Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOLEN CYMRU LESOTHOCYMRU gan E. H. Griffiths 'Pwy wyr nad yw Duw wedi cadw'r Cymry yn genedl hyd yn hyn am fod ganddo waith neilltuol i'w wneuthur trwyddynt yn y byd', meddai Emrys ap Iwan yn 1890. Pwy wyr nad rhan ô'r gwaith neilltuol hwnnw yw'r gwaith newydd ac unigryw sydd ar droed yn awr dan Ymddiriedolaeth 'Dolen Cymru' i gysylltu Cymru â Lesotho. Dechreuodd y gwaith mewn cynadleddau a gynhaliwyd ym Mangor a Llangefni dros ddwy flynedd yn ôl pan drafodwyd cyfle a chyfrifoldeb Cymru yn y byd cyfoes. Iwan arall sef y Dr. Carl Iwan Clowes, Arbenigwr mewn Meddygaeth Gymuned gydag Awdurdod Iechyd ar y pryd a gweledydd oedd eisoes wedi gwneud cymaint dros gymuned Llanaelhaearn trwy 'Antur Aelhaearn' a thros Gymru trwy 'Canolfan laith Nant Gwytheyrn' a awgrymodd Beth am efeillio Cymru ag un o wledydd tlawd y trydydd byd?' Pasiwyd i gyfarfod eto i wyntyllu'r syniad y gallai dwy gymuned genedlaethol o faintioli gweddol gyfartal ffurfio 'dolen' dros fwlch mawr gwledydd datblygedig y Gogledd a gwledydd tlawd y De, dolen mewn gwybodaeth, cyd-ddeall a chyfeillgarwch a thrwyddi gallai'r naill a'r lla.Il ddod yn y man i werthfawrogi nodweddion, problemau a dyheadau ei gilydd. Wedi derbyn y syniad mewn egwyddor, aed ati i ystyried cynifer â 36 o wledydd i ddibenion efeillio â Chymru, ac wedi ymgynghoriad pellach cwtogwyd y rhestr i bedair gwlad yng nghyfandir Affrica: Botswana, Lesotho, Malawi a Tansania, ac yn y diwedd, daeth Lesotho i'r brig. Ond pam Lesotho, meddech chi? Lesotho Yn bennaf, oherwydd ei thebygrwydd i Gymru. Gellid cymharu ei mynyddoedd, ei defaid mynydd a'i geifr, ei hadnoddau dwr, ei fforestydd, ei diwydiannau crefft, ei dibyniad ar fwyngloddio (er bod hwnnw dros y ffin yn Ne Affrica) a'i thwristiaeth, ei brwdfrydedd dros addysg, ei dwy- ieithrwydd (arferir Lesotheg a'r Saesneg yno) a'i thraddodiadau corawl. Tua 1.4 miliwn yw ei phoblogaeth a thref Maseru yw ei phrifddinas. Er bod Lesotho wedi'i hamgylchynu'n gyfangwbl gan wlad bwerus fel De Affrica, mae ganddi annibyniaeth a'i brenhiniaeth gyfansoddiadol ei hun a gwrthyd athroniaeth apartheid. Mae hi'n aelod o'r Gymanwlad, o Sefydliad Undod Affrica ac o'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ei dosbarthu fel un o'r gwledydd Lleiaf Datblygedig ond y mae cyfartaledd y rhai sy'n llythrennog o'i mewn ymysg yr uchaf yn yr Affrica. Mae Cristnogaeth yn gryf yn Lesotho a'r tri enwad cryfaf o'i mewn a'r rhai sy'n rheoli'r ysgolion yw'r Pabyddion, Yr Eglwys Anglicanaidd, a'r Efengylwyr. Wedi derbyn yr egwyddor o ddolen awgrymedig rhwng Cymru a Lesotho gan y pwyllgor llywio, y cam nesaf oedd ymgynghori â'r Swyddfa Gymreig, Y Swyddfa Gartref, Swyddfa Uwch-Gomisiynydd Lesotho yn Llundain, Swyddfa Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol etc. i chwilio a oedd cefnogaeth i'r syniad; a chaed ymatebiad cadarnhaol a brwdfrydig ganddynt oll. A chefnogaeth frwd hefyd y wasg, y cyfryngau, Prifysgol Cymru, Cyngor Eglwysi Cymru, Undeb y Gweithwyr, Yr Eisteddfod Genedlaethol a nifer fawr o unigolion ymhob cwr o'r wlad. Y cam nesaf oedd mynd ati i ethol swyddogion, pwyllgor a sefydlu ymddiriedolaeth. Yn nechrau mis Rhagfyr 1984 dechreuodd proses 'nabod ein gilydd' pan ymwelodd tri o swyddogion addysg yn Lesotho, cynrychiolwyr y prif enwadau yn eu gwlad, â Gwynedd i fwrw golwg ar gynllun addysg dwy-eithog y Sir. Cawsant ginio gan y Cyngor Sir ac ymwelsant ag ysgol wledig Llanaelhaearn a Choleg Normal, Bangor. Lansio a Symud Ymlaen Seliwyd y Ddolen rhwng Cymru a Lesotho yn swyddogol, yn briodol iawn, ar ddydd cenedlaethol Lesotho Mawrth 12 ac mor agos i Ŵyl Nawdd Sant Cymru ag oedd yn bosibl, mewn Cynhadledd i'r Wasg yn y Swyddfa Gymreig gan y Cadeirydd Dr. Carl Iwan Clowes a Mr. Odilon Tlali Sefako, Uchel Gomisiynydd Lesotho yn Llundain. Defnyddiwyd tair iaith, dwy faner ac arwyddion traddodiadol y ddwy wlad y ddraig a'r het wellt a pharti o blant o Ysgol Gymraeg Y Wern ar yr a'chlysur 'hanesyddol' hwnnw, chwedl Mr. Sefako amdano, yn ei araith. Er nad oedd Ysgrifennydd Cymru yn gallu bod yno'i hun, anfonodd ei ddirpwy Mr. R. H. Jones a llythyr yn datgan ei gefnogaeth frwd a'i ddymuniadau da i'r ddolen. Bu cynnydd sylweddol ers diwrnod mawr y lansio. Mae dwy ysgol gynradd Ysgol y Garnedd ac Ysgol Cae Top ym Mangor a phump o Ysgolion uwchradd gan gynnwys Ysgolion Syr David Hughes (Porthaethwy), Penweddig (Aberystwyth) a Llanishen, Caerdydd eisoes mewn cyswllt ag ysgolion cymharol yn Lesotho. Bu Mr. O. T. Sefako a'i briod yng Ngwynedd drachefn yn niwedd Mis Mehefin ac ymwelsant â dwy o'r ysgolion gogleddol a enwyd eisoes a than arweiniad Yr Athro Gareth Wyn Jones a'r Ganolfan yn y Brifysgol ym Mangor sy'n ymdrin ag astudiaethau Ardaloedd Sych. Ymwelsant hefyd dan arweiniad y Cadeirydd ag 'Antur Aelhaearn' a 'Chanolfan Iaith Nant Gwytheyrn, a chawsant eu croesawu i ginio drachefn gan brif swyddogion gweithredol ac addysg y Sir. Yr oeddynt yn bresennol hefyd ym mhwyllgor Y Ddolen yn Y Drenewydd yn gwrando ar Mr. James Thomas, Aelod Ymgynghorol a Thrysorydd Y Gymdeithas Amaethyddol