Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sy'n digwydd yno nawr. Cawn gefndir undod diwylliannol y cyfandir, imperial- aeth newydd economaidd y Gorllewin, gormes llywodraethau adweithiol, y cyferbyniad eithafol rhwng y cyfoethogion a'r tlodion. Ac wedyn ymdriniaeth o'r datblygiadau o fewn Eglwys Rhufain mewn ymateb i'r sefyllfa hwn. I ni sydd angen 'thumbnail sketch' o feddylwyr ein hoes y mae braslun DPD o fywyd a gwaith Camara, Romero, Gut- ierrez a Boff yn ysgogiad i ddarllen mwy. Mae'r llyfryddiaeth helaeth ar ddiwedd pob un o'r chwe phennod yn ein gwahodd i fentro ymhellach i'r maes cyffrous hwn, ple mae cymaint pwyslais ar addysg feiblaidd, ar Deyrnas Dduw, ar droedigaeth ("Y mae rhyddhad Duw yn mynnu troedigaeth, ond nid mater o newid argyhoeddiad yn unig mo troedigaeth: mae'n fater o weithredu'n ymarferol.") Diwinyddiaeth ar waith. Gweithio allan ein hiachawdwriaeth. Llyfr at iws ein gweinidogion a'n blaen- oriaid yw hwn. Llyfr ydyw i'n deffro o'n syrthni, a chyffroi ein cymalau llonydd. Onid oes angen 'diwinyddiaeth rhyddhad' a honno'n Ddiwinyddiaeth ar waith arnom ninnau yng Nghymru heddiw? Rhoddwch eich diwinyddiaeth ar waith. Prynwch y llyfr. John H. Tudor Rhyfel yr Oen Arfon Jones Pris [1.25 Newydd orffen a chymeradwyo "Llythyr" Guto ap Gwynfor at Eglwysi Cymru yn pledio dros heddwch a dyma lyfr Arfon Jones, Swyddog Ieuenctid yr Annibynwyr yn un rhuthr o frwdfrydedd, yntau hefyd yn cyhoeddi Heddwch ei Arglwydd dan y teitl "Rhyfel yr Oen". Cawsom ragflas o'r neges gan Arfon yn y Tyst 14 Chwef. gan iddo ein hatgoffa bod 1985 yn flwyddyn a neilltuwyd gan y Cenhedloedd Unedig i ganolbwyntio ar ieuenctid gyda'i thema sef Heddwch (Shalom), Cyfraniad a Datblyg- iad. Yn gynnar yn ei drafodaeth y mae Arfon yn ysu i roi hergwd i'r traddodiad diwinyddol rhyddfrydol. Cofied ei eiriau ei hun (tud. 49 nodiad). "Rhaid i'r Cristion sy'n heddychwr ochel rhag dilorni a chamfarnu Cristionogion sydd yn arddel safbwynt gwahanol iddo" — cyfeirio y mae yma at y Cristionogion sy'n methu cytuno â safbwynt yr heddychwr ond gellid cym- hwyso'r geiriau hyn at bob math o anghytuno. Yn sicr bu gan ddiwinyddiaeth ryddfrydol ei gwendidau a chred Arfon fod y seiliau rhyddfrydol dros heddychiaeth yn gwbl annigonol ac nad ydynt yn wahanol i seiliau llawer o ddyneiddwyr. "Rhaid cael sail fwy cadarn" meddai, sef "Person a Gwaith yr Arglwydd Iesu Grist" etc., ond heb enwi yr un heddychwr y gellid eu rhestri o ddechrau'r ganrif drwy'r ddau Ryfel Byd (gw. I Herio'r Byd. Gol. D. Ben Rees, Cyfrol 1 a 11) yr argraff a gefais i erioed mai dyna oedd union sail argyhoeddiad y lliaws ohonynt a hynny heb ddiystyru cydnabod geiriau Iesu ac fe feiddiwn i ychwanegu mai geiriau Iesu yn anad un peth arall a fydd yn dal i herio dynion. Gwerthfawr hefyd fu tystiolaeth y dynei- ddwyr pan oedd Cristionogion "uniongred", y lliaws ohonynt, yn gwbl filitaraidd eu hysbryd. Ar tud. 22 mewn nodiad ac mewn print mân gosodwyd pwnc sy'n llawer mwy perthnasol i ni heddiw na rhai o'r pynciau a osodir yng nghorff y gwaith ond diolch amdano. Yn hwn mynega Arfon ei gred, "y dylai Cristionogion addysgu'r cyhoedd ynglyn â pheryglon a ffolineb pentyrru arfau i weithredu'n boliticaidd i weithredu'n ddi-drais (eto tud. 50) mewn anufudd-dod sifil os oes raid. Os yw Duw yn Arglwydd ar fywyd y Cristion o gwbl, yna mae'n Arglwydd ar bob rhan ohono gan gynnwys ei wleidyddiaeth. Mae yna ddigon yng Nghymru heddiw yn gwrthod yr athrawiaeth hon, mai'r flaenoriaeth a'i hunig gonsyrn yw achub