Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Drannoeth y Cwrdd Diolchgarwch ar Haf Bach Mihangel tesog dydd tebyg i atgof mebyd disgynnai'r bomiau-hedfan ar y Ddinas fel y disgyn y bladur ar gae o wenith a chwympai'r adeiladau fel siprys o flaen cryman. Erbyn nos nid oedd i'w weld ond megis sofl du yn mudlosgi hwnt ac yma oherwydd fandaliaeth difeddwl ffermwr barus. Rhuthrai'r di-gartref rhwng y bonion yn igam ogam ddibwrpas, yn cario gweddillion prin enillion oes fel morgrug yn cludo'u hwyau i ddiogelwch pan sethrir eu nyth. Ond draw ar ganol y tir a ddiffeithiwyd saif yr eglwys ysgub a anghofiodd y medelwyr, atgof o ffrwythlondeb ddoe a sicrwydd cnydau yfory. Safai'r ysgub yn arwydd o obaith yn y tir diffaith; eithr dychwelodd y medelwyr liw nos ac wrth frasgamu yn y tywyllwch drwy'r maes ar ddamwain baglasant ar draws yr ysgub a chwalu'r cyfan. Braenar fu'r maes wedi hynny a throes hydref yn aeaf a gaeaf yn wanwyn a gwanwyn yn haf. Ni throediai neb y tir ond ambell grwydryn yn chwilio'r llwybyr esmwythaf i Unlle-yn-y-byd ac ni sylwodd hwnnw ar y fan lle gynt bu allor lle nawr y ffrwydrai gwenith, haidd ac yd drwy'r rwbel. GRYM Geiriau'n seiliedig ar ddigwyddiad yn Nwyrain Dinas Llundain ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. A phe bai wedi sylwi a ddeallai ei fod yn gweld Gwyrth y Cread a Grym yr Atgyfodiad? A ddeallai nad yw grym dinistriol y medelwyr yn difa grym creadigol Duw mewn natur na bywyd dyn na hanes byd? D. Hugh Matthews