Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fawr ddim cyngor na chyfarwyddyd. Yr hyn sy'n drist ac, yn wir, yn wrthun yn y sefyllfa bresennol yw gweld dwy neu dair eglwys yn yr un gymdogaeth yn mynnu rhygnu ymlaen ar eu pennau eu hunain yn lIe dod at ei gilydd i ffurfio un eglwys weddol gref. Mae'n ofynnol i eglwys Dduw yn y dyddiau hyn ymdrechu i fod mor gryf ag sydd bosibl er hybu ei chenhadaeth briodol i fyd anghenus. Diffyg Arweiniad Hwn, yn sicr, yw un o'r rhwystrau mwyaf ar ffordd yr eglwysi bychain heddiw, eithr y mae lle mawr i ofni nad yw'n cael y sylw dyladwy gan yr eglwys fel cyfangorff. Cofiaf glywed rywle am bregethwr yn cyrraedd oedfa yn hwyr un bore Sul ac yn cyfarfod â'r gynulleidfa yn dod allan o'r capel i fynd adref. Pan ofynnodd y pregethwr iddynt oni allent gynnal oedfa eu hunain pe na buasai ef wedi cyrraedd, yr ateb a gafodd oedd na allent. Yn awr mae hon yn sefyllfa druenus ac yn ganlyniad anochel i'r hyn sydd wedi digwydd yn ein heglwysi Anghydffurfiol dros y blynyddoedd, sef dibynnu gormod ar y gweinidog. Yn y llyfr rhagorol hwnnw, God's Frozen People, rhoir lie amlwg i'r her sy'n wynebu'r lleygwr yn yr eglwys heddiw, ac am yr angen iddo gymryd at yr awenau ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb. Mewn eglwys fechan ddifugail mae'n hollbwysig fod rhywun neu rywrai o blith y blaenoriaid neu'r gynulleidfa yn mynd ati i roi arweiniad, a hynny nid er clod iddynt eu hunain, ond er hybu achos Duw. Ceir bod rhai eglwysi'n wirioneddol brin o ddoniau ac yn dioddef o'r herwydd. Oni buasai'n beth braf pe buasai modd trefnu i'r eglwysi hynny sy'n gyfoethog o ddoniau helpu eu cymrodyr gwan trwy drosglwyddo rhai o'u haelodau dawnus i'w plith? Mae'r peth yn digwydd mewn masnach ac mewn chwaraeon gyda llawer o les yn deillio ohono. Pam, felly, na allai'r peth weithio mewn cylchoedd crefyddol? Un o brif feiau'r eglwys heddiw yw ei bod yn rhy anystwyth o lawer i gyfarfod â gofynion a her yr oes. Addoliad Dieneiniad Gyda nifer ein gweinidogion ordeiniedig yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, mae'n hi'n mynd yn fwy anodd nag erioed i eglwysi bychain difugail sicrhau gweinidogaeth gyson. Gwaith digon diddiolch sydd gan ysgrifenyddion yr eglwysi hyn i ofalu bod pregethwr yn y pulpud o Sul i Sul, a mawr yw'r achwyn gan rai aelodau oni lwyddir i wneud hynny. Bu amser pan dueddid i wneud sbort am ben y pregethwr lleyg, ond erbyn hyn buasai'n amhosibl i lawer o'n heglwysi bychain gario ymlaen heb wasanaeth parod y gwyrda hyn sydd wedi ennill eu plwyf bellach yn ein cylchoedd eglwysig. Yn fynych iawn pan na ellir sicrhau gwasanaeth pregethwr gwadd o unrhyw fath bydd yn rhaid i'r eglwysi hyn syrthio'n ôl ar eu hadnoddau eu hunain, ac os yw'r adnoddau hynny'n brin mae'r addoliad yn gallu mynd yn ddiflas a dieneiniad. Problem arall sy'n blino'r eglwysi bychain yw eu hanawster i gyfranogi o'r cymun sanctaidd yn gyson. Onid yw'n hwyr bryd i bob enwad bellach, yn wyneb yr argyfwng presennol ganiatáu i leygwyr (cydnabyddedig a thrwyddedig) gyflawni'r gwaith hollbwysig a chysegredig hwn? Un o feiau mwyaf yr Eglwys ar hyd y canrifoedd fu ei hamharodrwydd i ymadael â'r hen rigolau a thorri tir newydd. Y gwir amdani yw fod llu o aelodau ein heglwysi heddiw wedi colli blas at grefydd, ac fe glywais fwy nag un yn cyfaddef eu bod yn cadw draw am fod yr addoliad wedi mynd mor druenus o ddieneiniad. Yn wyneb hynny onid yw'n hen bryd inni fel eglwysi edrych i mewn i'r sefyllfa i weld beth y gellir ei wneud i'w gwella? Yr hyn sy'n arbennig o drist yn y sefyllfa bresennol yw gweld bod ymdeimlad o farweidd-dra diffrwyth wedi meddiannu cynifer o'n heglwysi gwan gan beri iddynt ddewis trengi yn eu hunfan yn hytrach na chymryd unrhyw gam a allai gynnig iddynt ryw ffordd o waredigaeth allan o'u hargyfwng. I atal unrhyw ddirywiad pellach oni ddylid mynd ati yn ddiymdroi i benodi comisiwn ar dir cydenwadol i ystyried a cheisio datrys problem yr eglwysi bychain? Yn llaw Duw y mae'r waredigaeth fawr, wrth reswm, ond yn y cyfamser mae'n ofynnol i ninnau wneud yr hyn a allom i sylweddoli gwir genhadaeth ei Eglwys a'i hundod delfrydol yma ar y ddaear. Morgan D. Jones (Maesteg) HEDDWCH CYMRAEG PEOG'H LLYDAWEG SIOCHAIN GWYDDELEG SITII GAELEG gàs CERNYWEG Va SHE MANAWEG Carden gan Gymdeithas Heddwch Eglwys Bresbyteraidd Cymru.