Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pan gynhelid y seiat gyntaf yn y Gwndwn, nid nepell o Goed y Pry yn Llanuwchllyn ym 1791 un o'r pump a'i mynychai oedd Owen Edwards, Pen y Geulan. Bu'n arweinydd doeth i'r ddiadell fach o Fethodistiaid a phan fu farw ym 1844 traddodwyd ei bregeth angladdol gan y Dr. Lewis Edwards. Ymsefydlodd y Methodistiaid yng Nghapel y Pandy maes o law a chofnodir bedyddio pump o blant Owen ac Elizabeth Edwards, Pen y Geulan, ar ddalen gyntaf Llyfr Bedyddiadau yr hen addoldy. Y cyntaf a fedyddiwyd ar Fai 26, 1807, oedd Edward a'r gwr a roddodd y dwr ar ei dalcen oedd neb llai na Thomas Charles. Simon Lloyd fedyddiodd ei chwiorydd Marged a Catrin, a'i frawd John, ac Ebenezer Morris a fedyddiodd y mab ieuengaf Owen ar Fai 18, 1817. Daeth y mab hynaf Edward yn enwog yn ddiweddarach ar bwys yr ateb da a roddodd i un o'r Comisiynwyr oedd yn hel gwybodaeth i Lyfrau Gleision 1847. Pan ofynnodd hwnnw iddo pam ei fod yn esgeuluso'i fasnach yn y felin i ymboeni gyda'r plant yn Ysgol y Pandy, dyma'r ateb a gafodd: "I do love the children, and I do love my country". Ar ôl bod yn y Bala gyda Lewis Edwards "yn tynnu rhwd oddi ar fy Saesneg" anogwyd ef i fynd i Goleg Normal Borough Road, Llundain, gan y Parch. John Phillips, y gwr o Bontrhydfendigaid, Ceredigion, a sefydlodd y Coleg Normal ym Mangor. Ac er i Edward gael cynnig cyflog o £ 100 am fynd i ysgol arall dewisodd ddod yn ôl i Ysgol y Pandy a derbyn dim ond £ 30 am ei lafur. Yr oedd Ysgol y Pandy yn gorfod cystadlu gydag Ysgol y Llan ac er bod 60 ym mhob un am gyfnod ymadawodd plant y Llan i gyd ond dau a mynd i ysgol Edward Edwards. 'Roedd yn rhaid i rieni'r ddau a adawyd ar ôl ddefnyddio'r wialen fedw bob dydd i gael y bechgyn at eu gwersi. Y diwedd fu cau Ysgol y Llan a dyma sylw W J. Gruffydd ar hynny yng nghofiant Owen Morgan Edwards: "Yr oedd annibyniaeth draddodiadol Llanuwchllyn wedi bod yn ormod i'r 'dylanwad oedd yn y Llan'. Y mae meistr ar Meistr Mostyn, a swatiwr ar Swatcyn". Mab i Edward Edwards, Pen y Geulan, a'i wraig Elizabeth, oedd Owen Edwards, Melbourne. Fe'i hordeiniwyd ym 1872 a bu'n weinidog ar eglwysi Saesneg gyda'r Hen Gorff yn Llanelli, Tywyn a Chaernarfon. Ar gyngor ei feddyg ymadawodd am Awstralia ym 1884 i geisio iechyd gwell. Gadawodd ei briod a'i dri mab Oswald, Gwilym Arthur a Llewelyn, yn nhre'r cofis gan obeithio eu cael i'w CLYMAU TEULUOEDD W. J. Edwards ddilyn yn fuan. Ond y newydd a gafodd wedi cyrraedd Awstralia oedd fod ei briod wedi marw'n sydyn yng nghartre'i rhieni yn Nolgellau, a hynny o dor-calon. Ar aelwyd y taid a'r nain yn Nolgellau y maged y meibion ac ar ôl dyddiau ysgol agorodd Oswald fodurdy yn y dre ac aeth Llewelyn i gadw siop yn y Bermo. Dilynodd Gwilym Arthur ei dad i'r weinidogaeth ac ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg Dolgellau, aeth i Aberystwyth lIe graddiodd gydag anrhydedd yn y Clasuron ym 1903. Ymaelododd wedyn yng ngholeg Iesu, Rhydychen, a graddiodd mewn Diwinyddiaeth ym 1908. Ar ôl tair blynedd yn weinidog ar eglwys Saesneg Zion, Caerfyrddin, symudodd i Eglwys Saesneg Oswald Road, Croesoswallt ym 1911. Eglwys Saesneg City Road, Caer oedd ei faes nesaf ym 1917, a dyna hefyd pryd y priododd â Nesta, merch Richard