Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gweision CYFLOG Ychydig fisoedd yn ôl daeth dynes i'r drws yma a gofyn imi a fyddwn yn fodlon ateb rhai cwestiynau am fy nheulu. Eglurodd ei bod yn gweithio yn y swyddfa sy'n gwneud y cyfrifiad bob deng mlynedd, a bod y swyddfa honno yn y naw mlynedd arall yn casglu gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol i'r llywodraeth neu'r gymuned Ewropeaidd. Y tro hwn yr oeddent yn holi sampl o un teulu ym mhob deg (neu efallai gant) i gasglu gwybodaeth am waith a diweithdra. Yr oeddwn yn amheus iawn a ddylwn ateb ei chwestiynau, yn rhannol am mai Saesnes oedd hi, ond yn fwy am fod gennyf wrthwynebiad cydwybodol i'r duedd gynyddol i hel a chyhoeddi ystadegau am hyn a'r llall. Dyna paham nad atebais y cwestiynau a ofynnwyd imi ar gyfer yr Arolwg ar Grefydd yng Nghymru, a rhai cwestiynau eraill a ofynnwyd gan esgobion, archddiaconiaid a phwyllgorau eglwysig. Ni ellir gweld beth yw cyflwr crefydd trwy gyfrif faint o bobl sy'n mynd i gapel ac eglwys ac ysgol Sul. Nid yw'r ystadegau hyn yn dweud dim oll am gynnwys a grym ffydd yr addolwyr. Gyda llaw y mae pob enwad neu bron pob un — yn camddefnyddio'r ystadegau am nifer aelodau (neu gymunwyr) pob eglwys, trwy ddisgwyl i'r eglwysi gyfrannu i'r cronfeydd canol yn ôl hyn a hyn y pen, gan anwybyddu'r gwahaniaeth mewn cyfartaledd incwm rhwng eglwysi a'i gilydd. Yr unig ddull o godi arian sy'n gweddu i'r eglwys yw un sy'n seiliedig ar rywbeth tebyg i egwyddor y degwm, sef bod y cyfraniadau dyledus yn amrywio yn ôl cyfoeth neu incwm pob aelod. Dylai'r eglwysi fod yn debycach i'r wladwriaeth yn hyn o beth, a'r cyfraniadau yn amrywio cymaint â'r dreth incwm o un i'r llall. Y mae gennyf hefyd sail Feiblaidd i'm rhagfarn yn erbyn hel ystadegau; e.e. "Satan a anogodd Dafydd i gyfrif Israel" (1 Cronicl21:l). Cywreinrwydd Sylweddolais mai canlyniad gwrthod ateb cwestiynau'r ddynes fyddai iddi boeni rhywun arall, ac yr oeddwn yn awyddus i wybod beth fyddai'r cwestiynau: felly dywedais fy mod yn fodlon ateb. Gofynnodd imi beth yw enwau pawb sy'n byw yn y ty yma, beth yw eu hoed, a beth yw eu gwaith, a faint o oriau o waith yr ydym yn ei wneud bob wythnos. Wrth ateb ei chwestiynau am fy ngwaith i, dywedais nad oes yna'r fath beth â time yn fy swydd i, ac na all fod overtime ychwaith, ac na allwn ddweud sawl awr y gweithiais mewn unrhyw wythnos. Nid oedd yr ateb yna yn ei bodloni mae'n debyg am na ellid rhoi ateb fel yna yn y compiwtar. Holodd fi wedyn am fy ngwraig. A fu hi mewn swydd gyflogedig (paid employment) ar ôl priodi? Do. A yw mewn swydd felly yn awr? Nac ydyw. A fu yn ystod y tair blynedd diwethaf? Naddo. A fu'n chwilio am swydd gyflogedig? Naddo. Fe'm lloriwyd gan y cwestiwn nesaf: A allwn ddweud paham na fu'n chwilio am waith cyflogedig? Bu rhaid imi feddwl am ychydig eiliadau am nad oeddwn i wedi ystyried y peth o'r blaen; yna atebais: Am ei bod yn credu fod yna bethau