Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CRISTÄRDRYGADICT Gwyddom fod Cyngor y Cenhedloedd Unedig wedi ethol 1985 i fod yn Flwyddyn Ryngwladol yr Ifanc. A bwriad y cyngor yw tynnu sylw'r cyhoedd at broblemau'r ifanc ac yn enwedig y rhai hynny rhwng 14-25 oed. Yn ôl a ddeallwn mae tair thema sylfaenol yn cael eu tanlinellu gan y Cenhedloedd Unedig sef, cyfranogiad ac ymroddiad yr ifanc i'w cymdeithas; dat- blygiad yr ifanc i'w llawn botensial a heddwch. Gwyddom fod y tair elfen yma yn bwysig iawn mewn bywyd, a gwyddom hefyd bod yn rhaid cael amodau arbennig o fewn y gymdeithas er mwyn sicrhau bod yr elfennau yma yn cael ei cyfle priodol. Fel gweithiwr cymdeithasol credaf mai'r ffactor fwya pwysig er sicrhau twf yr ifanc a'u datblygiad, yw roi cyfle iddynt gymeryd eu lle ymhob math o weithgaredd cymdeith- asol, a thrwy hynny eu hannog i ddeall cyflwr y rhai sy'n llai ffodus o fewn y gym- deithas honno. Mae wedi fy mhoeni ers peth amser nad yw yr Eglwys wedi annog cymaint ag y medrai yn y cyfeiriad yma ac wedi colli cyfle gwych i danlinellu cyfrifoldeb cymdeithasol y Cristion. Faint o bobol ifanc ein heglwysi sydd wedi ystyried gwraidd problem fel alcoholiaeth neu broblem cyffuriau? Ydyn ni wedi'u hannog i feddwl ymhellach neu a ydym wedi'u gadael i dderbyn amlinelliad arwynebol o'r cyflyrau yma? A ydym yn wir wedi gofyn iddynt ystyried perthynas Cristnogaeth â'r gymdeithas gyfoes? Tybed? Ar brawf Ar ôl meddwl fel hyn mi gefais y cyfle i 'agor' trafodaeth â grwp o bobl ifanc rhwng 11 15 oed ym Methania, Tymbl Uchaf, a chael bod eu hymateb yn un brwd iawn dros wybod rhagor am wraidd problemau y gym- deithas gyfoes a'u gwneud yn berthnasol i werth ein ffydd Gristnogol. Dewisodd y grwp holi ymhellach ynghylch un o broblemau mwya dyrys adolesens sef prob- lem cyffuriau. Ceisiwyd edrych ar rai o'r resymau pam mae bobol ifanc yn troi at gyffuriau ac yna chwilio a oedd ateb i'r problem yma yn y ffydd Gristnogol. Dyma'r pedwar cwestiwn gwaelodol a ofynnwyd gan y grwp (1) A yw Iesu yn lesu cyfoes a fedr gynnig perthynas i rhywun sydd wedi'i wrthod gan bawb bron. (Rhywun fel y dryg adict)? (2) Neu, a yw sefyllfa fel sefyllfa'r dryg Alvis Richards yn disgrifio arbrawf dysgu gyda phobl ifanc adict yn ormod o her i Gristnogaeth yn sefyllfa rhy gymleth i weld ateb iddi drwy gynnig gwerthoedd a'r ffydd Gristnogol i unrhyw un sy'n mynd ar gyfeiliorn yn y ffordd yma? (3) Efallai bod rhai Cristnogoion yn teimlo mai ateb meddygol/cymdeithasol yn unig sydd i broblem fel hon os felly, a fyddem yn cydnabod taw crefydd annigonol i'r byd cyfoes yw Crist- nogaeth? (4) Sut y gall y gwir Gristion beidio a chymeryd agwedd bositif a dweud "Mae modd helpu 'unrhyw unigolyn sydd yn fodlon agor ei galon i'r Arglwydd Iesu oes mae modd i ni i gyd fyw bywydau pwrpasol drwyddo Ef." Mae wedi ein galw i fod yn dystion Iddo yn y gymdeithas