Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ysgrifennu a rhifo. Sefydlwyd yr Ysgol mewn ystafell yn perthyn i Gyfundrefn Newydd y Methodistiaid, a chan ei bod hi ar gyfer oedolion yn unig edrychir arni fel 'yr ysgol gyntaf i oedolion'. Canfu Thomas Charles fod rhai oedolion yn amharod i fynychu dosbarthiadau gyda phlant, ac ym 1811, sefydlodd yntau ysgolion i oedolion yn unig. Yr oeddynt yn llwyddiant mawr, a thyrrodd pobl dlawd ac hyd yn oed oedrannus i'r dosbarthiadau drwy'r wlad. Bryste Yr angen i ddysgu pobl dlawd i ddarllen y Beibl a arweiniodd at gychwyn Sefydliad i Ddysgu Oedolion i Ddarllen yr Ysgrythurau ym Mryste ym 1812. Y prif ysgogydd oedd William Smith, gwr a gadwai'r drws mewn capel Methodist yn y ddinas; yn ei gynorthwyo oedd Thomas Martin, gweinidog gyda'r Wesleaid, a Stephen Prust, marsiandÏwr tybaco. Cafwyd cefnogaeth pobl o bob enwad, ac erbyn 1816 yr oedd cyfanrif y disgyblion yn 1,581. Lledodd y mudiad i drefi eraill fel Llundain, Plymouth, Birmingham, Lerpwl, Leeds a Newcastle yn ogystal â chanolfannau llai. Bu llawer o Grynwyr yn gysylltiedig â'r ysgolion. Gellid honni mai cyfyng oedd nod yr Ysgolion i Oedolion, sef cael pobl i ddarllen y Beibl, ond y mae'n werth inni sylwi ar eiriau M. G. Jones, awdur y llyfr safonol ar yr ysgolion elusennol, 'Byddai'n anodd darganfod gwerslyfr sy'n cyfrannu addysg mewn ffurf lenyddol mor berffaith, neu yn ein cymhwyso ni'n well i feirniadu'n ddeallus amgylchiadau bywyd yn y gymdeithas sydd ohoni, nag efengyl y tlodion. Nid ydyw'n beth anghyffredin i'r rhai sy'n myfyrio'r Beibl feddu ar ymdeimlad o geinder iaith, gwerthfawrogiad o farddoniaeth, a dicter fel tân ysgol yn erbyn drygau cymdeithas'. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daw Sefydliadau'r Peirianwyr (Mechanics' Institutes) i flaen y llwyfan, ac yn eu dilyn hwy, fudiad Astudiaethau Allanol y Prifysgolion; ar eu sodlau hwythau, ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, cychwynnwyd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ond parhaodd gwaith yr Ysgolion i Oedolion, ac yn wir, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu adfywiad yn eu hanes o dan ddylanwad y Crynwyr, megis Richard a George Cadbury, J.S. a Joseph Rowntree, a J. S. Fry. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd yna 350 o ysgolion gyda 45,000 o fyfyrwyr, 29,000 ohonynt dan nawdd y Crynwyr. Rhaid cydnabod fod y capeli yng Nghymru, ar un agwedd, wedi cyfyngu ar ddatblygiad y celfyddydau ond ar y llaw arall, rhoisant gyfle i'r werin i ymestyn allan at bosibiliadau uwch drwy eu holl weithgareddau, megis yr ysgol Sul, y cymdeithasau diwylliannol, yr eisteddfodau a'r oratorios, ac agor y ffordd i ddynion ifanc i fynd i'r weinidogaeth a derbyn addysg yn sgil hynny. Ni allwn adael y cipolwg hwn ar addysg oedolion heb sôn am y Sosialwyr Cristionogol. Dechreuodd y mudiad hwn ym 1848 dan arweiniad F. D. Maurice, J. M. Ludlow a Charles Kingsley i geisio cau'r agendor rhwng gwleidyddiaeth a Christionogaeth; yr ateb iddynt hwy oedd Sosialaeth, nid Sosialaeth seciwlar ond Sosialaeth wedi'i gwreiddio yn y traddodiad Cristionogol. Sefydlodd F. D. Maurice a'i gyfeillion Goleg Gweithwyr Llundain (The London Working Men's College), yn dysgu llenyddiaeth, celfyddyd, gwyddoniaeth a phynciau ymarferol, gyda'r pwyslais ar astudiaethau dyniaethol. Creodd y Coleg yr ymdeimlad fod addysg yn antur i'r meddwl a'r ysbryd, a bod athrawon a myfyrwyr yn gymdeithas yn chwilio gyda'i gilydd am wybodaeth. Nid dylanwadau crefyddol oedd yr unig rai i effeithio ar ddatblygiad y mudiad addysg oedolion; ffactorau eraill oedd y diddordeb mewn gwyddoniaeth a technoleg a ddilynodd y chwyldro diwydiannol, a dyhead y werin i wella ei chyflwr ac ennill rhyddhad gwleidyddol ac economaidd. Bu'r Siartwyr, Robert Owen a'i arbrofion diwydiannol, y mudiad Cydweithredol, Cymdeithasau'r Gweithwyr, llyfrau fel The Rights of Man gan Tom Paine, a gwaith allanol y prifysgolion yn ddylanwadol hefyd. Ond dywedwyd digon, mi gredwn, i ddangos mai'r Eglwys a fraenarodd y tir, a bod cyfraniad Cristionogaeth a Christionogion yn un sylweddol ac allweddol. Y DIAFOL YN Y DRYCH Mae'r ddawns boeth yn nefoedd heno ni 'r angylion budr, â'n breichiau am ein gilydd mor llithrig â seirff, a'n llygaid yn ddisglair fel gemau gwydr. Ac ar heolydd grisial dinas delweddau, helwn yn ddistaw, yn llwglyd fel bleiddiaid, am gariad oenaidd ein breuddwyd brau. Ond dim ond adlewyrchion a welai trigolion byd sy'n garchar o furiau gloywon; mae diafol y drych yn hawlio gwirionedd i'w deyrnas chwith sy'n annwn anhunedd; mae ei Iygaid oer yn nrych fy nghâr, mae ei Iygaid gwag yn y drych tu ôl i'r bar. Ond dryllio mae'r muriau drychau, chwalu mae'r ceyrydd cau, mae Seren y Bore, y fellten brydferth, wedi dod yn ddi-ofyn i'r diymadferth! Mae tân yn tarthu tyrau anobaith, mae haul yn toddi hual hunaniaeth, a golau'r Gwir fel gwanwyn 'nawr sydd yn meirioli marwolaeth. Grahame Davies