Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

allan Os yw dy taw dde'n dy arwain-di ar gyfeiliorn (SKANDAL- IZEI), torr-hi i ffwrdd 2. Dro arall y mae awgrym o ddigwyddiad sydyn, annisgwyl. Sydynrwydd y digwyddiad sy'n taro'r darllenydd ym Mathew 13.21 lle dywedir am y planhigyn di-wreiddyn: "fe gwymp ar unwaith" (B.C.N.) cf. "yn y van y rhwystrir ef" (Salesbury). 3. Dro wedyn ceir awgrym o lithrad a chodwm. Rhybuddiodd yr Iesu y deuai diwedd echrydus i "pwybynag â faglo un o'r rhai bychain hyn â gredant ynof fi" (Mathew 18.6, Oraclau Bywiol) tra bod loan yn tystio am yr hwn sy'n caru ei frawd ac yn aros yn y goleuni "nyd oes achos cwymp ynthaw" (1 Ioan 2.10, Salesbury). Codwm oedd yn sicr o ddig- wydd ym Mhergamus yn ôl Ioan a Difin- ydd am fod rhai yno yn dal "y vwrw plocyn tramcwyddys gar bron meibion yr Israel", sef athrawiaeth Balaam a ganiatâi "vwytta or pethey y aberthwyd u ddelwey, a godineby" (Datguddiad 2.14, Salesbury). Anogaeth gyson yr Ysgrythur yw y dylai'r Cristion wneud ei orau i beidio â bod yn SKANDALON i arall a cheir adrannau yn epistolau Paul lle tanlinellir y wers (Rhufeiniaid 14, 13-23; 1 Corinthiaid 8, 1-13). Ac eto, yr eironi yw fod yr Efengyl a'r Crist ei hun yn gallu bod yn SKAN- DALON! Sylweddolodd y Disgyblion fod geiriau'r Iesu yn rhwystro a thramgwyddo'r Pharis- eaid (Mathew 15.12) tra'u bod hwy eu hunain wedi cwympo oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i'r Iesu yn Rhagluniaeth Duw (Mathew 26.31, B.C.N.). Gwyddai Paul yn dda fod y Groes yn dramgwydd i'r Iddewon (1 Cor. 1.23, cf. Gal. 5.11) a chydnabu Pedr fod y Crist yn faen tramgwydd i lawer (1 Pedr 2.8 cf. Rhuf. 9.33). Nid rhyfedd, felly, i Fathew (11.6) a Luc (7.23) gofnodi geiriau'r Iesu: a dedwydd yw y sawl na byddaf yn dramgwyddfa iddo" (Oraclau Bywiol). APECHÔ un o'r ymadroddion mwyaf dyrys yn y Testament Newydd", meddai William Edwards am y gair APECHEI y ffurf amhersonol neu'r trydydd person unigol o APECHÔ a welir yn Marc 14.41. "Digon yw" yw cyfieithiad William Salesbury o'r gair hwn a oedd ar wefusau'r Iesu yng ngardd Gethsemane, tra bod John Williams yn Yr Oraclau Bywiol yn cynnig "Y mae popeth drosodd". "Y mae ymhell oddiwrthyf fi", yw cyfieithiad rhyfedd William Edwards (Cyfieithiad Newydd I (1894)) gan esbonio mai Jwdas Iscariot oedd ymhell i ffwrdd ac "felly yr oedd gan y Dysgyblion ychydig yn rhagor o amser i orphwys". Ceidw Cyfieithiad Prifysgol Cymru o Efengyl Marc (1921) yr un trosiad â Salesbury eithr ychwanegir mewn nodyn gwaelod y ddalen: "Neu, fe gafodd ei dâl (yn ôl ystyr gyffredin i'r gair)". Tebyg yw yr hyn a geir yn y Beibl Cymraeg Newydd. Y mae cyfieithiadau gwaelod-y-ddalen C.P.C. a'r B.C.N. yn cael eu cynnig yng ngoleuni'r wybodaeth am y gair a gafwyd yn y papyri. Yno ymddengys APECHÔ yn gyson fel term technegol yn golygu llunio a llofnodi taleb (receipt). Arwydda "derbyniad cyflawn, gorffenedig" yn ôl y Geiriadur Beiblaidd Dyma'r ystyr gorau yn y Bregeth ar y Mynydd a'r Gwastatir (Mathew 6.2, 5, 16 a Luc 6.24). Yno hawlia'r Iesu fod y rhagrithwyr, sy'n ceisio sylw am eu helusengarwch, eu defosiwn a'u duwioldeb, a'r cyfoethogion, sy'n mawrhau'r materol, eisoes wedi derbyn popeth y gallant ei ddisgwyl ac mai yn ofer y gobeithiant am unrhyw fendith ychwanegol. Fe'u talwyd yn llawn ac nid oes mwy yn eu haros. Y mae'r un ystyr yn amlwg yn Philipiaid 4.18 lle mae'r B.C.N. yn rhagori ar Salesbury ("Pellach ys derbyniais oll") a'r hen gyfieithiad drwy gyhoeddi: "Yr wyf fi wedi derbyn fy nhâl yn llawn Y mae'r un gair i'w weld yn Philemon 15 a gellid rhydd-gyfieithu'r adnod: "Efallai i Onesimus gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro fel pan ddychwelai efe atat y byddet yn llofnodi taleb nid am gaethwas ond am frawd annwyl yn rhwymau'r Efengyl Y mae cyfieithiad o'r fath yn gweddu gan fod adnodau 18 a 19 hefyd yn sôn am dalu a setlo hen gownt. Ond beth am Marc 14.41? Os derbyniwn oleuni'r papyri a chyfieithiad gwaelod-y- ddalen C.P.C. a'r B.C.N. yr ystyr yw fod yr Iesu, ar yr awr honno yng ngardd Gethsem- ane, wedi sylweddoli fod Jwdas eisoes wedi derbyn y tâl a addawyd iddo gan y prif offeiriaid (14.11). Talwyd Jwdas yn llawn a dyna'r unig dâl a gafodd am ei weithred anfad; eithr ym mhwrpas a rhagluniaeth Duw troes bargen wael Jwdas yn y diwedd yn elw i ddynolryw. Mae gan bobl syniadau od iawn am beth yw croes! Dywedodd rhyw wr wrthyf fod ganddo dymer drwg iawn. "Rhaid mai dyna fy nghroes i" meddai. "Nage wir!" meddwn i. "Croes eich gwraig. Eich pechod chi!" Llythyr i'r Feibl Gymdeithas "Rwy wedi cyfrif y byddai papur newydd dyddiol yn costio 20c yn dod £ 73 o bunnoedd mewn blwyddyn, a dyna maint y siec yr wyf yn ei ddan- fon atoch. Wedi'r cyfan y mae papurau newydd yn gorffen mewn biniau sbwriel ond copi o'r Beibl yn cael ei drysori yn rhywle'n y byd 'Roedd y pregethwr yn trafod "A oes modd i'n cymdeithas fyw?" 'Roedd wedi bod wrthi am dri chwarter awr pan bwniodd un gwran- dawr benelin ei gymydog. "Chwilio am y gair 'Na' mae e."