Cyngor Eglwysi Blaendulais, cychwynwyd canolfan yno, fu'n gwneud gwaith amlwg a phwysig yno am oddeutu deng mlynedd. Erastus Jones oedd yn arwain y gwaith a thîm da tu cefn iddo. Cynhaliwyd nifer fawr o gyrsiau a chynhadleddau yno ar bob pwnc dan haul bron, a bu cyfeillach Blaendulais yn amlwg iawn trwy Gymru gyfan. Un darn o waith ddaeth â sylw mawr iddo oedd y cydweithgarwch gyda Chyngor Eglwysi'r Byd, i redeg Gwersylloedd Gwaith yno, a daeth llawer o amryw gwlad i gyd-fyw a chyd-weithio a chael croeso mawr gan y bobl lleol. Corff arall fu'n flaenllaw ym mywyd eglwysi Cymru oedd y 'Council for Mutual Co-operation and Understanding between the Christian Communions in Wales'. Yn y pum degau penderfynwyd ei ffurfio yn 'Gyngor Eglwysi Cymru'. Cyn hyn, 'roedd Cyngor Ieuenctid Cristnogol Cymru, fu'n parhau, wedi Cynhadledd Caerleon, â chynrychiolaeth arno, ac fe gefais i y fraint o barhau yn aelod o'r Cyngor Eglwysi Newydd, fel Ysgrifennydd o'u Hadran Ieuenctid yr unig fenyw ar y Cyngor! Gwerth cofnodi yn ôl i adeg y rhyfel — bod yr Eglwysi, ac 'Undeb Cymru Fydd' wedi cychwyn gwaith yn y Nghanoldir Lloegr, ar gyfer y rhai a anfonwyd yno i weithio yn y ffatrioedd yn bennaf. Cafwyd Cefnogaeth yr YWCA, ac agorwyd canolfan iddynt. Bu Mrs. Mair Oswy Davies yn Swyddog Lles yno, a'r Parch. Jones Davies (Kenfig) yn Gaplan. Bu'r gwaith yma, gyda chefnogaeth eglwysi Birmingham, yn fendith i lawer yn arbennig llawer o athrawon ifanc. Arbrawf arall oedd 'Coleg y Fro', a agorwyd gan yr YMCA yn Rhws. Ar ôl cau y Malt House, bu hwn yn fan cyfarfod i lawer cynhadledd, a dan llaw Vincent Pate, bu'n goleg addysgol i lawer oedd heb gyfle i fynd i brifysgol a choleg. Gwnaeth Vernon Thomas, dirpwy Vincent Pate, gyfraniad sylweddol hefyd. Dros rhai blynyddoedd bu'r 'SCM yn yr Ysgolion' yn trefnu cynadleddau i blant y chweched dosbarth yn ysgolion Abertawe, trwy weithgarwch Enid Williams a Mair Griffiths. Cynhadledd Caerleon 1947.