Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAWENHEWCH Llawenhewch gyda mi! Dyna oedd gwahoddiad bugail i'w gyfeillion a'i gymdogion. Beth sy'n bod? meddent hwy. Cefais hyd i'r ddafad fach ymwahanodd, aeth ar goll. J Do, fe'i cefais, ar ôl chwilio! Llawenhewch gyda mi! Llawenhewch gyda mi! Dyna oedd gwahoddiad cynnes roddodd gwraig i'w chyfeillesau. Beth sy'n bod? meddent hwy. Cefais hyd i'm trysor annwyl, darn mor werthfawr o'm treftadaeth. Do, fe'i cefais, ar ôl chwilio! Llawenhewch gyda mi! Llawenha gyda mi! Dyna oedd gwahoddiad taer tad i'w fab, i rannu'r gwledda. Beth sy'n bod? meddai yntau. Beth yw'r dawnsio a'r gerddoriaeth sy'n merwino fy nghlustiau? Ni wnaf dderbyn dy wahoddiad. Ai fel hyn dangosi gariad ataf fi a fu mor ffyddlon; dilyn pob un o'th orchmynion dros yr holl flynyddoedd meithion heb un wledd gyda'm cyfeillion? Ond, fy mhlentyn, meddai'r tad, Daeth dy frawd a fu ar goll daeth yn fyw! Rhaid yw llawenhau a gwledda! Tyrd i mewn, fy mhlentyn annwyl a fu'n ffyddlon ac yn gyson. Da thi, paid â cholli'r cyfle o roi croeso i'th frawd i'enga'. Rhoddais iddo wisgoedd teilwng, rhoddais iddo fodrwy brydferth, rhoddais iddo 'sgidiau cryfion i'w ailgodi i'w le parchus, i'w aildderbyn ef i'r teulu. Ni wnaf dderbyn dy wahoddiad. Nid yw'r un a fu'n traflyncu dy holl eiddo ar buteiniaid yn teilyngu'r enw 'brawd'! Dewis rhyngddo fe a fi! Llawenhewch gyda mi! Dyna oedd gwahoddiad Iesu: Dewch, ysgrifenyddion parchus a chwi'r Ffariseaid ffyddlon! Llawenhewch a pheidiwch grwgnach! Beth sy'n bod? Daeth cyfeillion a chymdogion i gydwledda â'r hen fugail; Daeth cyfeillion a chymdogion i gydlawenhau â'r wraig. Pam na ddewch chwi, hefyd felly, i gydlawenhau â mi? Onid ydyw casglwyr trethi, Onid ydyw pechaduriaid a droes ataf yn eu hangen yn fwy gwerthfawr na hen ddafad, yn fwy pwysig na darn arian? Gwyliwn rhag i'n rhagrith ynfyd, Gwyliwn rhag i'n gor-barchusrwydd, Gwyliwn rhag i'n hunanoldeb, Gwyliwn rhag i'n diffyg cariad Gau pob drws i'w wynfyd Ef! (yn sgîl pregeth gweinidog Ebeneser, Rhos bore Sul, 24.2.85, yn seiliedig ar Luc 15) Gwyneth Evans CYNEFIN Cefni, Colli, Hiraethu, Dychwelyd, Heb nef. Erglyw, Dduw. Dwg fi adre', Fugail mawr. Deffro, Llonna'th galon. Ef a geidw mynediad a dyfodiad. cyNEFin. Conrad Evans