Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CROESAU CELTAIDD Dwy garden o set o chwech a gynhyrchwyd gan Cymorth Cristnogol. 60 + 18c (post) o swyddfeydd Cymorth Cristnogol yng Nghymru. TEULU DUW 86 Ar Fai 24ain, 1986, fe fydd rhai miloedd o Gristnogion Cymru yn dathlu eu ffydd gyda'i gilydd mewn gwyl ecwmenaidd ar faes y Sioe Amaethyddol Gened- laethol yn Llanelwedd. Y thema fydd "Teulu Duw", a thrwy pob math ar weithgareddau blant, ieuenctid ac oedolion ceisirdod weld beth mae bod yn rhan o deulu Duw yn golygu yn fyd- eang ac yng Nghymru. Ymhlith nifer o ddigwyddiadau amrywiol a chyffrous cynhelir oedfa ddathlu ar ddiwedd y dydd pan y disgwylir y Gwir Barchg. Desmond Tutu, Esgob Johannesburg i bregethu. Dyma ddydd i'w fwynhau, dydd Gristnogion Cymru i ddathlu a llawenhau gyda'i gilydd. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer yr Wyl y mae Cyngor Eglwysi Cymru yn O'r Bala i'r Byd Rhaglen a baratowyd gan Adran Addysg Cyngor Sir Clwyd Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Grefyddol Cymru i ddathlu Daucanmlwyddiant yr Ysgol Sul yng Nghymru <9 1985 Cyngor Sir Clwyd Tâp Fideo, £ 7.50. £ 5.70 i Ysgolion Sul. cyhoeddi pecyn trafod ar y thema, "Teulu Duw". Gwahoddir eglwysi ac ysgolion i ddefnyddio'r pecyn yn ystod tymor y gaeaf a'r gwanwyn 1985/6. Y mae pymtheg o unedau ynddo ar amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys Gwragedd a gwyr yn yr Eglwys, Ymhel â Gwleidyddiaeth, Tlodi yng Nghymru, Cristnogion yn erbyn Poenydio, Efengylu, Cyfamodi tuag at Undeb, Dathlu gyda'r Teulu, Gweddi. Ymhob uned y mae deunydd trafod, cwes- tiynau, gweddiau, darluniau. Fe'i cyn- hyrchwyd yn ddeniadol a bywiog. Bydd yn ddefnyddiol i bob math o grwpiau o bob oedran, ac y mae digon ynddo ar gyfer gwaith y gaeaf. Bydd ei ddilyn yn gyfraniad gwerthfawr at fywyd yr eglwysi a'i cenhadaeth ac yn ffordd fendigedig o baratoi ar gyfer Teulu Duw 86. Gellir cael copiau o'r pecyn am £ 3.00 yr un (cludiad yn ychwanegol), yn Gymraeg neu yn Saesneg oddiwrth: Cyngor Eglwysi Cymru, 21 Heol Sant Helen, Abertawe SA1 4AP. (Ffôn: 0792 460876). neu Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Santes Fair, Lôn Pobty, Bangor, Gwynedd. (Ffôn: 0248 351151). ar ran