Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau Y Meddwl Cyfoes Golygwyd gan Meredydd Evans Gwasg Prifysgol Cymru. tt.viii+ 79 Pris £ 5.96 Casgliad o sgyrsiau a roddwyd ar Radio Cymru chwe mlynedd yn ôl yw cynnwys y gyfrol hon. Trefnwyd y gyfres gan bwyllgor Adran Athroniaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn y gred nad oedd lle priodol yn cael ei roi "i ddarlledu trafodaethau athronyddol ar gyfrwng mor eang ei ddylanwad a'r radio." Ceir naw o sgyrsiau gan athronwyr proffesiynol, y rhan fwyaf ohonynt ar staff Prifysgol Cymru ac yn enwau cyfarwydd yn y Gymru Gymraeg. Mae amrywiaeth yn y pynciau yr ymdrinir â hwy-crefydd, natur athroniaeth, estheteg, athroniaeth gwleid- yddiaeth a gwyddoniaeth a moesoldeb i enwi rhai yn unig. Sgyrsiau hanner awr ydynt ac nid oes yr un erthygl yn hwy na deg tudalen. O raid felly ymdriniaeth syml a chyffredinol a geir ac nid oes torri tir newydd na chynnig damcaniaethau newydd. Ceisir egluro natur y gwahanol agweddau ar athroniaeth a'r problemau a gyfyd ym mhob maes. I'r rhai sy'n gyfarwydd ag athroniaeth ni ddywedir dim nad yw'n gyfarwydd eisoes. Llyfr yw hwn yn bennaf i'r darllenydd cyffredin bondigrybwyll. Mae'n llyfr ardderchog i'r rhai nad ydynt yn hyddysg mewn athron- iaeth ond a hoffai gael cyfrol fechan, heb fod yn rhy gymhleth, i geisio gwybod beth mae athronwyr wedi ac yn ei feddwl am y pynciau dan sylw. Ond peidied neb a chael ei dwyllo gan y gair "cyfoes" yn y teitl. Mae'r cyfranwyr yn gyfoes ond dyna'r cwbl. Rhaid canmol eglurder pob un o'r erthyglau. Maent yn glir fel grisial ac yn hyfrydwch eu darllen. Mae'n amlwg fod y cyfranwyr wedi ymdrechu, a llwyddo, yn eu tasg o gyfathrebu ar bynciau digon dyrus efo rhai nad ydynt yn gyfarwydd ag athron- iaeth. I ddarllenwyr 'Cristion' mae'n bosibl mai erthyglau Hywel D. Lewis ar "Lle'r deall mewn crefydd" a T. A. Roberts ar "Seil- iadau Dyfarniadau Moesol" fydd yn apelio fwyaf. Bydd y rhai sy'n gyfarwydd â gwaith Hywel D. Lewis yn gwybod am ei hir frwydr yn erbyn "dogmatiaeth wrth- resymol y ddiwinyddion" megis Barth, Brunner a Niebuhr ac hefyd yn erbyn athronwyr iaith y bu Wittgenstein ac Ayer yn ladmeryddion enwog iddynt. Yn ber- sonnol credaf y byddai cyflwr diwinydd- iaeth a chrefydd yn iachach pe baem wedi gwrando'nghynt ar neges Hywel D. Lewis. Cyfrol hwylus iawn i godi cwr y llen ar athroniaeth yw hon. Ond mae gennyf ddwy gwyn cyn terfynu. Yn gyntaf paham y bu'r fath oedi cyn cyhoeddi'r gyfrol? Wedi'r cwbl rhoddwyd y sgyrsiau chwe mlynedd yn 01 bellach. Paham nad ellid fod wedi eu cyhoeddi yn llawer cynt? Mae'r cyfrol wedi ei hargraffu'n hyfryd dros ben ar bapur da gyda rhwymiad graenus. Mae'r llyfr yn bleser ei fyseddu. Ond tybed a oedd angen y fath raen a'r fath bris o ganlyniad ar lyfr 79 tudalen sy'n ddim namyn casgliad o sgyrsiau radio a chyflwyniad syml i bynciau athronyddol. Byddai'n fwy o gymwynas o lawer cyhoeddi'r gyfrol mewn rhwymiad ac argraffiad rhad yn y gobaith y byddai cylch llawer ehangach yn ei phrynu a'i darllen. Meirion Lloyd Davies. Pennar Davies. Yr A wen Almaenig Gwasg Prifysgol Cymru at ran yr Academi Gymreig. Tt.97, 1983. £ 3 Yr mae'r Dr. Pennar Davies yn adnabyddus i ddarlenwyr Cristion fel awdur amryddawn: yn ddiwinydd, ysgolhaig, bardd, nofelydd, awdur storiau byrion, a chenedlaetholwr brwd, ond heblaw hyn