Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Frenhinol i'r Gymanwlad yn rhoi peth o'i hanes yn Sambia ac yn awgrymu datblygiadau posibl rhwng Cymru a Lesotho mewn amaethyddiaeth, dwr a choedwigaeth. Yr oedd baner Lesotho yn cyhwfan ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl yn gyfochrog â'r Ddraig Goch pan groesâwyd Uchel Gomisiynydd Gweithredol Lesotho a'i briod gan Y Dr. Emyr Wyn Jones, Llywydd Llys yr Eisteddfod, a rhan boblogaidd iawn o raglen 'Arian Byw' ym Mhafiliwn Yr Eisteddfod ar brynhawn Sul Awst 11 oedd cyfraniadau 'SANKOMOTA' — y Grwp o gerddorion ieuainc o Lesotho. Dyna oedd 'estyn dwylo dros y môr' mewn gwirionedd. Ar ben hyn oll, y mae ysgolion eraill, Mudiadau Merched, awdurdodau Iechyd a Nyrsus, Ffermwyr Ieuenctid ac Eglwysi yn dechrau estyn eu dwylo hwythau tua Lesotho. Mewn llythyr diweddar gan Yr Esgob Philip Mokoku, Esgob Anglicanaidd y wlad, o'r brifddinas Maseru, at y Parch. Noel Davies, Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Cymru, gwelir bod croeso brwd i'r dwylo sy'n ymestyn dros y môr tuag atynt o Gymru. 'Mewn byd sy'n newid mor gyflym', meddai Cadeirydd Dolen Cymru ar ddiwrnod y lansio, 'y mae'r angen am adeiladu pontydd yn fwy nag erioed. Gallai pont Cymru- Lesotho ddangos beth all pontydd o'i math ei gyflawni' 'A'r gobaith yw y bydd gweldydd bychain eraill yn dilyn esiampl Cymru a Lesotho', meddai, 'rhywbeth na all gwledydd mawrion ei wneud oherwydd yr oblygiadau gwleidyddol'. Nid aeth o'n cof eiriau David Lloyd George yn argyfwng 1915: 'Mawr yw dyled y byd i genhedloedd bychain. Gwaith cenhedloedd bychain yw celfyddyd uchaf y byd. Cynnyrch cenhedloedd bychain yw Uenyddiaeth fwyaf anniflan y byd Cenhedloedd bychain a ddewiswyd gan Dduw yn gostrelau i gludo'i win pereiddiaf i wefusau dynoliaeth, i ddyrchafu eu gwelediad, i symbylu a nerthu eu ffydd'. Nid aeth o'n cof eiriau olaf T. Glyn Thomas, un o broffwydi mawr ein cenedl, i'r wlad a garai mor fawr: 'Cenedl fach Gweithiwr Eglwysig Gwirfoddol ymhlith Myfyrwyr Tramor O fis Medi 1985 ymlaen bydd Mr. Bernard Atherton yn gweithio ymhlith myfyrwyr tramor yng Nghymru yn ran amser a gwirfoddol. Fe fydd yn byw yng Nghaerfyrddin ond bydd yn teithio'n gyson i Abertawe a, gydag amser, yn ymweld â phrif ganolfanau eraill o gwmpas y wlad. Fe fydd ar gael am tua tri diwrnod yr wythnos a'i brif waith fydd hybu consyrn am fyfyrwyr tramor ymhlith eglwysi lleol. Y canlynol fydd blaenoriaethau ei waith:' (i) Datblygu ymwybyddiaeth o fyfyrwyr tramor mewn eglwysi lleol a grwpiau drwy annerch cyfarfodydd a thrwy gyflwyno myfyrwyr tramor unigol; (ii) Cynrychioli'r Eglwysi ar faterion yn ymwneud â myfyr- wyr tramor i gaplaniaethau ac adrannau eraill oddi fewn i sefydliadau addysgol; (iii) Trefnu achlysuron croeso, cyfarfodydd croeso mewn eglwysi a sicrhau gwahoddiadau i letya myfyrwyr; (iv) Cynghori myfyrwyr tramor unigol. ydym', gan ddyfynnu geiriau a welir ar