Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er i mi fynychu'r Gymanfa Gyffredinol, uchel lys yr Eglwys Bresbyteraidd, droeon o'r blaen, yr oedd y tro hwn yn wahanol. Cynhaliwyd hi eleni yn Llangeitho, un o fannau cychwyn y Diwygiad Methodistaidd 250 mlynedd yn ôl. Trefeca oedd y llall. Nid teithio o Rhuthun i Langeitho a wneuthum, ond pererindota, fel 200 o gynrychiolwyr eraill. Wrth fynd yn ôl at fy ngwreiddiau Methodistaidd, daeth geiriau yr Eingl- Gatholig, T. S. Eliot, yn ei gerdd "Little Gidding" yn ôl i'r cof: "You are not here to verify, Instruct yourself, or inform curiosity Or carry report. You are here to kneel Where prayer has been valid." Dylid, efallai, newid 'prayer' am 'preaching' yn y cyswllt hwn, o gofio mai dawn pregethu oedd dawn Daniel Rowland, Llangeitho. Heb dynnu dim oddi wrth arbenigrwydd pregethu, rhaid cydnabod, erbyn hyn, fod mwy nag un ffordd o gyflwyno'r Newydd- ion Da a rhannu argyhoeddiad. Cyrhaedd- ais Langeitho, yn sŵn canmoliaeth i basiant y dathlu "O'r Lôn Fudur at Boanerges" a ysgrifennwyd gan Harri Parri ac a gynhyrchwyd gan Euros Lewis. Ni allai cyflwyniad o'r fath fod heb ei neges. Bydd cyfle i Ogleddwyr flasu'r cyflwyniad yng Nghaernarfon a Phwllheli yn yr Hydref. Cafwyd neges bendant gan y darlithwyr a wahoddwyd i'r Gymanfa. Yn ei Darlith Davies, "Williams Ar y Blân", galwodd Cynwil Williams ni yn ôl at ysbrydoledd (spirituality). Yn hyn o beth, haerai'r darlithydd fod Williams wedi rhagflaenu Thomas Merton a Teilhard de Chardin, arwyr cyfoes ysbrydoledd. Sicrhaodd J. E. Wynne Davies ni oll, yn ei Ddarlith Hanes "Methodistiaeth fod y Mudiad yn Feiblaidd ac yn nhraddodiad yr Apostolion, er y gwelir tebygrwydd rhwng y Mudiad, mewn rhai agweddau, i fudiadau heresiol ar draws y canrifoedd. Nodwedd amlycaf Methodistiaeth meddai oedd enthiwsiastiaeth. Ystyr hynny yw "yn Nuw". Cawsom bortread difyr a diddorol o Daniel Rowland, Pregethwr y Miloedd, gan D. J. Odwyn Jones, un o blant y fro. Roedd ganddo'r doniau naturiol ar gyfer bod yn bregethwr, a meddai ddynoliaeth braf. Ar bwys ei raslonrwydd ystyrid bod mwy o Dduw ynddo nag yn y diwygwyr eraill. Collais anerchiad Derec Llwyd Morgan, "Cenhadaeth y Methodistiaid", ac anerchiad Dafydd Andrew Jones, "Cen- hadu Heddiw". Gobeithio y bydd y ddau John Owen anerchiad a'r darlithoedd yn ymddangos mewn print yn fuan er mwyn i ni gael amser i gnoi cil arnynt. Y Llywydd Yr oedd y Gymanfa yn hanesyddol mewn ystyr arall. Daeth tymor y ferch gyntaf, Mary Roberts, i fod yn Llywydd y Gymanfa i ben. Cyflwynodd ei haraith ymadawol mewn ffordd hynaws a hamddenol gan bwysleisio'r cysylltiad hanfodol rhwng cyffes a bywyd. Cyflawnodd ei gwaith fel Llywydd yn urddasol a di-ffwdan. Daeth fy nghymydog a fy nghyfaill, Y Parch. T. Noel Roberts, Rhuthun i'r Gadair yn ei lle. Cyflawnodd yntau waith mawr a chyson i'r Cyfundeb, a dymunir iddo flwyddyn newydd dda fel ein Llywydd. Fel Methodistiaid daeth y 'method' o dan y chwydd-wydr yn ddiweddar gyda'r argymhelliad o sefydlu pum adran yn lle’r 25 pwyllgor presennol. Bydd pwyllgorau o gyffelyb anian yn cael eu cydio wrth ei gilydd yn un adran. Y pum adran a awgrymir yw: Y Weinidogaeth, Y Genhad- aeth, Addysg, Arian ac Eiddo, a Chyfath- Llun: Tim Jones. rebu. Bydd Henaduriaeth a Sasiwn yn cael cyfle i'w drafod yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae rhai cwestiynau yn codi, fodd bynnag, er sylweddoli bod angen rhesymoli'r gyfundrefn mewn sefyllfa newydd. Un pwyllgor yn arbennig sy'n codi amheuon yn y meddwl yw Pwyllgor Materion Cymdeithasol sy'n cyflawni gwaith mawr ar hyd y blynyddoedd gan gadw clust y Cyfundeb wrth y ddaear. Er fod Gweithgor Heddwch wedi ei sefydlu yn ddiweddar, y mae maes y Pwyllgor hwn yn un eang ac ar adegau yn un dyrys. Yn y Gymanfa eleni, cyflwynwyd nifer o benderfyniadau yr oedd y pwyllgor wedi cael cyfle i'w trafod, a llu o benderfyniadau a luniwyd yn ystod cyfnod y Gymanfa ei hun. Yr argraff a adawyd ar y Gymanfa, yn gam neu gymwys, oedd fod ôl brys ar ambell benderfyniad. Dyna oedd barn y mwyafrif ar y penderfyniad a oedd yn ymwneud â'r Seiri Rhyddion. Fe basiwyd y penderfyniad ynglŷn â'r herw-gipio yn Beirut. Mynegwyd cydymdeimlad haedd- iannol â'r gwystlon, ond gwrthodwyd cyd- ymdeimlo â'r Shiaid a garcharwyd yn