Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cynnes; yn llunio damhegion perffaith a chyrhaeddbell, yn gwneud yn fawr o'r plant ac ymhyfrydu yn eu chwareuon, yn darllen a hyfforddi yn y synagog a'r deml, yn werthfawrogol o'i dras ac arferion a darfel- ydd ei genedl tra yn llym ddiarbed a diofn ei gondemniad o rith a 'surdoes' a balchder ymwthgar a hunan-gyfiawn, o dwyll a chymryd mantais; yn tosturio a mynd i fewn yn dreiddgar i ddryswch ac anhawsterau pobl, yn cydymdeimlo ac yn deall afradlonedd, yn ymdrin yn ddwys â gwraig wrth y ffynnon o gymdeithas nad oedd Iddewon eraill yn gwneud fawr â hwy; yn arbed â'i air yn unig y wraig yr oedd dynion creulon yn ei rhuthro i'w rhoi i farwolaeth arw iawn — yr oedd godineb agored wedi ei gwneud yn 'fair game' a dyna pryd mae pobl yn mwynhau eu creu- londeb didostur fwyaf gwelodd Iesu Grist trwy'r cwbl, ond pwy arall a allasai syfrdanu y gwallgofrwydd â'i air â'i amrant fel efe, a bod mor gadarn ddeallus hefyd wrth y wraig yn ei hoferedd; mae aros yn fyfyrgar uwchben y cwbl yma, yn ei amryw- iaeth rhyfeddol a chofio'r daith drist olaf i Jerusalem, yr hunan-feddiant tawel ag yntau'n gwybod yn iawn pwy na fyddai y dyddiau hynny mor eithafol greulon y medrai'r Rhufeiniaid fod pan deimlent fod galw, y fflangellu nes bod y croen i ffwrdd, y gwawd a'r llusgo ei ffordd i Ie y poenydio eithaf, estynedig, cyn marw yr ysbrydol- rwydd cyson, yn ddwys a rhyfeddol, yn llwyr ymblethu â gwasanaeth o dosturi ymarferol ac annogaeth i fywyd glân onid yw hyn oll a llawer mwy yn gosod yr hanes ymhell tu hwnt i chwedl ac yn gwneud ei wrthrych yn unigryw uwchlaw dim o ryfeddod campwaith Plato neu Shakespeare neu Leonardo da Vinci neu pwy bynnag a ddewiswch a fwriwyd i'r wyneb yng nghwrs naturiol hanes. Pa fodd yr ymddangosodd i rai o'i gyfoedion ar ôl ei ladd sydd fater dyrys ac na fedrwn ni, mae'n debyg, byth wneud fawr ohono, ond ei bod yn help cofio nad cnawd yw neb ohonom, ond meddwl a chrebwyll ac ewyllys na arglwyddiaethir arnynt yn llwyr gan ymenydd a chorff. Nid ag athrawiaethau eglwysig a thraddodiadol y mae cychwyn, ond â'r Iesu ei hun fel y daw i'n gwydd mewn myfyrdod gweddigar a gostyngedig ac mewn llawn ymwybod â'r hyn y bu i Dduw ei wneud cyn hynny ym mywyd a phrofiad y gymdeithas freintiedig y cododd Iesu Grist yn ei phlith. Ni wn i sut y medrai person cwbl ddynol ymhob peth, yn bwyta ac yfed a sychedu a blino fel eraill, a heb fod yn gwybod llawer o bethau cyfarwydd i bob plentyn ysgol heddiw, sut y medrai hwn fod yn gyflawn- der Duw hollalluog hefyd. Ond nid yw hyn yn poeni cymaint arnaf. Bod trosgynnol yw Duw, ac yn unigryw yn hynny. Mae llawer- oedd o bethau a phobl feidrol (Lluosogaeth sydd piau hi yno) ond 'un Duw sydd', ac o raid, a hwnnw ymhell o gyrraedd ein darfelydd ni yn ei hanfod. Nid yw mewn amser na lle, a mae ei ddaioni yn hanfodol yn un a phob rhin arall ynddo. Nid i ni mae torri i'w ddirgelwch, ond mae ei ddadlen- iadau ohono ei hun mewn hanes a phrofiad, a'r pethau y medrwn ni eu deall, yn ddigamsyniol; ac yn Iesu Grist fe welwn hyn oll yn y fath gyflawnder perffeithrwydd diwyro nes gorfod cydnabod, er bod cymaint heb ei esbonio esbonio gormod fu tramgwydd diwinyddiaeth bob amser cydnabod fod Duw ei hun, heb beidio bod yn Dduw nac ymranu, yn ei gyflawnder yn byw bywyd byr a dioddef marwolaeth lem y gwr rhyfedd hwn. Yn y fyfyrdodaeth ymroddgar ac ufudd yma y cawn ni ben llinyn ein dirnadaeth o Grist. Fe erys mwy i'w ddweud, ond gydag Ef ei hun y mae cychwyn. Ond rhaid i mi adael y cwestiynau hanfodol hyn yma am y tro. Hyderaf i mi ddweud digon i godi archwaeth y darllen- wyr at y symbyliad sydd i'w gael yn y gyfrol gampus yr wyf yn sôn amdani. Mae llawer heb ei grybwyll ond gwell na dim fydd mynd at y gyfrol ei hun. Fe ddylid bod prynu a darllen helaeth arni, er mawr fudd i fywyd ein cenedl heddiw. Am ddatganiad manwl gwêl The Sunday Times Ebrill 7fed, 1985. Yr oedd