Amgueddfa Stockholm, 'ond fe ddylem feddwl pethau mawr'. Ac nid aeth o'n cof eiriau Gwili un arall o'n henwogion: 'Ynysaeth Cymru fu ei malltod yn y gorffennol Y mae'r byd yn dod i Gymru. Y pwnc yw, a yw Cymru'n mynd i'r byd. Ni ellir derbyn heb gyfrannu. Wrth chwarae ei rhan ym mywyd y byd y mae i Gymru obaith am fywyd mwy'. Wedi cychwyn yn ffrwd o gopa Plunlumon mae'r Hafren yn dyfrhau dyffrynnoedd Ceredigion, dolydd Powys a maesdiroedd Lloegr, yna try'n ôl yn gyfoethocach i fendithio Cymru drachefn nes troi i gyfoethi Lloegr drachefn ac arllwys i'r môr mawr. Aeth ffrwd y Dr. Iwan eisoes yn ffrydiau a chyn delo canmlwyddiant proffwydoliaeth Emrys ap Iwan am Gymru yn 1990 aed y ffrydiau yn afon a boed i honno beth o rin 'afon dwfr y bywyd' a welodd Ioan yn ei ddinas sanctaidd 'ynghanol ei heol hi', ac ar ei dwy lan dyged pren y bywyd ddeuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis a dail y pren er iachâd y cenhedloedd'. YMDDIRIEDOLAETH, Rhif 616493 Etholwyd y canlynol: Llywydd Y Gwir Barchedig Dr. G. O. Williams, Cyn-Archesgob Cymru. Cadeirydd y Pwyllgor — y Dr. Carl Iwan Clowes. Ymgynghorydd y Pwyllgor y Dr. Glyn O. Phülips. Is-Lywyddion — y Dr. Gwynfor Evans, Yr Arglwydd Cledwyn, Yr Arglwydd Hooson, Syr David Gibson Watt a Tom Ellis. Ysgrifenyddion: T. E. Paul Williams, I 1 Min Menai, Bangor LL57 2LB (Ffôn: Bangor 352188). Geraint Thomas, Y Ganolfan Ryngwladol, 105 Box Lane, Wrecsam LL12 7RB (Ffôn: Wrecsam 353355). Trysorydd: Miss Beryl Jones, 18 Stabler Crescent, Pentre'r Gerddi, Wrecsam, Clwyd LL11 2TL. Aelodau o'r Pwyllgor: Dr. Dafydd Alun Jones, Yr Esgob Graham Chadwick, Dr. Oiive Frost, Mrs. Ifanwy Williams, Owain Aneurin Owain, Y Cynghorydd Glyn P. James, Y Parchedig Dewi Lloyd Lewis, Y Foneddiges Margaret Miles, Dr. D. G. Arnott, Meurig Parri, Maldwyn Thomas, John Bond, E. H. Griffiths. Sefydlwyd ymddiriedolaeth gyfreithiol a rhif cofrestedig yr Elusen yw 616 493. Bu Mr. Atherton hyd yn ddiweddar yn gwasanaethu ym mhencadlys Cymorth Cristnogol yn Llundain ac y mae gand- do gryn brofiad addysgol a thramor. Y mae Comisiwn yr Eglwysi ar Fyfyrwyr Tramor eisoes yn ei adnabod yn dda. Y mae'r Comisiwn, sy'n asiantaeth ecwmenaidd genedlaethol er mwyn trefnu consyrn yr Eglwysi ym Mhrydain, yn croesawu ac yn cydnabod yr apwyntiad yma. Fe fydd cyswllt personol yn cael ei barhau a bydd y Comisiwn yn rhoi pob help addas yn nhermau cefnogaeth swyddogol, gwybodaeth, hyfford- diant a chyngor. Cydnabyddir a chefnogir gwaith Mr. Ather- ton yn swyddogol gan Gyngor Eglwysi Cymru fydd hefyd yn talu ei gostau teithio. Y mae yr Eglwysi sy'n aelodau o'r Cyngor yn cael eu gwahodd i wneud cyfraniad blynyddol tuag at y gwaith yma drwy'r Cyngor. Ni ellir datblygu'r cynllun hwn heb y fath gymorth. Gellir cysylltu â Mr. Atherton, o Fedi 1985 ymlaen yn 'Preswylfa', y Felin Wen, Caerfyrddin SA32 7EN neu yng Nghyngor Eglwysi Cymru, 21 Heol Sant Helen, Abertawe SAl 4AP.