y mae'n gyfieithydd rhagorol. Wrth feddwl am gyfieithwyr gallwn ddwyn i god ond odid gyfieithiadau Syr John Morris-Jones o Omar Khayyam a thelynegion Almaenig a rhai T. Gwynn Jones o Faust I Goethe a Macbeth, a bu Gwenallt yn weithgar yn yr un maes. Dyma gyfraniad Pennar Davies. Yn y gyfrol hon, Awen yr Almaen, ceir ym agos i gant a deg ar hugain o gyfieith- iadau o gerddi Almaeneg oddi ar y nawfed ganrif hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf. Er nad yw hi'n gyfrol sylweddol (â dim ond 97 tudalen) fe rydd fraslun da o farddoniaeth yr Almaen, ond heb gynnwys cerddi hir. Llwyddiant rhagorol Pennar Davies yw ei allu i gyfleu yn gywir naws y cerddi gwreiddiol: dawn a ddengys ei feistrolaeth ar yr iaith. Nid hawdd yw cyfieithu, yn enwedig barddoniaeth a'r naws a'r hwyliau sydd mor anodd i'w cyfleu drwy gyfrwng iaith arall sy'n gwbl annhebyg ei natur a'i chystrawen. Ond dyna a wnaeth y cyfieithydd hwn. Fel y dywed yn ei ragair: "Cyfieithais nid i ryddiaeth ond i'r mesurau ag a geir yn y cerddi gwreiddiol, tasg dipyn yn fwy anodd a dull sy'n gorfodi'r cyfieithydd i aberthu llythrenoliaeth fanwl er mwyn ail-greu naws a symudiad y farddoniaeth. Mae elfen o ail- greu ym mhob cyfieithu, ond daw'n amlycach, yn gwbl anochel, pan geisir adgynhyrchu patrymau gwreiddiol. Ond cesiais osgoi rhyw rydd-gyfieithu mympwyol." Gwir yw hyn, fel y gwyr y sawl a geisiodd gyfieithu barddoniaeth estron i'r Gymraeg. Cymharais fesul llinell ryw ddeg ar hugain o'r cerddi hyn yn y gwreiddiol â'r trosiadau a rhyfeddu at y graddau yr adgynhyrchir hwyr yn fydryddol a llythrennol. Diddorol, i'r sawl a ymddiddoro yn y fath beth, yw cymharu cyfieithiad Syr John Morris-Jones o gerdd Heine, Du bist wie eine Blume ("Cyffelyb wyt i flodyn") â'r eiddo Pennar Davies a throsiad yr olaf sydd agosaf at y gwreiddiol. Dyma gyfieith- iad Gwenallt o gerdd enwog Goethe, Wandrers Nachtlied (Hwyrgan y Crwydryn): Uwchben y bannau A brig y coedlannau Ni chlywi di ond distawrwydd y bedd; Tawel yw adar y tir. Aros, dro, a chyn hir Fe gei dithau hedd. A dyma fersiwn Pennar Davies: Ar yr holl gopaon Mae hedd. Prin clywi chwaon Unrhyw wedd Ar frigau ir. Tau'r adar bach yn y coedlannau. Aros cei dithau Huno cyn hir. (Über allen Gipfeln ist Ruh? In allen Wipfeln Spürest du Kaum einen Hauch; Die Vögelein schweigen im Walde; Warte nur, balde Ruhest du auch.) Er iddo osod ynddi un llinell ychwanegol er mwyn yr odli, llwydda i gyfleu y naws wreiddiol i'r dim; hwyrach nad oes fawr ddim i'w ddewis rhwng y ddau. Gellid dyfynnu enghreifftiau eraill pe byddai lle, a dweud rhagor am y detholiad. Fel y dywed Pennar Davies, "mae pob detholiad yn adlewyrchu chwaeth y deth- olwr," ac y mae hynny'n wir am y gyfrol hon. Un peth arall: y mae rhagarweiniad byr ar bob bardd y cynhwysir ei waith. At ei gilydd rhydd y nodiadau hyn fraslun gwerthfawr o hanes barddoniaeth yr Almaen yn ystod un ganrif ar ddeg. Y mae'r gyfrol fach hon (ond paham y mae cyhoeddiadau Gwasg y Brifysgol mor ddrud?) i'w chymeradwyo i'r sawl a fynno ymgyfarwyddo â barddoniaeth delynegol yr Almaen. Geraint Vaughan Jones R. G. Berry Storiwr a Dramawr Huw Ethall Tŷ John Penry. £ 3.75 Yn y dauddegau fe gyfrifid R. G. Berry, y llenor a'r dramodydd o Lanrwst, yn un o wyr llên gloywaf Cymru, gwr a ddisgrifiwyd gan yr Athro. W. J. Gruffydd fel un a oedd