Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYLANWAD CREFYDD AR ADDYSG OEDOLION Gwilym B. Owen, yn olrhain Er mai i'r ugeinfed ganrif y perthyn y mudiad addysg oedolion, â ei wreiddiau'n ôl i'r Canol Oesoedd, pan wnaed rhywfaint o ddarpariaeth gan yr Eglwys i addysgu oedolion gyda'r nod o'u cael i ddarllen yr Ysgrythurau. Datblygwyd y gwaith gan Wycliffe a'r Lolardiaid yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gyda'u pwyslais ar y Beibl fel yr awdurdod ar y ffydd, a'r pwysigrwydd o'i ddarllen; y mae yna dystiolaeth fod y Lolardiaid yn cynnal 'ysgolion' i oedolion, y dysgwyd eu dilynwyr ynddynt i ddarllen ac, mewn rhai achosion, i ysgrifennu. Erbyn y bymthegfed ganrif yr oedd y nifer a fedrai ddarllen wedi cynyddu, a daethant yn lluosocach fyth pan ddechreuodd William Caxton argraffu llyfrau ym 1476. Yn y ganrif ddilynol, ymddangosodd cyfieithiadau o'r Beibl i'r Saesneg, a gwelwyd llawer o frwdfrydedd i'w ddarllen a'i esbonio, gyda'r canlyniad fod oedolion yn mynd ati i ddysgu darllen. Arweiniodd y diddordeb mawr yn y Beibl at y pwyslais ar bregethu a ddilynodd y Diwygiad Protestanaidd ymhlith y Presbyteriaid yn yr Alban, y Piwritaniaid yn Eglwys Loegr, a'r Anghydffurfwyr. Yn sgil y pregethu, fe dyfodd yr arfer o gynnal 'proffwydoliaethau', lle caed nifer yn esbonio testun, a rhoddwyd cyfle i'r bobl drafod yr hyn a ddywedwyd wrthynt; rhagflaenydd y dosbarth WEA neu'r ysgol undydd! Sefydlwyd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol (yr SPCK) ym 1698, ac yn y blynyddoedd cynnar mi fu rhyw ychydig o ddarpariaeth ar gyfer oedolion, er mai gyda'i gwaith yn sefydlu ysgolion i blant, ac yn cyhoeddi llenyddiaeth, y cysylltir y Gymdeithas amlaf. Yng Nghymru, yr oedd Gruffydd Jones, Llanddowror, yn gefnogwr i'r SPCK ond nid oedd yn fodlon ar ei gwaith: teimlai fod ei chyrsiau'n rhy hir a'r tâl amdanynt, er yn isel, tu hwnt i gyrraedd pobl dlawd. A mynnai mai Cymraeg, nid Saesneg, a ddylai fod yn gyfrwng yr addysg. Fel canlyniad, sefydlodd ei Ysgolion Cylchynol. Yr oedd yr addysg yn y rhain yn rhad ac am ddim, a chynhaliwyd yr ysgol am dri mis, cyn i'r athro symud ymlaen i ardal newydd. Erbyn marw Gruffydd Jones ym 1761, cynhaliwyd 3,498 o ysgolion ac addysgwyd 158,000 ynddynt. Mewn rhai o'r ysgolion a gynhaliwyd yn ystod y dydd yr oedd dwy ran o dair o'r disgyblion yn oedolion, a gwnaed darpariaeth arbennig yn yr ysgolion nos ar gyfer oedolion yr oedd eu gwaith yn eu rhwystro rhag dod yn y dydd. Amcangyfrifodd Gruffydd Jones fod y nifer a ddaeth i'r ysgolion nos ddwy neu dair gwaith y nifer a addysgwyd yn yr ysgolion dyddiol. Adroddodd Gruffydd Jones, 'Daw pobl dlawd gyffredin o bob oedran, o chwe blwydd i ddeg a thrigain, i'r ysgolion, ar brydiau rhieni a phlant gyda'i gilydd', a dywedodd Ficer Trelech am yr ysgol yn ei blwyf, 'Gyda syndod a boddhad gwelais yno hen ddyn un ar ddeg a