Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"ymhlith ein hychydig wir artistiaid", ac yn "un o Gymry mwyaf nodedig ei oes". A dywedodd yr Athro. T. J. Morgan, yn ei astudiaeth arno: "Does dim amheuaeth nad oedd bwrlwm o artistri yn ei enaid." Credir mai o Gernyw y tarddodd y teulu Berry i gychwyn, ond dywedwyd i hen hendaid iddo ddyfod o Iwerddon a didd- orol yw deall bod Emlyn Williams, yr actor, yn credu bod Berry yn gefnder i'w nain. Dywed Huw Ethall, yn y llyfr hwn mai Robert Griffith Berry oedd unig blentyn ail briodas ei dad, a oedd yn ddiacon yn eglwys Annibynnol y Tabernacl, Llanrwst. Daeth rhai o gymeriadau tref Llanrwst yn fyw ger ein bron yn storïau a dramâu R. G. Berry. Rwy'n hoffi disgrifiad Huw Ethall: "a daethant o farw'n fyw yn storïau Berry". Y ddiweddar Kate Roberts oedd y gyntaf i alw sylw ato fel storiwr a dramawr. Yr oedd hi wedi ffoli arno. Canmolwyd gwaith Berry fel llenor Saes- neg, a gresyn fod ei sgyrsiau radio, a ddarlledwyd i ysgolion ar Chwefror 2, 1943 "ymhlith trysorau coll y BBC." Meddai ddawn ddychanol gref, a amlygwyd yn ei storïau a'i ddramâu. Treuliodd y rhan helaethaf o'i oes fel gweinidog Eglwys Bethlehem (A), Gwae- lod-y-garth, a'i gyflog oedd £ 5.10. Bu'n weinidog yno am wyth mlynedd a deugain! Yr oedd Berry yn wr hynod fentrus yn y cyfnod hwnnw. Olrheiniodd Huw Ethall y camau pwysig yn natblydiad Berry fel llenor a dramawr yn hynod fedrus gyda dyfyniadau o bwys o'i ysgrifau Cymraeg a Saesneg a sylwadau arnynt. Rhyfeddwn at graffter Berry a'i farn aeddfed am y pethau a berthyn i'r bywyd hwn. Rhaid cyfaddef bod rhai pethau yn athrylith R. G. Berry sy'n ein siomi ei blwyfoldeb Annibynnol a'i obaith Prydeinig. Rwy'n barod iawn i gydnabod fy mod yn methu yn y dyfarniad hwn ar fywyd gwr o wir athrylith. Yr oedd Berry yn arloeswr yn ei eglwys yng Ngwaelod-y-garth, a dywed ei gof- iannydd ei fod "yn ymroi i hybu'r ddrama lle gynt y gwelid y ddrama yn berygl i dwf ysbrydol y saint." Ac i Berry, nid hybu crefydd, ond hyrwyddo iaith a diwylliant oedd bwriad y gweithgarwch, ac mewn cyfnod diweddarach, iddo ef, "cyfle i ddyrchafu urddas cenedl." Ceir hanes dramâu cynnar R. G. Berry yn y llyfr hwn a hanes ei ddatblygiad fel dramawr a llenor. Drama gyntaf bwysig Berry oedd i'Ary Groesffordd" (1914). Yr adeg honno yr oedd tua 200 o gwmnïau drama amatur Cymraeg yng Nghymru, ac yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gysyll- tiedig ag eglwysi. Dangosodd Berry, mewn adolygiad ar un o ddramâu Ibsen ei fod yn feirniad craff. "Llwyddodd yr awdur o leiaf, i wynebu ei gynulleidfa gapefol a festrïol â phroblem dewis rhwng safonau byd ac eglwys," medd Huw Ethall. "Rhwng crefydd gywir a rhag- rith." Bu adeg yng nghyfnod Berry pan gredai'r saint yn yr eglwysi fod y ddrama yn berygl i'w twf ysbrydol. Cafodd drama Berry, "Ar y Groesffordd", dderbyniad ffafriol iawn a chafodd "Noson o Farrug" ac "Asgre Lân" hithau, yr un math o groeso, ond teimlir erbyn hyn mai yn "Yr Hen Anian" y llwyddodd y dramawr i bortreadu y ddeuol- iaeth sydd yn y natur ddynol, meddai Huw Ethall. Cyfrol o naw o storïau byrion yw "Y Llawr Dyrnu" ac mae naws grefyddol yn rhedeg drwyddynt. "Nid crefydd barchus, sefydliadol, mae'n wir," medd Ethall, "mo honno a'r cymeriadau yn uniongred mewn credo a buchedd, ond cymeriadau a fu unwaith yn rhan o'r 'sefydliad' crefyddol, ond a gadwodd rywfaint o'u crefydd er gwadu'r allanolion." Er bod Berry'n ddychanwr medrus, nid oedd yn gas. Canmolwyd parodiau y dramawr-storïwr gan yr Athro T. J. Morgan a bu W. J. Gruffydd a Iorwerth C. Peate hwythau yn hael eu clodydd iddo fel gwr llên a dramawr. Y mae'r bywgraffiad hwn ohono yn gyf- raniad o bwys i'n llenyddiaeth feirniadol. Gwilym R. Jones R. Williams Parry — Alan Llwyd Gwasg Pantycelyn. £ 2.50 Gwasg fach sy'n haeddu ei chanmol