fodern. Sut mae dod dros y broblem o swildod pan yn cynnig Cristnogaeth fel ateb i broblem unigol/dynol? Aed ymlaen i feddwl am ddull o gyfath- rebu fyddai'n ddiddorol i'r grwp gan gofio mai'r nôd oedd dod i ddeall mwy am "psyche" y person ifanc sydd wedi troi at gyffuriau er mwyn osgoi problemau unigol, teuluol, addysgol neu gymdeithasol. Penderfynwyd mae'r dull gorau fyddai ceisio creu cymeriad a fyddai'n "real" aelodau'r grwp merch o'r un oed (h.y. 13) â'r rhan fwyaf o'r aelodau. Yna ceiswyd uniaethu â hi o fewn ei sefyllfa deuluol, o fewn gwahanol grwpiau o fewn y gym- deithas ac hefyd yn yr ysgol. 'Roedd y ddeialog yn codi'n naturiol fyrlymus o syniadau'r ieuenctid, e.e. dyma'r brawd (Peter) yn siarad am "Elizabeth" gyda rhai o'i ffrindiau Peter Allai ddim aros yn hir heddi bois Mae bom yn mynd i fynd bant yn ty ni pan ddaw Liz gartre o'r ysgol. Ffrind(l) Pam? Peter Ma mam wedi ffindo pac o ffags yn ei bag hi. Ffrind (2) 'Na hen gythrel, doedd gyda hi ddim hawl i fynd i'w bag hi. Peter 'Sdim lot o 'brifacy' yn ein ty ni Beth bynna mae'n mynd i chal hi nes bod ei thrâd hi lan! Ffrind (2) Ti wedi roi sioc i fi d'yw hi ddim i weld y teip. Ffrind (3) Na alle ti feddwl na thodde ddim 'menyn yn ei phen hi. Ffrind (4) Dyma fel ma merched y rhai neisa sy' waetha dan y wên. Ffrind (5) Paid byth â llwyr drysto merch weda i Peter Hei bois well ifi fynd Ma'r ddrama fawr siwr o fod bron a dechre' Ac fe welwn y rhieni yn ymdrin â'r sefyllfa drwy orymateb a dangos diffyg dealltwriaeth at y ferch unig: Clywn Elizabeth Ond Dadi 'dwy ddim yn smoco. Mam Na fe, rhagor o gelwydd eto. Ma' gyda fi brawf dy fod ti'n smoco! Elizabeth Prawf? Tad Ie, Prawf! Mam Mae llawn dy fag di o cigarettes 'dwy ddim wedi cael shwd sioc eriôd. Elizabeth Ond nid i fi y prynes i nhw ond i'r merched sy'n whare ar y Graig Dim ond pac o ugen Mam Dim ond pac o ugen ychafi Prynes i ddim cigarette eriod. Ddim un! Ddim un! Tad Allwn ni ddim derbyn dy stori di Ti'n prynu cigarettes i'r merched wir! Elizabeth Ond 'wyn gweud y gwir wrtho chi. Tad Reit fe af i ofyn iddy 'nhw! Na ddiwedd ar y gân. Elizabeth O na plîs dadi Peidiwch gwneud hynny fydda nhw'n meddwl taw clapgi ydw'i wedyn. Fydd dim ffrindiau gyda fi. Mam 'Na ddangos dy fod ti'n dweud celwydd a fyddi di ddim yn cal mynd mas o gwbwl nawr, nes bod ti'n dysgu dweud y gwir. Tad Na Na Miwn fyddi di mwyach a DIM ARIAN POCED Ti'n deall Wrth fynd ymlaen â stori Elizabeth ac edrych yn wrthrychol arni, gallem weld na ddangoswyd ryw lawer o'r gwerthoedd Cristnogol gan y grwpiau oedd yn gysyllt- iedig â'r ferch yma. 'Roedd 'na dueddiad i bawb gael hwyl a sbri am ben creadur ddigon unig. 'Fedre hi ddim datgelu yr hyn oedd yn digwydd i'w rhieni. R'oedde 'nhw wedi colli pob ymddiriedaeth ynddi. Aed ymlaen i ddatblygu'r hanes a dangos cyflwi meddyliol/emosiynol y ferch yn dirywio a hithau yn dechrau chwilio am ffordd