Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar AdaryNefoedd Ac fe wnes i, a hynny mewn syndod un bore Sadwrn ddigon oriog ddechrau Mehefin hynny yw, fe edrychais i ar un ohonynt. Cyw drudwy oedd 0 "Digrifwas adar byd" fel y'i disgrifwyd gan R. Williams Parry ac mor dda yr adnabu ef yr aderyn "Annuwiol yn ei hoen." Annuwiol? Dwn i ddim chwaith! I'r capel y daeth o ac yn gwybod ei Feibl efallai, ar nad oes sôn amdano ef fel y cyfryw yn y Llyfr Mawr. Efallai efallai a ddywedais i y dysgodd ei fam adnod neu ddwy iddo cyn iddo adael y nyth. Ag yntau ar ei gythlwng, fe'i cofiodd hi: "Ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy." Mewn argyfwng y daw adnodau i'r cof wedi'r cwbl. Ond nid adnodau cysurlawn a ddaeth i'm cof i chwaith pan welais i o! Newydd osod blodau ar y bwrdd yn y set fawr yr oeddwn i ac yn mynd ati hi i godi llwch a rhoi mymryn o sglein yma ac acw. Ac yn sydyn, fe'i clywais i o, nid ei ffliwtio pur ond "Annisgwyl hwrdd ei adain o." Chwarae teg, ni bu dim "curo a churo dig" ac ni ddaeth â /'sanctaidd epistol poen" dan ei aden i mi chwaith. Yn hytrach, f'anwybyddu i'n llwyr a wnaeth o ac anelu am y blodau ac, wir i chi, eistedd nid ar gangen yr hen bennill telyn ond ar y blodyn uchaf a hynny heb darfu dim ar y trefniant. "Dim llywio a bod yn llawen" a wnaeth o wedyn ond dechrau bwyta'r petalau "Dyna'r modd y mae yn byw A gado i Dduw arlwyo." Bwyta? Wel ie dyna lle gwelwn i o'n eistedd a phetal euraid yn ei big. Ond wrth i mi nesu, rhoddodd naid fach daclus ar ystlys y pulpud gan dybio, siwr o fod, na feiddiwn i, merch fel ag yr ydw i heb na choler gron na theitl parchus i nghymer- adwyo i, ei ddilyn i'r fan honno. A dyna sut y dechreuodd hi yr ymson neu'r ddadl galwch hi yr hyn fyd a fynnoch ond doedd hi ddim yn ffrae. Nid lle i ffraeo ynddo yw'r capel! Cael trafferth i ddeall ein gilydd yr oeddem ni ac fe ddigwydd hynny hyd yn Edrychwch Marged Pritchard oed yn y capel weithiau yn enwedig rhwng dwy genhedlaeth. Yn ei lasoed y mae o a finnau'n nain fwy neu lai parchus. Beth bynnag am hynny, fe fynnodd o wneud ei farc yn y pulpud a hynny heb agor ei big a sawl pregethwr arall a lwyddodd i wneud hynny? A chwarae teg iddo, wnaeth o ddim malu awyr ar ôl gorffen ei fusnes yno, dim ond cofio mai yn y nefoedd y mae'r canu a mynd ar wib am y galyri. Druan ag o! Sut oedd modd iddo wybod nad oes galw am y galyri yn ein capeli ni bellach, gwaetha'r modd, a dyma finnau, yn broffwyd gofidiau, yn prysuro ar ei ôl i ddweud wrtho nad ydym ni'n mynd i'r uchelfannau yn yr oes oleuedig hon. Yn ôl pob golwg, nid Calfin mohono, gan na fynnai, ar unrhyw gyfrif, wrando ar fy syniadau cul i ac ni fynnwn innau, yn fy ystyfnigrwydd, barchu ei ysbryd anturus yntau wrth iddo wibio 0 ochr i ochr, o gornel i gornel a finnau, fel yr oedd mwyaf cywilydd i mi, yn daer am ei erlid. Ond o'r diwedd, fe wnaethom ni gytuno ein dau, mai ar lawr y capel yr oedd gorau i ni ddadlau a hynny'n fwy tawel. I lawr y grisiau ar garlam â mi ac, fel saeth, fe anelodd yntau am y Beibl yn y set fawr. Am fatgoffa, efallai, nad yw'r Beibl yn rhoi ei sêl ar erlid mewn anghydfod, mai caru ein gilydd yw'r neges ynddo. Sefais innau i edrych arno, un o adar y nefoedd ag yr oedd o, ac wrth i mi wneud hynny, fe ddechreuasom ni'n dau ymdawelu. Ceisiais siarad yr un iaith ag o trwy chwibanu'n dawel arno fo. Neidio oddi ar y Beibl ar yr organ a wnaeth o wedyn, rhyw awgrymu, siwr o fod, nad oeddwn i mewn tiwn. Rhag iddi hi fynd yn gythraul canu'n y capel, fodd bynnag, fe neidiodd ar y set agosaf a finnau ar ei ôl. O set i set yr aethom ni gyda'r sgwrs rhyngom ni'n llawer mwy rhesymol erbyn hyn. Roeddem ni'n dechrau deall ein gilydd fel tae, dim ond i mi beidio â rhyfygu trwy estyn fy llaw tuag ato. A chwarae teg iddo, go brin fy mod i'n "bur iawn fy nghalon" gyda'r clwt codi llwch yn dal yn fy llaw. Does bosib, meddwn wrthyf fy hun, na wyr o un o'r Gwynfydau Cymreig yn ogystal â rhai'r Beibl: "Gwyn eu byd yr adar gwylltion Hwy gant fynd i'r fan a fynnon." Wel, i bobman ond i'r capel beth Jynnag! Pwy, wedi'r cwbl, yn y fan honno ydd eisiau cael ei gynhyrfu gan 'adar', lonydd sydd arnom ni eisiau. Dyna pam yr jeddwn i wedi agor y dau ddrws led y pen ddo gael mynd o fy ngolwg i. Ond, wyddoch chi, fynnai o ar unrhyw 'yfrif, gael ei dorri allan o'r capel ac yntau, /n ei olau ei hun, heb dorri rheol na Dhechu. Wedi cyrraedd y set agosaf i'r drws, i Drofi hynny i mi ac iddo'i hun, fe aeth ar ei iyll i'r ochr arall yn hytrach na dianc jrwy'r drws ac yn ei frys i ail ddechrau leidio o un sedd i'r llall, fe syrthiodd 'hyngddynt. A beth sydd waeth na syrthio rhwng dwy tôl mewn dadl ddiwynyddol? Ar ôl yr holl ymson, methu â gweld llygad yn llygad â wnaethom ni. Ac fi a'i daliodd o. Roeddwn i am ei ollwng i'r cae wrth ochr y capel. Ond nid fy ngweledigaeth i oedd ei weledigaeth ef. Ac yr oedd am i mi gael ?wybod hynny! Ehedodd ar draws y ffordd i ganol y deri yn y cae gyferbyn â'r capel. Ac wedyn? "Y chwedl nid edrydd ddim Dynged y deryn pur." Ar ôl siwt groeso 'digroeso', a ddaw o'n ;i ôl i'r capel? Tybed? Daw rhai o siomedigaethau mwyaf bywyd allan o gael beth 'ryn ni wedi mynnu ei gael. Mewn cyfarfod eglwysig llawn: "Ydych chi'n gallu fy nghlywed i yn y cefn?" Daeth ateb o'r cefn "Ydw, ond 'dydw i ddim yn meindo newid lle."