thrigain oed, â'i spectol ar ei drwyn a'r Catecism yn ei law, gyda phump arall a bobl dlawd a ddaeth gyda'u plant bach i gael eu dysgu i ddarllen Gair Duw'. Gellir yn hawdd haeru mai cul oedd syniad Gruffydd Jones am addysg, ond barn R. T. Jenkins oedd 'mai iddo ef yn fwy nag i ungwr arall yr ydym i ddiolch am barhad yr iaith Gymraeg yn ei disgleirdeb hyd ein dyddiau ni'. O'n safbwynt ni yn yr ysgrif hon y peth pwysig yw iddo ddangos ei bod yn bosibl i bobl mewn oed ddysgu, ac iddo ei gwneud hi'n bosibl i gynifer o werin dlawd Cymru yn ei oes fedru darllen. Sefydlwyd Ysgolion Sul yn niwedd y ddeunawfed ganrif gan arloeswyr fel Edward Williams, Croesoswallt, George Lewis, Llanuwchllyn, a Thomas Jones, Caerlleon, ymhlith yr Annibynwyr, a'r Bedyddiwr, Morgan John Rhys. Cyhoeddodd Rhys lyfr yn dwyn y teitl 'Cyfarwyddyd ac annogaeth i sefydlu Ysgolion Sabbothol ac Wythnosol yn yr iaith Gymraeg, trwy Gymru, ynghyd â gwersiau hawdd eu dysgu ac egwyddorion hawdd eu deall i Fabanod, ac eraill sy'n anllythrennog' Ffrwyth gwaith Gruffydd Jones oedd yr Ysgolion Cylchynol a gychwynnodd Thomas Charles ym 1785. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei Ysgolion Sul. O'r dechrau, yr oedd Ysgolion Sul Thomas Charles yn rhai i bobl o bob oed, nid i blant yn unig fel Ysgolion Sul Robert Raikes yn Lloegr. Ynddynt caed pobl o bob dosbarth, tlawd a chyfoethog, gweithwyr a meistri, ffermwyr a masnachwyr; yr oedd lle i drafodaeth yn y grwpiau bychain, ac astudiaeth fanwl o'r pynciau. Rheolwyd yr ysgolion yn ddemocrataidd gan yr athrawon a'r disgyblion hyn. Gwelir yma, yn ddiamau, rai o nodweddion addysg oedolion fel yr adnabydd hi yn ein dyddiau ni. Gwlad yr Hâf Gwelwyd y cyfuniad o addysg plant ac oedolion yng ngwaith Hannah a Martha More o 1789 ymlaen yng Ngwlad yr Haf, lIe sefydlasant ysgolion Sul, ysgolion dyddiol ac ysgolion nos i weision fferm, mwynwyr a gweithwyr diwydiannol, a gwareiddio'r holl ardal. Yn Birmingham, cychwynnwyd, ym 1787, ysgolion Sul yr Hen Gwrdd a'r Cwrdd Newydd i ddysgu'r disgyblion i ddarllen y Testament Newydd; yn ddiweddarach fe dyfodd o'r rhain Gymdeithas i ddysgu darllen, ysgrifennu, rhifyddeg, darlunio, daearyddiaeth, hanes a moesau datblygiad pwysig yn addysg oedolion. Rhoddodd twf Methodistiaeth dan arweiniad John Wesley hwb i addysg oedolion. Dysgodd pobl gyffredin i ddadlau ac arwain yn y seiadau, ac yr oedd y llu o bregethwyr lleyg a gododd yn awyddus i wella safon eu deallusrwydd drwy ddarllen a thrafod. Sefydlodd Wesley ysgolion, a gwnaeth gymwynas fawr â'i ddilynwyr drwy gyhoeddi llyfrau rhad nid ar bynciau crefyddol yn unig ond hefyd dalfyriadau o'r clasuron a llyfrau ar bynciau defnyddiol. Ym 1798, sefydlwyd Ysgol Sul i Oedolion yn Nottingham gan Fethodist o'r enw William Singleton a Chrynwr o'r enw Samuel Fox, i ddysgu gwragedd ifainc a weithiai yn y ffatrioedd i ddarllen y Beibl, i