yw Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, am fentro cyhoeddi ac argraffu mor ddestlus gyfres fel Llên y llenor a olygir gan neb llai na'r Athro J. E. Caerwyn Williams. Y tro hwn R. Wil- liams Parry a gaiff sylw a hynny gan Alan Llwyd, gwr sydd eisoes wedi ei brofi'i hun nid yn unig yn un o'n beirdd mwyaf cread- igol ond hefyd yn feirniad llenyddol craff. Brawddeg agoriadol y llyfryn hwn yw: "R. Williams Parry yw myth mwyaf ein llên. Ni chlodforwyd yr un bardd o Gymro i'r un graddau ag y canmolwyd ef; troes y ganmol- iaeth yn organmoliaeth, ac, yn y pen draw anochel, yn eilun-addoliaeth. Ef, i'r mwy- afrif helaeth o Gymry llengar, oedd pinacl perffeithrwydd, y mawredd anghyraeddadwy ac anesboniadwy hwnnw nad yw'n digwydd ond unwaith yn y pedwar amser. Y mae llawer o'r pethau a ddywedwyd, ac a ddywedir, am ei farddoniaeth yn rhaman- taidd-naif, ac yn arddangos diffyg crebwyll parthed y broses greadigol." Dyna fentro dweud peth peryglus yn y frawddeg a'r paragraff cyntaf. Bron na chlyw dyn y cacwn eisoes yn sio o gwmpas pen yr awdur. Fel un o brif edmygwyr Bardd yr Haf erioed ac un sy'n falch ei fod yn dyfod o'r un dyffryn ag ef, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedir yn y paragraff uchod. Cymwynas Alan fu cracio'r gragen hon a chael at y gwir fardd R.W.P., a'i ddatguddio o'r newydd inni. Rhyw saith oed oedd Alan Llwyd pan fu farw R.W.P., a'r wyrth i mi yw ddarfod iddo ef adnabod teithi meddwl y bardd mawr yn llawer gwell yn fy marn i na rhai ohonom a gafodd y fraint o'i adnabod yn dda. Ni olyga hynny bod rhaid cytuno â phopeth a ddywed; Alan Llwyd ei hun fyddai'r olaf i ddisgwyl peth felly. Llawenydd i mi oedd ei glywed yn dweud peth fel hyn ar dudalen 24: "Atgofion difyr ei gyfeillion amdano a fu'n bennaf gyfrifol am greu myth ohono, ac fe'i gosodwyd gan y beirniaid ar drostan anghyr- aeddadwy." Wrth ymdrin â'r cyfnod rhamantus yn hanes y bardd, pan ddywed mai T. S. Eliot oedd y cyntaf i ddryllio rhith rhamantiaeth, cyfeiria at gerdd Rhydwen Williams sy'n disgrifio Eliot fel hyn: "Het galed ac wmbarel mor gonfensiynol â chlarc, Ni thybiai feirdd yn rhywogaeth ar wahân, Ac er pob defod, ni fynnai fraint i brydydd." Mae'n siwr gen i y dywedai'r sawl a adnabu R.W.P. fod y llinellau hyn yn ei bortreadu yntau i'r dim. Ni bu neb erioed mwy anhebyg i fardd nag ef o ran ymwis- giad ac ymddangosiad. Cyfnod gogoneddus rhamantiaeth oedd cyfnod ieuenctid R.W.P., a rhamantydd oedd yntau fel llawer bardd ifanc arall yn y cyfnod cynnar hwnnw. Naturiol hefyd i fyfyriwr ifanc o fardd oedd adleisio beirdd Saesneg fel Keats a Byron a'u tebyg. Do, cafwyd rhamantydd, ond rhamantydd go arbennig, ym Mardd yr Haf. "Mi gefais goleg gan fy nhad A rhodio'r byd i wella'm stad, Ond cefais gan yr hon a'm dug Fy ngeni'n frawd i flodau'r grug." Dyna gyffes y bardd yn ei ddyddiau cynnar, ond mi fydda' i'n ofni'n aml fod ei feirniaid wedi rhoi gormod o bwys ar y cwpled olaf o'r pennill hwn ar draul isbrisio'r cwpled cyntaf. Yn nyddiau'r coleg cafodd yr ysgolhaig R. Williams Parry gyfle mawr ei fywyd ym Mangor wrth draed y Gamaliel John Morris Jones, ac fe fanteis- iodd yntau'n helaeth ar ei gyfle. Daeth yn un o'r cynganeddwyr coethaf ac yn gryn feistr ar gerdd dafod yn bur ifanc, a chipio ohono gadair Eisteddfod y Coleg am ei awdl gref Cantre'r Gwaelod. Ychydig iawn fu raid disgwyl wedyn cyn ei weld yn cael ei gadeirio am Awdl Yr Haf. Ffaith nas pwysleisir hanner digon gan ei gofianwyr yw mai bardd a ddatblygodd trwy ddisgyb- laeth y gynghanedd oedd Robert Williams Parry. Bu ei ddisgyblaeth gynganeddol yn sylfaen i'w farddoniaeth hyd y diwedd; brigai'r gynghanedd i'r wyneb yn y rhan fwyaf o'i gerddi trwy gydol ei oes. Sylwodd Alan Llwyd hefyd ar hyn ac wrth gyfeirio at y camargraff a gafodd rhai pobl bod R.W.P. wedi cefnu ar y gynghanedd dywed: