Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAIS Y PROFFWYD Y drydedd erthygl ar rai o broblemau'r byd gan ECOLEG Rhag ofn na wýr darllenwyr 'Cristion' hynny, mae'n well imi ddweud mai yn Llandudno yr wyf yn byw ar hyn o bryd. Y pwnc trafod yno yn ystod Hydref 1984, ac nid dyma ddiwedd y trafod o bell ffordd, oedd cais am godi Parc Pleser yng Nghraig y Don a'r caniatad cynllunio a roddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Aberconwy. Bwriedir codi'r parc ar gaeau Bodafon, ar bendraw'r prom wrth inni deithio am Fae Penrhyn a Llandrillo-yn-Rhos. Mae sôn am godi'r parc pleser ar y safle hon yn golygu colli rhan o wyrddni'r greadigaeth a dyna'n cyfeirio'n syth at gwestiwn ecoleg, y modd y mae'r hyn a elwir yn ddatblygiad yn effeithio ar yr amgylchfyd. Daw'r broblem hon yn fyw iawn hefyd wrth deithio 0 Landudno i Ynys Môn ar yr A55 ar hyd arfordir y Gogledd. Erbyn hyn mae'r rhan newydd o ffordd yr arfordir, sy'n osgoi dinas Bangor, wedi ei hagor a hynny er mawr hwylustod i'r teithwyr. Cawn olwg newydd ar y wlad o'n cwmpas, ond yr un pryd collwyd aceri o dir amaethyddol. Rhan o'r un datblygiad yw'r cynllun i osod twnel dan afon Conwy a'r hyn sy'n peri pryder ynglýn â hwnnw yw styrbio'r gwelyau pysgod sydd yn yr afon. Y broblem yma eto yw'r cwestiynau sy'n codi'n ganlyniad gweithgarwch dyn o fewn ei fyd. Mae J. Bronowski yn ei lyfr The Ascent ofMan yn sôn am bysgodyn yng Nghalifornia a elwir 'grunion'. Dywedai'r Indiaid Cochion, pan gyrhaeddodd yr Ysbaenwyr yno yn 1769, bod yna bysgod yn dod a dawnsio ar y traethau pan fyddai'r lleuad yn llawn. Mae'n wir bod math lleol 0 bysgodyn, y 'grunion', yn dod o'r dwr ac yn dodwy wyau uwchlaw marc y penllanw arferol. Yr hyn sy'n digwydd yw bod y fenyw yn claddau ei hun yn y tywod, y gynffon yn gyntaf ac yna'r gwrryw yn gyrru o'i chwmpas a ffrwythloni'r wyau wrth iddynt gael eu dodwy. Mae'r lleuad llawn yn bwysig gan fod hynny'n rhoi amser i'r wyau i ddeor yn y tywod heb iddynt gael eu amharu, naw neu ddeng niwrnod rhwng dau lanw uchel. Bydd y llanw nesaf yn golchi'r pysgod a ddeorwyd i'r môr. Y pwynt gan Bronowski ydyw bod yma enghraifft o anifail a chreadur yn addasu ar gyfer ei amgylchfyd ond heb allu newid yr amgylchfyd hwnnw. Mae dychymyg, rheswm, craffter emosiwn a gwytnwch dyn yn ei gwneud yn bosib iddo, nid i dderbyn ei amgylchfyd ond ei newid. Dyma'r pwynt lle cyfyd problem ecoleg ym myd dyn. Dyma enghraifft berthnasol i'r drafodaeth ynglýn â gweithgarwch dyn o fewn ei fyd. Mewn rhai mannau mae erydiad tir amaethyddol yn gysylltiedig gydag ymlediad anialdir. Rhwng 1882 ac 1952 cododd anialdir a diffeithdir y byd o 1.1 biliwn hectr i 2.6 biliwn hectr. Gyda chynnydd ym mhoblogaeth y byd gwelwyd cynnydd yn y galw am dir, tir a fydd erbyn y flwyddyn 2,000 wedi gostwng 250 miliwn hectr, ond y galw amdano wedi codi tua 2.4 biliwn hectr. Daeth yn bryd inni roi yn ôl i Natur yr hyn a ddygwyd gennym oddi arni. Golygai hynny inni ddweud 'Na' wrth dechnoleg fodern E. R. Lloyd Jones sy'n gwestiwn a drafodir gan John Habgood yn y llyfr Christianity and Change. Nid yw teitl pennod yn llyfr Jonathan Schell yn amherthnasol, The Fate of the Earth, 'A Republic of Insects and Grass', er mai cyd-destun niwcliar sydd ganddo. Rhydd bwyslais hefyd ar bwysigrwydd yr hyn a eilw'n 'ecosphere'. Cam bach yw gweld bod Joel 1: 16-20 yn air proffwydol i'r cyflwr hwn. Egyr yr adran yma gyda chyfeiriad at 'Ddydd yr Arglwydd', "Och o'r diwrnod! canys dydd yr Arglwydd sydd agos Yr unig sylw ar hynny yw bod agosrwydd y dydd hwnnw'n peri bod Joel yn cymell y bobl i edifeirwch. Galwodd eisoes ar yr offeiriaid a'r dinasyddion i edifarhau a thry yn awr at y gweithwyr tir a'r greadigaeth ei hun i gyfrannogi'n y galar. Mae'r cyfeiriad at 'yr hadau', 'yr ysguboriau', 'yr ydlannau' a'r 'yd' yn adn.17 yn awgrym o'r amaethwr a'r gweithiwr tir yn agosau'n waglaw at Dduw. Yr hyn a wneir yw dehongli'r argyfwng, nid yn ei ddimensiwn naturiol ond yn ei ddimensiwn ysbrydol. Torrwyd ffon eu bara a 'does dim ond newyn i ddilyn, a thry'r cyfan yn dristwch annaele, "Oni thorrwyd yng ngwydd ein llygaid y llawenydd a'r digrifwch?" Yn adn.18 ceir disgrifiad o anifeiliaid y maes, "yn griddfan y mae anifeiliaid y maes", "mae yn.gyfyng ar y minteioedd gwartheg", "a'r diadelloedd defaid" "wedi eu difetha". Disgrifiad o ddifrifwch y sefyllfa sydd yn ad.19 a 20, sychdwr mawr a thân yn ysu'r porfeydd. Un peth arwyddocaol yn ein sefyllfa ni yw bod y Blaid Werdd wedi ennill ei seddau cyntaf yn yr Almaen i Senedd Ewrop yn etholiadau Senedd Ewrop ym Mehefin 1984. Pe bae cynrychiolaeth gyfrannol, fe fyddai'n ateb problem i mi, o fedru rhoi pleidlais i ymwybod cymdeithasol sy'n ymledu tuhwnt i Gymru a phleidlais i ymwybod cymdeithasol sy'n mynegi ei hun yn nhermau Cymru. Ar y sail Beiblaidd sy'n Llyfr Joel, nid yw'r gair proffwydol gan y sticer/poster 'Ynni Niwcliar: Dim Diolch' ond yn y sticer/poster arall, 'Cymru Ddiniwcliar'. Mae'r ymgyrch yn erbyn arbrofion gwyddonol gydag anifeiliaid byw yn beth arall. Rhaid i'r gair proffwydol yn y cyd-destun yma fod yn ffyddlon i Genesis 1;28, "llenwch y ddaear a darostyngwch hi", heb i hynny arwain i lanastr ecolegol.