Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A KOINÔNIA Prawf o gyfoeth y gair KOINÔNIA yw bod y Beibl Cymraeg yn cynnig mwy nag un cyf- ieithiad ohono. "Cymdeithas" yw'r dewis amlaf eithr gwelir hefyd "cymorth" (Rhuf. 15.26), "cymundeb" (2 Cor. 6.14) a "cyf- raniad" (2 Cor. 9.13). Mewn cyfeiriadau ar ymyl y ddalen y mae cyfieithiad William Salesbury (1567) yn mentro hefyd "cyfeillach", "cyfranogaeth", "cymmun" a "cyfyndap". "Dynoda KOINÔNIA cymdeithas o'r natur agosaf", meddai William Edwards (Çyfieithiad Newydd I (1894), 257) ond gwreiddyn y gair yw KOINOS sy'n golygu "cyffredin". Yn ogystal â bod yn air ag iddo gysylltiadau crefyddol, defnyddiwyd KOINONIA yn gyffredin am bartneriaeth priodas a phartneriaeth mewn busnes. Awgrymodd J. Williams Hughes mai "Diddorol a buddiol yw ceisio egluro'r gair yn y Testament Newydd yng ngol- euni'r ffigur hwn y syniad o bartner- iaeth yn 'Firm' fawr y Deyrnas! Cred- inwyr yn gyd-feddianwyr o'r amrywiol 'nwyddau' y mae y 'Firm' yn delio ynddynt! A'r pennaf ohonynt yw'r Efengyl ei hun Yn wir y mae holl ddylanwad ac adnoddau'r Ysbryd Glan at wasanaeth y 'Firm' a dyna warantu dyfodol gogoneddus iddi". (Esboniad ar yr Epistolau at yr Effesiaid a'r Philip- iaid, (1949)). D. Hugh Matthews Y maer sawl sy'n bartneriaid mewn busnes yn disgwyl elwa o'r fusnes eithr rhaid iddo hefyd gyfrannu i'r fusnes. Y mae'r un peth yn wir am KOINÔNIA. Dywed Geiriadur Beiblaidd (1926) fod "ystyr ddeublyg i'r ferf Roeg a gyfetyb i'r enw COINONIA, a gall y ferf olygu 'cyfranogi o' (rywbeth) neu 'cyfrannu i' (rywbeth)". Y mae, felly, i KOINÔNIA ei breintiau a'i dyletswyddau, ei bendithion a'i chyfrifoldebau. Cofio am ddyletswyddau'r gymdeithas a wnaeth Cristnogion Macedonia ac Achaia wrth estyn "cymorth" (KOINÔNIA, B.C.) i'w cyd-Gristnogion pan "welsant yn dda wneuthur rhyw gyfraniad (KOINÔNIA) i'r rhai tylodion o'r saint sydd yn Nghaer- salem" (Rhufeiniaid 15.26, Oraclau Bywiol (1842)). Diolch am "haelioni eich cyfraniad (KOINÔNIA)" a wnaeth Paul wrth ysgrifennu at y Corinthiaid (2 Cor. 9.13) a diolch am y math o roi sy'n oblygedig mewn "cydweithrediad (KOINÔNIA) o blaid yr Efengyl" a wnaeth yn Philipiaid 1.5 (Beibl Cymraeg Newydd). Dichon fod cyfeiriad at y rhoi a'r derbyn sy'n rhan hanfodol o gymdeithasu yn 2 Corinthiaid 6.14: "Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach (KOINÔNIA) sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder?" (B.C.N.). Eithr nid oes amheuaeth mai breintiau a bendithion y gymdeithas sy'n cael eu pwysleisio yn nymuniad loan i'w ddarllenwyr "gael cymundeb (KOINÔNIA) â ni" (1 Ioan 1.3). Yn wir, myn William Edwards fod y gair "cael" yma yn dynodi "cael a mwynhau" (Cyfieithiad Newydd IV (1915)). Uchaf- bwynt y gymdeithas yw cymdeithas â Christ (1 Cor. 1.9; Phil. 3.10) eithr y ffurf gweladwy ar hwnnw yw y Cymun: "Cwpan y fendith yr ydym yn ei fen- dithio, onid cydgyfranogiad (KOIN- ÔNIA) o waed Crist ydyw? A'r bara yr ydym yn ei dorri, onid cydgyfranogiad (KOINÔNIA) o gorff Crist ydyw?" (1 Cor. 10.16, B.C.N.). Ys dywed J. Williams Hughes: "Onid yw'r gair mawr hwn yn cyflwyno inni yr union her sy'n angenrheidiol arnom led-led y byd heddiw? daw'r her inni i ymgysegru i weddnewid pob Koinonia sy'n anghyson ag Ysbryd yr Arglwydd Iesu, a gwneud Koinonia'r Testament Newydd yn realiti gogon- eddus dros y byd". SKANDALON A SKANDALIZEIN Geiriau o fyd yr heliwr yw'r enw SKAN- DALON a'r ferf SKANDALIZEIN sy'n ymddangos rhyngddynt 45 gwaith yn y Tes- tament Newydd. Er bod y gair "sgandal" yn tarddu o'r gair Groeg, "rhwystr" a "thramgwydd" yw'r trosiad arferol yn y Beibl Cymraeg. Yn wreiddiol y SKANDALON oedd y rhan o'r trap y byddai'r trapiwr yn clymu'r abwyd wrthi neu "y pren a ddaliai yr hud yn y fagl." (William Edwards, Cyfieithiad Newydd I (1894)). Ymhen amser daeth y gair i olygu'r trap ei hun, tra bod cyfieith- wyr y Septwagint yn ei arfer hefyd am achosi cwymp e.e. na ddod dram- gwydd (Hebraeg MICHSHÔL, Groeg SKANDALON) o flaen y dall" (Lefiticws 19.14). Yn nefnydd y Testament Newydd o'r gair, felly, y mae un neu fwy o dair elfen yn dod i'r golwg: 1. Weithiau ceir awgrym o dwyll ac o ddenu i ddistryw. Yr elfen o ddenu twyllodrus a awgry- mir gan y gair yn Rhufeiniaid 11.9 ac fe'i gwelir hefyd yng nghyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Mathew 5. 29.30: "Os yw dy lygad de'n dy arwain-di ar gyfeiliorn (SKANDALIZEI), tynn-o