y Rhufein- iaid yn fwy goddefgar a diwylliedig nag ymerodraethau mawr tebyg, ond lle teim- lent fygythiad medrent fod yn ddiarbed o ffyrnig. Hywel D. Lewis "Diwinyddiaeth ar Waith" Diwinyddiaeth ar Waith David Protheroe Davies Cyhoeddiadau Modern f2. SO Cymwynas ddiweddaraf Cyhoeddiadau Modern Cymreig yw llyfr David Protheroe Davies "Diwinyddiaeth ar Waith". O fewn cwmpas byr o tua 80 tudalen ceir yma ddadansoddiad clir o natur Diwinyddiaeth Rhyddhad De America gan ddiwinydd pro- ffesiynnol o Gymro sy'n ysgolhaig o'r radd flaenaf. Dadl DPD yn ei lyfr ydyw nad disgyblaeth glinigol 'wrthrychol', pwnc trafod academyddion sy'n byw ymhell o swn y boen sydd yn y byd neu destun pre- gethwyr chwe troedfedd uwchlaw'r ddadl, ydy diwinyddiaeth i fod. Ac nid diwinydd- iaeth 'newydd' ychwaith ydyw diwinydd- iaeth rhyddhad, ond ffordd o ddiwinydda. Diwinyddiaeth ar waith ydyw, ffordd o feddwl am Dduw o fewn cyd-destun cym- deithasol, gwleidyddol a diwylliannol y crediniwr. Yn sicr genhedlaeth yn ôl fe welsom ysgariad rhwng 'pregethu diwin- yddol' a 'phroblemau cymdeithasol neu wleidyddol' y dydd. Yn nhyb gwrandawyr pregethau hanner can mlynedd yn ôl, tipyn o sarhad oedd y disgrifiad 'pregeth ymar- ferol'. Onid oedd pregethu 'athrawiaethol' yn anghymharol bwysicach? Ond mae llad- meryddion Diwinyddiaeth Rhyddhad yn ceisio ymgodymu â phroblem y berthynas rhwng ein ffydd ni a'n ffordd ni, rhwng fframwaith iachawdwriaeth a sustem seciwlar. Nid dadansoddiad clinical y meddyliwr yn trafod pwnc 'arwahan' i'n bywyd pob dydd sydd angen arnom, ond meddyliwr sy'n grediniwr, crediniwr sydd am ddangos sut mae ein Ffydd yn ffitio, neu yn amlach na pheidio, yn gomedd ffitio o fewn sustemau bydol ein hoes. Y mae lladmeryddion Diwinyddiaeth Rhyddhad yn ein cyhuddo yn y Gorllewin o hybu math o ddiwinydda sy'n amddiffyn 'status quo' cyfalafiaeth y Gorllewin, ac mai rhan o ormes diwylliannol economaidd a gwleidyddol y Gorllewin dros bobl y Trydydd Byd yw ein ffordd ni o ddiwin- ydda. Hen ddadl mewn diwyg newydd. Mae dadl DPD yn dwyn ar gôf anerchiad a glywais mewn cyfarfod o genhadon yn Nhaiwan flynyddoedd yn ô1. Minnau wedi mynd yno i ganol nythaid o genhadon oedd yn gweld sefyllfa wleidyddol Taiwan yn bwnc cwbl amherthnasol i bregethiad yr Efengyl, a minnau'n ddigon hunan-dostur- iol ac unig yn y cwmni balch. Nid oeddwn yn disgwyl fawr o "ryddhad" ychwaith gan fod pawb ond fi yn credu yn llythrennol fod Jonah wedi cael ei lyncu yn llythrennol gan forfil llythrennol, ac yn barod i fynd i'r grocbren dros yr egwyddor mai llyfr gwydd- onol yw Genesis. Minnau yn barod gyda'm dyfyniad clyfar gan Skinner "The credibil- ity of Jonah does not rest upon the edibility of the prophet". Ac yn ddigalon, yn ehwedig o feddwl mor echrydus o amherth- nasol oedd ffars y gynhadledd i fwrlwm bywyd y Sineaid o'n cwmpas. Ond trwy drugaredd daeth goleuni yn yr hwyr. Cawsom anerchiad gan frawd o'r Unol Dal- eithau, ceidwadol ei ddiwinyddiaeth, a fu'n gweithio am oes gyfan, fel ei dad o'i flaen ymhlith llwyth yr Hakka, talcen galed sobor i genhadon y Gorllewin. Apeliodd yn daer ac effeithiol (llawer mwy effeithiol i mi am ei fod yn geidwadol ei ddiwinyddiaeth) am i ni ddiosg dillad diwinyddol y Gorllewin a rhoi amdanom wisg ddiwinyddol oedd yn gweddu i sefyllfa y Dwyrain. Dyna'r gamp, nid yn unig cael tonau 'oriental' i'n hemynau! Ond tôn newydd i'n diwinydda. Meddyliwch am ffwndamentalydd fel hwn yn pledio 'culturisation', ac yn barod hyd yn oed i hepgor yr enw Tesu' am rhyw enw Sineaidd arall os oedd hynny yn mynd i gyf- lwyno ei Arglwydd yn well i'r Hakka. Deud oedd hwn fod ein ffordd o gyflwyno Crist yn atalfa, wir, yn ormes weithie, ar y bobl. 'Roedd y ffaith fod yr hen wr bron a chael ei ddiarddel gan y cwmni yn y fan ar lle dim ond yn ategu'r neges i mi. Yn ei ddisgrifiad o sefyllfa Cristnogaeth yn Ne America mae llyfr DPD yn rhoddi eglurhad i ni sydd yn anghyfarwydd â'r hyn