Hughes, milfeddyg yng Nghroesoswallt, a'i briod. Deil Mrs. Edwards i fyw yn ei thre enedigol o hyd ac y mae'n nesu at ei chant oed. Y Tabernacl, Bangor oedd unig eglwys Gymraeg Gwilym A. Edwards, a bu yno 0 1923 i 1928 pryd y gwahoddwyd ef i olynu'r Athro David Williams, yng Ngholeg y Bala. Bu fy nhad yng nghyfraith yn weinidog yn y Tabernacl, Bangor yn ddiweddarach, ac yn un o'i lythyrau at Harri Williams fe ddywed iddo roi Pen y Geulan yn enw ar dy'r gweinidog, yn lle'r 'Sunny Hill' oedd yno gynt. Ym 1939 penodwyd G. A. Edwards yn Brifathro'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth a threuliodd ddeng mlynedd yno cyn ymddeol a mynd i fyw i Groesoswallt. Bu farw ar Hydref 5, 1963, yn 82 oed, a chladdwyd ef yn ymyl ei gydweithiwr yn y Bala, Y Prifathro David Phillips, ym Mynwent Llanycil. Cyfoethogodd G. A. Edwards fywyd Cymru nid yn unig fel bugail a phregethwr ac athro, ond fel llenor cynhyrchiol yn ogystal. Yn ei ysgrif ar y Prifathro yn Drysorfa, Mehefin 1957, y mae Islwyn Ffowc Elis yn dweud: "Euthum i'r Coleg Diwinyddol yn ofni teyrn. Deuthum oddiyno wedi cael cyfaill". Ymsefydlodd mab ieuengaf Pen y Geulan yng Nghoed y Pry a ganed iddo ef a'i wraig Beti, bedwar o feibion, Owen, Richard, John a Thomas. Pan ddechreuodd Owen Coed y Pry ac Owen Pen y Geulan-bregethu yr oedd pobl yn cymysgu rhyngddynt a dyna pryd y gosodwyd Morgan yn enw canol i'r cyntaf. Y oedd y ddau gefnder yn gyfeillion agos ac ar ôl cyrraedd Melbourne cafodd Owen Edwards gynnig swydd fras i'w gefnder yn Sydney. Bu O.M. mewn cyfyng gyngor ond ar ôl pendroni a thrafod gyda'i rieni penderfynodd aros yn Rhydychen ar gyflog tipyn llai nag a gynigiwyd iddo yn Sydney, "Gwell gennyf gael cyflog llai a bod yn agos at fy nghartref Byddai hanes diweddar Cymru yn dra gwahanol pe bai O.M. wedi dilyn ei gefnder i bellafoedd daear, dim sôn am na Chymru'r Plant, Y Cymru Coch, Urdd Gobaith Cymru, Eisteddfod yr Urdd, na gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn. A rhywun heblaw Owen Edwards yn Gyfarwyddwr S4C! Dringodd brodyr O. M. Edwards i safleoedd o bwys, Edward yn Athro Hanes yng Ngholeg Aberystwyth, a John yn Brifathro Ysgol Sir Treffynnon, ac yn llenor da. Amaethu yn yr hen gartref a wnai Thomas ac yr oedd yn dipyn o gymeriad a thynnwr coes. Gwyddom i Owen Morgan fod yng Ngholeg y Bala yn paratoi i fynd i'r weinidogaeth gyda Lewis Edwards a cheir yr hanes a manylion am ei deithiau ar y Suliau yn y cofiant gan W. J. Gruffydd. Rhoes y bwriad heibio ac nid oes neb sy'n fyw heddiw yn cofio ei glywed yn pregethu. Y mae'r henwr annwyl John Morris Jones, Bryn'raber, Llanuwchllyn (y ty lle bu O.M. yn byw ynddo cyn adeiladu Neuadd Wen) Llanuwchllyn, sy'n 101 oed ac yn byw yng nghartref henoed Bron y Graig, Y Bala, yn cofio am John Coed y Pry yn pregethu yng nghapel Glanaber (a godwyd ym 1872 i gymryd lle hen Gapel y Pandy) ar dro'r ganrif. Daliodd John i bregethu yn Sir Fflint hyd ei farw ym 1924 ac yr oedd Edward yn Bregethwr Cynorthwyol cymeradwy iawn yn Aberystwyth a Cheredigion. Yr oedd yn flaenor yng nghapel Salem yn y dre a bu'n Llywydd Henaduriaeth Gogledd Ceredigion ym 1909. Cyfrannodd yr Edwardiaid yn helaeth i fywyd Cymru a da dweud mai'r un teulu sy'n byw ym Mhen y Geulan o hyd.