Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Symud i gyfeiriad y gynghanedd a wnaeth Williams Parry wrth dynnu ymlaen yn ei ddyddiau, nid symud oddi wrthi." Aeth mor bell â hawlio ped ai rhywun i'r drafferth o astudio patrymau Cerddi'r Gaeaf y gwelai hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud na welaf i lawn cymaint o fwlch, neu o wahaniaeth ag a wêl Alan yn nheilyngdod cymharol Yr Haf a Cherddi Eraill a Cerddi'r Gaeaf. Er bod y dadansoddiad a geir ar dudalen 32 yn gydwybodol a chyson â chorff yr ymres- ymiad, efallai na chytunwn i â phopeth a ddywedir. Mater o farn yw hynny. Mater o chwaeth bersonol o bosibl. Fe wnaeth y Dr. John Gwilym Jones gymwynas fawr cyn hyn trwy alw sylw yn ei ddarlithoedd at ddylanwad ei gefndir a'i wybodaeth ysgrythurol helaeth ar lenydd- iaeth R.W.P. Sylweddolasom ninnau wedyn ar y cyfeiriadau ysgrythurol nid anfynych yn rhai o gerddi pwysicaf y bardd. Clywem acen a gwelem batrwm Edmwnd Prys yng ngherdd y bardd i Housman, a synhwyrem naws y Perganiedydd ei hun ar ei soned i Bantycelyn. Dysgasom fod cryn arwyddocad i'r ymadrodd "Y Farchnad Fawr" yn y gerdd i'r Gwyddau. Ni ddihan- godd y dylanwad mawr hwn ar y bardd heb i Alan Llwyd hefyd sylwi arno. Darllener ei ddadansoddiad o gerdd fawr R.W.P. i Ddrudwy Branwen yng nghorff ei ymdrin- iaeth. Ni wna'r ymdriniaeth hon o'r eiddo Alan Llwyd ond dwyn i'r amlwg wir fawredd y bardd Robert Williams Parry, a'r mwyaf ymwybodol o bawb o'i fawredd yw'r awdur ei hun. Ei frawddeg olaf yw: "Diddanwr oedd Williams Parry yn YrHafa cherddi eraill, ac eithrio yn yr englynion coffa; proffwyd ydoedd yn Cerddi'r Gaeaf, a bardd da iawn yn y naill ond bardd mawr yn y llall." Astudiaeth oleuedig, ddewr, sy'n adfer cydbwysedd barn yw'r astudiaeth hon. Y syndod yw bod astudiaeth mor werthfawr yn cael ei chynnig mewn llyfryn nad yw'n costio ond £ 2.50. Mathonwy Hughes CWIS Sefydlu Ysgolion Sul 1. Tynnodd rhywun sylw Robert Raikes, perchennog y Gloucester Journal, at fodd ofer plant y ffatri- oedd o dreulio'r Sabboth. Pwy oedd hwnnw? 2. Pa beth bwriadai Robert Raikes ei gyflawni trwy ei Ysgol Su1? 3. Pa Ie ganwyd Tomos Charles? Pa flynyddoedd oedd ei eni a'i farw? 4. Pa beth oedd diben Tomos Charles wrth sefydlu Ysgolion Sui Cymru? 5. Paham y bu gwrthwynebiad gan lawer o bobol crefyddol i sefydlu'r Ysgolion? 6. Pa beth yn arbennig a hwylusodd y gwaith o sefydlu'r ysgolion? 7. Pa Ie y ganwyd Griffith Jones? A beth yw blynyddoedd ei eni a'i farw yntau? 8. Beth oedd cynllun Tomos Charles wrth sefydlu'r ysgolion? 9. Ymha Ie y mae bedd Tomos Charles? 10. Pwy oedd brawd enwog Tomos Charles? Haydn Davies Teimlaf reidrwydd i ymateb drwy eich colofnau i'r rhaglen deledu Y Fantol, a ddarlledwyd dro'n ôl ar S4C, pan drafodwyd "A yw gwrywgydiaeth a'r gymdeithas hoyw yn dderbyniol yn y gymdeithas?" Fe1 Cristion sydd wedi gorfod ymgodymu â thueddiadau cyfunrywiol, cefais fy siomi a'm brifo gan honiadau ac ensyniadau a wnaethpwyd ar y rhaglen gan gyd- ddilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf, wrth egluro mai diffyg yn nosbarthiad y cromosomau sydd yn achosi cyfunrywioldeb, yr oedd yr Dr. Dafydd Huws yn awgrymu rhyw fath o nam neu wendid yn y wyrth o greu maes, os ca'i awgrymu'n garedig, sydd y tu hwnt i bob un ohonom. Yn ail, yr oedd rhan helaeth o'i dystiolaeth yn ymwneud â phroblem seiciatryddol bod yn gyfunrywiol. I ddechrau, rhaid derbyn fod pawb a aiff i'w weld yn rhinwedd ei waith fe1 seiciatrydd angen cymorth, ond credaf mai carfan fechan o'r boblogaeth gyfunrywiol yw y rhain, ac nad problem yw i'r mwyafrif. Yn drydydd ac yn bennaf, gwnaed datganiad gan y Dr. Denzil Davies mai dynion cyfunrywiol oedd wedi cychwyn a lledaenu'r clefyd AIDS. Fe wyr unrhyw un sydd wedi darllen adroddiadau a datganiadau'r B.M.A. ac arbenigwyr yn y maes fod hyn yn gwbl anghywir. Rhan o broblem ehangach yw'r ffactor gyfunrywiol yn AIDS: nid yw wedi ei gyfyngu i bobl gyfunrywiol, er bod yn rhaid derbyn fod pobl gyfunrywiol sydd â nifer o bartneriaid yn fwy tebyg o ddal y salwch ofnadwy hwn. Swm a sylwedd fy nadleuon ydi na ddylai unrhyw Gristion feirniadu pobl gyfun- rywiol heb yn gyntaf wneud ymdrech i ddeall a gwrando ar y Cristion sy'n gyfunrywiol. Nid pob person cyfunrywiol, sy'n ymddwyn yn anfoesol nac yn bechadurus. Efallai mai fi sydd yn camddeall fy nheimladau wrth geisio eu cysoni gyda'm ffydd Gristnogol, ond ni allaf yn fy myw weld sut mae'r rhai sy'n condemnio cyfunrywioldeb ar sail ddiwin- yddol yn gorfod defnyddio dadleuon di-sail a chamliwio'r gwir. Fe saif tystiolaeth yr Arglwydd Iesu Grist yn gadarn heb ddulliau anonest. Yr eiddoch yn gywir Roger Dafydd Glanfa Y Waunfawr Gwynedd