Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARGYFWNG YR EGLWYSI BYCHAIN Morgan D. Jones Gyda'r holl sôn sydd y dyddiau hyn am eglwysi'n dihoeni ac amryw yn cau, nid rhyfedd fod pobl Dduw yn gofyn y cwestiwn, megis y gwnaeth y proffwyd gynt, "Pa hyd, Arglwydd?" Nid yr un, serch hynny, yw ymateb pawb i'r sefyllfa bresennol. Tuedd rhai yw gwangalonni ac ymollwng mewn diymadferthedd ac anobaith llwyr, gan dybio nad oes dim y gellir i'w wneud o'u tu hwy i wella'r sefyllfa. Ymateb eraill yw canfod yn y sefyllfa arwyddion sicr o farn Duw ar genhedlaeth drofaus, a thybio ei bod yn rhaid inni dderbyn y gosb yn ostyngedig ac amyneddgar. Ond y mae yna drydydd dosbarth, a diolch i'r nefoedd amdano, sy'n gweld yr her yn y sefyllfa bresennol, ac yn ymateb yn gadarnhaol i'r her honno trwy ymarfogi yn ei nerth Ef i'r frwydr yn erbyn galluoedd y tywyllwch. Mae'n rhaid cyfaddef ar yr un pryd fod yna broblemau ac anawsterau lu yn wynebu'r Eglwys heddiw, yn enwedig y diadelloedd bychain hynny ohoni, sydd, am wahanol resymau wedi colli tir yn enbyd dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae'n anodd i'r sawl sy'n aelod mewn eglwys gymharol gref, yn ôl safonau heddiw, amgyffred rhwystredigaeth a digalondid aelod mewn eglwys fechan ddifugail sy'n cael cryn anhawster i gadw'n fyw gyda'i chynulliadau bychain, ei haelodau'n heneiddio, ei chostau'n cynyddu, ei harweinwyr yn prinhau, a'r addoliad o ganlyniad i hyn oll wedi mynd yn druenus o ddieneiniad. Cymerwn y gwahanol broblemau yn yn eu tro. Cynulliadau Bychain Peth cyffredin heddiw mewn eglwys o ryw 50 o aelodau, dyweder, yw gweld cynulleidfa o ryw 25-30 ar y mwyaf yn yr oedfaon ar y Sul. Yn fynych iawn ni cheir mwy na rhyw 15-20. Mae'r gynulleidfa i'w gweld yn llai fyth mewn capel mawr a'r aelodau ar wasgar ar hyd y llawr. Enciliodd llawer o eglwysi yn eu gwendid i'r festri, a bu hynny'n gam llesol ar un ystyr gan fod y gynulleidfa fechan yn fwy cryno yno ac o ganlyniad yn gallu cydaddòli'n well. Camgymeriad, serch hynny, yw tybio fod rhif yr aelodaeth ynddo'i hun, yn rhwystr i ffyniant eglwys, canys y mae hanes Cristnogaeth o'r cychwyn yn gwrth-ddweud hynny'n groyw. Cofiwn eiriau cysurlawn ein Harglwydd Iesu pan ddywedodd wrth ei ddisgyblion "Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas". Yr ydym, mewn gwirionedd, yn euog o amau ei addewid Ef, ac o beidio â'i gymryd Ef ar ei air, os tybiwn na all Ef ddefnyddio'r ddiadell fechan i gyflawni ei waith ar y ddaear. Gellid dadlau, yn wir, fod yna rai manteision o berthyn i eglwys fechan, oherwydd bod yr aelodau yn adnabod ei gilydd yn dda, yn gallu cynnal ei gilydd yn well, a thrwy hynny yn gallu sylweddoli cymdeithas gadarnach. Y perygl mewn eglwys gref yw i'r aelod unigol deimlo nad yw yn cyfrif neu nad yw'n gallu cyfrannu o'i ddoniau fel y dymunai. Cynulleidfa'n Heneiddio Mae'n ffaith ddiymwad fod cyfartaledd oedran aelodau ein heglwysi wedi codi'n sylweddol yn y blynyddoedd hyn o drai crefyddol. Yr achwyniad a glywir yn fynych yw bod ein plant a'n pobl ieuainc wedi mynd yn brin a bod argoelion am ddyfodol llawer o'n heglwysi yn bur dywyll, oni cheir adfywiad neu ddiwygiad ysbrydol. Eithr a chaniatáu fod nerth dyn yn pallu a'i gyneddfau'n gwanhau wrth fynd yn hyn, nid yw hynny ynddo'i hun yn ddigon o esgus dros ddiffyg sêl a brwdfrydedd llawer o'n haelodau sy'n tynnu ymlaen mewn dyddiau. Os yw dyn wedi ymddeol o'i waith beunyddiol ni olyga hynny fod ganddo reswm dros beidio â chyfrannu i fywyd ei eglwys, canys fel y dywedai'r hybarch Philip Jones, "Does dim rhyddhau ym myddin yr Arglwydd". Clywais yn ddiweddar am eglwys lle y mynnai'r gweinidog roi ei sylw i gyd i'r aelodau ieuainc gan fwy neu lai anwybyddu'r hen. Y canlyniad fu i amryw o'r olaf adael yr eglwys honno am eglwys aralllle y teimlent fod mwy o groeso iddynt. Er pwysiced yw'r gwaith o ofalu am fuddiannau'r ifanc yn ein heglwysi, mae'n anodd gweld sut y gellir cyfiawnhau gwneud hynny ar draul yr hen. Pan ddaw llesgedd neu afiechyd i rwystro'r aelodau hyn rhag mynychu'r moddion yn ôl eu harfer, mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael eu sicrhau o'u lIe a'u pwysigrwydd ym mywyd yr eglwys, ac i'r diben hwnnw oni ddylid gwneud pob ymdrech i'w hymgeleddu trwy ymweliadau cyson a thrwy drefnu cludiant i'r oedfaon ar eu cyfer? Y Baich o gynnal yr Achos Problem gynyddol yw hon ac un y mae'n rhaid i fwy a mwy o eglwysi ei hwynebu wrth gael anhawster i dalu'r biliau mawr o'u coffrau prin. Mae gweld ty Dduw yn mynd ar ei waeth, gan edrych yn aflêr a di-raen, ffenestri wedi'u torri, a'r gwaith coed yn gweiddi allan am baent, yn rhwym o ddigalonni'r gorau ac o gael effaith andwyol ar awyrgylch y lle. Ar ben hynny nid yw'r olwg wael sydd ar ambell gapel neu eglwys ddim yn debyg o fod yn atyniad i'r sawl nad yw'n mynychu lie o addoliad. Y cwestiwn llosg y mae'n rhaid i lawer o'n heglwysi ei wynebu heddiw yw hyn, sef a ellir cyfiawnhau gwario arian mawr ar atgyweirio ac addurno adeilad, ie, hyd yn oed cysegr Duw ei hun, os yw dyfodol yr eglwys yn bur ansicr a'r baich o gynnal yr achos yn mynd yn rhy drwm? Rwy'n digwydd perthyn i enwad y Presbyteriaid sydd â'r hawl ganddo i gau capel a datgorffori'r eglwys ynddo, gyda chydsyniad yr aelodau wrth gwrs os gwel, nad oes diben mwyach mewn cadw'r capel ar agor. Er nad yw trefniant o'r fath at ddant pawb, mae'n anodd gwadu fod iddo gryn fanteision mewn oes pan adewir llu o eglwysi bychain i weithio allan eu hiachawdwriaeth eu hunain heb