pwysicach mewn bywyd na chael swydd a chyflog. F. M. Jones Brathais fy nhafod cyn ychwanegu: A tasech chi'n credu'r un peth fasech chi ddim yn mynd o dy i dy yn gwastraffu eich hamser ac amser pobl eraill trwy ofyn y cwestiynau gwirion yma. Ar ôl iddi fynd sylweddolais fod disgwyl yn awr i bawb ohonom ddymuno bod yn weision cyflog, mai dyma'r peth normal. Ac yr wyf yn argyhoeddedig ei fod yn agwedd y dylid ei wrthsefyll. Ond yn lle ei wrthsefyll bu rhai arweinwyr eglwysig yn lledaenu'r agwedd afiach yma trwy ddweud fod diweithdra yn amddifadu dyn o'i urddas a'i hunan barch, hynny yw mai gwaith cyflogedig sy'n rhoi urddas i ddyn. Bu'r agwedd yma at waith wrth wraidd un camgymeriad a wnaed yn y frwydr dros hawliau merched. Brwydrwyd dros ganiatau i ferched fod yn debycach i ddynion, trwy wneud yr un gwaith am yr un gyflog. Dylem fod wedi brwydro i sicrhau fod dynion yn cael eu trin yn debycach i ferched merched cefn gwlad a phentrefi Cymru genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Fe welwch gymaint o newid a fu ym mhatrwm bywyd merched Cymru yn ystod y deugain mlynedd diwethaf trwy droi tudalennau y llyfr cofrestri priodas mewn unrhyw eglwys bentrefol neu wledig. Cyn tua 1940 eithriad prin yw i unrhyw swydd neu grefft gael ei nodi i'r ferch sy'n priodi. (Nid oedd hyn yn golygu eu bod yn "ddi-waith" nac, yn sicr, yn segur). Erbyn heddiw eithriad yw i'r ferch sy'n priodi fod heb swydd gyflogedig. Urddas? Ni fu hwn yn newid er gwell. Nid oes gan ferched yn awr fwy o urddas, nac o ddim byd arall o unrhyw werth, na'r mwyafrif mawr o ferched am ganrifoedd cyn tua 1940. Yr unig beth y mae ganddynt fwy ohono heddiw yw arian, ac nid yw arian y tu hwnt i'r ychydig sy'n wir angenrheidiol yn rhoi urddas na dim byd arall i neb. Ni fu fy mam erioed mewn swydd gyflogedig. Felly hefyd bron pob gwraig a mam yn yn y pentref lle'm magwyd. Ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn is-raddol i ddynion. Y drefn yn y rhan fwyaf o'r cartrefi oedd i'r gwragedd reoli'r arian. Nid y wraig yn cael lwfans i brynu'r bwyd etc., ond y wraig yn cymryd gofal o'r holl gyflog, ac yn rhoi pres poced, pres baco a chwrw, i'r dynion. Yr unig ddynion a oedd yn mwynhau'r un breintiau â'r merched hynny oedd y sgweieriaid a gweinidogion yr Efengyl. Yr oedd y rheiny hefyd yn cael bywoliaeth heb orfod gweithio hyn a hyn o oriau am hyn a hyn o arian, na chael eu talu yn ôl eu cynnyrch, hynny yw yn cael cynhaliaeth, nid cyflog. Un peth sydd wedi ychwanegu'n fawr at faich y rhai sydd heddiw heb waith cyflogedig yw'r gred ffôl fod gwaith a chyflog (nid gwaith yn unig ond gwaith a chyflog) yn rhoi urddas i ddyn. Dim ond cam bach sydd o'r syniad yma i'r gred gyffredin a ffôl arall fod urddas dyn yn dibynnu ar faint yw ei gyflog, fod cyflog fawr yn rhoi mwy o urddas i ddyn na chyflog fach. (Cwestiwn arall a gwahanol yw a yw'r rhai sydd heb waith cyflogedig yn cael digon o arian i'w cynnal, ac a ddylem ni