yr unigolyn ac na ddylai'r eglwys ymyrryd mewn gwleidydd- iaeth. Wrth gwrs bod raid achub y berson unigol ond y mae cryn wahaniaeth rhwng crefydd bersonol a chrefydd breifat. Ac y mae rhywun yn sicr o ofyn wrth weld cyfeir- iad cwta (tud. 37) at Rhuf. 13,1, "mae'n rhaid i bob dyn ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben" a'r geiriau "gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw"'a fuasai'r Apostol wedi dweud hynyna yn nyddiau Domitian y Bwystfil. Ond gan ei fod yn gwestiwn mor fawr yn ymestyn o ddyddiau Cystenin hyd at ddyddiau Niemöller a'r Esgob Tutu ni ellid am y tro ond megis codi'r cwestiwn a'i adael ond mae'n bwysicach testun na rhai materion eraill a gaiff fwy o sylw. Efallai mai dyma wendid yr ymdriniaeth drwyddi draw sef cyffwrdd â gormod o bynciau heb eu trafod yn llwyr. Mae Arfon yn pwyso'n drwm ar yr Hen Destament ac fe gytunwn nad oes ystyr i'r Testament Newydd heb yr Hen Destament fel y deallodd yr Eglwys wrth gondemnio Marcion. Mae'r HD yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn eilunaddoliaeth ein dyddiau. Ond mae'n amlwg fod gan Arfon obsesiwn ynglyn â'r Rhyfel Sanctaidd (Iahwe). Gwr o'r enw Gerard von Rad yn ei waith ar lyfr Deuteronomium a dynnodd sylw yn ein dyddiau ni at y Rhyfel Sanctaidd a dylid cydnabod hynny a phan ddywed Arfon (tud. 21) fod y Deyrnas wedi dod ni allesid fod wedi dweud hynny ychwaith heb bwyslais C. H. Dodd). Ar dudalen 5 dywed Arfon, "R'wy'n credu bod y Beibl yn Air anffaeledig Duw" ac felly mae'n ymddangos fod rheidrwydd arno i gyfiawnháu popeth. Cofier mai safbwynt derfynol Arfon yw fod "heddychiaeth Gristionogol wedi ei gwreiddio'n ddwfn yng Nghrist a'i Air" (tud. 20) ond y mae'n creu anhawster wrth geisio neu wrth ddewis y Rhyfel Sanctaidd fel model. "Ffolineb" meddai, "yw dadlau fel y gwna rhai rhyddfrydwyr (ers dyddiau'r heretic Marcion) fod Iesu wedi dysgu'n groes i'r hyn a welwn yn Ysgrythurau'r Hen Destament (tud. 24). Ond yn bendant fe ddysgodd Iesu yn groes i'r HD, e.e. wrth gywiro'r deddfau ynglyn â bwyd glân ac aflan (Mc.7, 17-23) ac ysgariad (Mac.10, 1-10). Gwyddom fod y ddau ddyfyniad ynglyn â charu Duw a charu cymydog yn yr HD ond y peth syfrdanol newydd oedd eu gosod wrth ei gilydd. Pe bae dynion wedi derbyn y cyflawnder o'r dechrau paham y daeth proffwydi mawr yr wythfed a'r seithfed ganrif? "Ond", meddai Arfon, yr oedd y datguddiad yn nghyflawn hyd nes y daeth i'w lawn dwf ym Mherson Iesu Grist (nodiad tud. 24). Os cyflawn, mae rhywbeth yn anghyflawn o'i flaen. Haws gennyf gredu bod datguddiad Duw yn gyflawn o'r dechrau ond bod dyn yn methu ei amgyffred. Y mae yna yn sicr ddigon o adrannau is-Gristionogol yn yr HD. Os yw cymeriad Duw yn ddigyfnewid ac wedi ei ddatguddio ym Mherson Crist yna mae yna lawer o bethau yn yr HD y mae'n rhaid eu hesgusodi yng nghyd-destun eu cyfnod neu eu condemnio. Un peth yw esbonio yng ngoleuni eu cyfnod peth arall yw eu cyfiawnháu. Ond nid oes raid i neb fod yn Farcion a gwrthod rhannau o'r HD nac yn rhyddfrydwr diwinyddol nac yn heretic i weld mai arwain ei bobl y mae Duw. Rhaid ystyried y mater yng ngoleuni'r holl ysgrythur ac yng ngoleuni gair a gweithred Iesu Grist. Dyna fater yr hil-laddiad (genocide), herem (Deut.20, 10-17) lladd gwyr, gwragedd plant, anifeiliaid a berthynai i'r gelyn. Dywed Arfon (tud. 27) "rhaid i ni gyfaddef eto fod gan Dduw, rhoddwr bywyd hawl cyfiawn i ddifa bywyd ac i orchymyn ei ddifa". Eto, "R'oedd y Canaaneaid yn llawn haeddu'r farn a ddisgynnodd arnynt!" A fuasai Arfon yn