Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEDDI FFORDD Y DDWYRAIN Y Tad Barnabas "Arglwydd, dysg ni i weddio," (Luc 11.1) meddai'r disgyblion wrth yr Iesu, ac o'u cais tarddodd patrwm pob gweddi, Gweddi'r Arglwydd. Mae'n rhan o bob ewcharist ac o'r gwasanaethau mynachaidd yn Eglwysi'r Gorllewin a'r Dwyrain fel ei gilydd. Dywedodd Sant Theresa o Afila (1515-1582) na fyddai angen dim gweddi arall, petai modd i ni weddio Gweddi'r Arglwydd yn gywir ac yn llawn, mor ddwfn a chynhwysfawr ydyw. Dyna ddysgeidiaeth Ein Harglwydd i'w ddisgyblion, ac oddi wrtho fe ddeallwn y rheidrwydd am weddi, a bod angen dysgu ac ymarfer â gweddi cyn cychwyn unrhyw waith drosto. Dysgodd yr Iesu weddio yn y synagog ac yn y Deml, a'r Ysgrythurau a'r Salmau oedd Ei faeth. O'r synagog y tarddodd yr Oriau mynachaidd, a'r Deml oedd ffyn- honell yr aberth a offrymwyd yn y Swper Olaf. Datblygodd yr arfer o weddi feunydd- iol trwy'r mudiad mynachaidd a gychwyn- odd yn anialdiroedd Syria a'r Aifft, gan ledu trwy Ewrop a chael tir ffrwythlon iawn yn y gwledydd Celtaidd. Sail y gweddiau eglwysig oedd y Salmau, sy'n cynnwys gweddi a mawl, edifeiriwch a gorfoledd, ac ychwanegwyd atynt gantig- lau'r Hen Destament, darlleniadau o'r Epistolau a gweithau'r Tadau cynnar. Trwythwyd y gwasanaethau yn yr Ysgryth- urau, gan ddefnyddio'r Beibl yn gyfan trwy droad y flwyddyn. Ond fe ddaeth gwahaniaeth rhwng dull- iau'r Gorllewin a'r Dwyrain o addoli. Yn y Gorllewin, rhannwyd y Salmau rhwng dau hanner y côr mynachaidd; yn y Dwyrain, byddai pawb yn gwrando ar un llais yn llafarganu. Dyma sail y gwahaniaeth mewn addoliad rhwng Gorllewin a Dwyrain hyd heddiw; yn y Gorllewin, y mae pawb yn cymryd rhan yn llafar yn y Dwyrain, y mae'r gynulleidfa yn gwrando, gan droi'r geiriau a glywir yn weddi fewnol. Rhan o bwrpas yr eiconau sy'n britho muriau eglwysi'r Dwyrain yw cadw meddwl yr addolwyr rhag crwydro, a'u dwyn yn ôl i'w gweddiau. Dogma a defosiwn Sail llawer o ddefnyddiau'r gwasanaethau beunyddiol yn nhrefn fynachaidd y Dwy- rain yw dogmau neu ddysgeidiaeth Eglwysig. Try'r ddogma yn ddefosiwn, ac yn wir, ni ellir defosiwn didwyll, cywir nad yw'n seiliedig ar ddogma'r Eglwys Grist- nogol. Y mae defosiwn heb sail mewn dogma'n arwain at sentimentaleiddiwch a datblygiad afiach yn yr enaid, a gall arwain yn y pendraw at heresi a rhaniad. Y mae addoliad cywir yn angenrheidiol corfforol i'r crediniwr. Gall, wrth glywed ymadrodd drawiadol, ymgroesi a moesymgrymu er mwyn pwysleisio'r gwirionedd a glywsai yn ei enaid ei hun. Y mae ymgroesi a moesym- grymu ynddynt eu hunain yn weithredoedd addoliad, ac y mae fflam pob cannwyll a gynheuir yn arwydd o weddi yn codi at Dduw. Mewn eglwys Uniongred, gall fod yn fan- teisiol i sefyll yn llonydd am sbel, gan adael i'r tonnau o weddi lifo drosoch. Os bydd y meddwl yn crwydro, rhaid gwrando'n fwy manwl ar y geiriau a leferir; ond ni ddylid ofni ymollwng yn awyrgylch yr addoliad, sy'n boddhau'r synhwyrau oll y goleuadau, gwisgoedd ac eiconau i'r llygaid, y perarogl i'r trwyn, y geiriau a'r canu i'r clustiau. Prif amcan dod i'r eglwys yw cwrdd â Duw, ac yna i gwrdd â'n cyd- addolwyr. Y mae gwasanaethau dyddiol Uniongred, fel yr Offeren, yn troi o gwmpas yr allor ni cheir y rhaniad yna rhwng Allor a Beibl sy'n andwyo addoliad y Gorllewin. Dylid defnyddio'r gwasanaethau hyn Gosper, y Gweddi Boreol a'r Oriau, i ragflaenu'r Offeren er mwyn paratoi'r bwrdd sanctaidd ar gyfer dyfodiad yr Oen. Nid yw'r Offeren ar ei phen ei hun yn cynnig y maeth iawn i blant yr Eglwys, heb y gweddiau para- toadol. Wrth i ni weddio yn yr Eglwys Ddwyreiniol, pam rydym ni'n gofyn am weddiau'r Forwyn Fair, ar Angylion a'r Saint? Ydym ni'n amau geiriau 1 Timotheus 11.5, mai Crist yw'r unig gyfryngwr rhwng Duw a dyn? Nage gofynnwn am gymorth yr holl Eglwys, ac nid oes rhaniad rhwng y byw a'r meirw yn yr Eglwys gyflawn. Y mae Salm 103 yn gwahodd angylion a gweinidogion yr Arglwydd i'w fendithio. Ein bwriad wrth fynychu'r Eglwys yw — nid i wella ein moesau neu gael addysg, er bod y pethau hyn yn digwydd ond i gynnig yr hyn a allwn i Dduw ochr â'r rhai a achubwyd. Nid ydym byth yn addoli neu'n gweddio ar ein pen ein hunain. Cynhelir ni gan bresenoldebau anweledig. Rhaid i ni roi i Dduw y diolch a'r mawl sy'n haeddiannol, ac y mae presenoldeb yr Angylion a'r Seintiau yn ein sicrhau o fodolaeth ein hir gartref, nôd ein pererindod ar y ddaear. Paratoi Er bod yr Uniongred yn sicr mai'r Offeren yw coron addoliad dyn, sy'n ei gymodi â Duw, gwae i'r Eglwys Uniongred os bydd yn dathlu'r Offeren yn unig, heb y paratoadau addas. Yn enwedig fe ddylai'r rhai sy'n derbyn y Cymun gynnig y gweddiau paratoadol a'r Diolchgarwch. Rhaid felly bod yn wyliadwrus. Y lle delfrydol ar gyfer gweddio yw'r eglwys, ond yn enwedig os nad oes eglwys wrth law dylai pob teulu gadw cornel ystafell ar gyfer gweddi, lle y gellir cynnig gweddiau o flaen cannwyll ac eiconau. Y mae angen cefndir o weddi ar gyfer ein bywydau, yn ein gwaith a'n hamdden fel ei gilydd. Y mae bywyd iawn yn ffrwyth crediniaeth iawn, a feithrinir gan addoliad iawn. Ni allwn byth anghofio fod Crist yn ganolog i weddi, a rhaid i bob gweddi fod yn Ei enw i gyrraedd ei nôd. Sail ein haddoliad yw ffydd sy'n tarddu o'r gwirioneddau dwyfol gwirioneddau'r Greadigaeth, yr Ymgnawdoliad, y Pryned- igaeth, yr Atgyfodiad, yr Esgyniad i'r Nef a'r Pentecost. Os bydd ein ffydd yn gwanhau, gellir ei swcro trwy addoliad, felly ni ddylwn gadw draw os bydd ein ffydd yn methu neu os bydd ein bywydau yn syrthio'n ïs na'r safonau uchel a ddisgwylir gan yr Eglwys. Y mae addoliad yn ein hatgyfnerthu, ac yn rhoi dealltwriaeth i ni fel y gwnaeth i'r Salmydd: Gofynnir pa bwys sydd mewn addoliad Uniongred i weddiau dros eraill. Y mae'n amlwg eu bod yn bwysig iawn; ail-adroddir y litaniau droeon yn ystod y gwasanaeth mawr, a gellir cyflwyno enwau i'r offeiriad cyn cychwyn y gwasanaeth, ac yntau'n eu cofio wrth baratoi'r Bara. Nid yw addoliad Uniongred yn edrych i mewn yn unig; y mae'n edrych nid yn unig ar y byd gweladwy, teimladwy, clywadwy, ond hefyd ar y byd anweledig, anghyffwrdd, anhyglyw. Safwn yn yr eglwys i weddio, i wrando, i edrych ac edrychir arnom ninnau gan yr eiconau o'n cwmpas, sy'n creu awyrgylch real, er nad oes modd ei ddiffinio. Nag arswydwn felly rhag ymdrwytho yn yr awyrgylch hon, sy mor bur, mor lan, mor gadarnhaol.