Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ystod haf 1985 fe'n hatgoffwyd droeon o'r ffaith bod 40 mlynedd wedi mynd heibio ers diwedd y rhyfel. Ond 40 mlynedd yn ôl hefyd, ar Fehefin 26ed, 1945, y ganed y Cenhedloedd Unedig. Ganed o'r rhyfel er mwyn rhoi terfyn ar ryfel am byth. Yn yr erthygl hon y mae swyddog rhanbarth CyrrHeithas y Cenhedloedd Unedig ym Mhrydain yn dadlau'r achos dros barhau i gymeryd gwaith y Cenhedloedd Unedig o ddifrif. O BLAID Y CENHEDLOEDD UNEDIG Myriel Davies Mae pobl ymhobman yn dyheu am heddwch. Does neb yn dymuno cael eu ladd na'u brifo mewn rhyfel a 'does neb yn dymuno cael eu gwneud yn ffoadur- iaid na bod yn ddigartref. Ond nid yw'r dyheu yn ddigon ynddo'i hun. Rhyw- beth i'w ennill ar lefel bersonol, gymun- edol, genedlaethol a rhyng-gened- laethol ydyw. Gwyddom fod Duw am ni weithio dros heddwch-y mae'r adnod o'r bregeth ar y Mynydd yn ei fynegi'n glir "Gwyn eu byd y tang- nefeddwyr" efallai'n gliriach yn Saesneg y rhai sy'n gwneud heddwch. 'Dyw hi ddim yn ddigon brotestio yn erbyn erchyllterau arfau niwcliar- gwerir mwy na E400,000 miliwn y flwyddyn ar arfau ac mae'r swm yn cynyddu' bob blwyddyn. Heddiw y mae maint ac arswyd rhyfel modern yn ei wneud yn gwbl annerbyniol fel dull o ddatrys gwahaniaethau rhwng cenhedloedd. Y mae rhyfel yn sen ar ein Creawdwr ac yn waradwydd natur y ddynoliaeth a grewyd "ar ddelw Duw". Yn y deugain mlynedd ers sefydlu siarter y Cenhedloedd Unedig mae'r byd wedi newid gyflymdra arswydus. Daeth yr oes niwcliar a bygwth difodiant y byd. Treblwyd nifer y cenhedloedd annibynnol yn y Cenhed- loedd Unedig. Heddiw mae 159 o gen- hedloedd yn cael eu cynrychioli (51 oedd ar y dechrau); mae poblogaeth y byd wedi mwy na dyblu ac mae'r economi fyd-eang wedo tyfu ar raddfa gynt nag erioed o'r blaen. Anodd credu ffigurau am dlodi mewn byd sy'n gallu rhoi dynion ar y lleuad, cynllunio laser milwrol yn y gofod a neilltuo'r fath filiynau ar gyfel gwariant milwrol. Mae 800 miliwn o bobl yn treulio'u holl fywydau mewn tlodi truenus. Erbyn 1990 (ar dueddiadau presennol) bydd 70% o bobl-Sub- Sahara yn Africa yn dioddef oddiwrth ddiffyg bwyd. Nid oes gan fwyafrif poblogaeth y byd ddim modd cyrraedd at ddwr glan. Y mae hanner poblogaeth oedolion y. byd yn anllythrennog. Y mae llygredigaeth, dirywiad a distrywio'r amgylchedd yn parhau'n ddirwystr mewn Ilawer rhan o'r byd. Yn ystod y cyfnod hwn bu'r Cenhed- loedd Unedig yn gweithio ar bob lefel; bu'n delio â bygythiadau i heddwch; bu'n delio â phroblemau dynol fel newyn, afiechyd aC anlythrennedd. Gwneir y gwaith trwy asiantiaethau arbenigol y C.U. ac erbyn hyn y mae'n rhan dderbyniol o'r ymdrechion ennill gwell safon byw trwy'r byd. Ond dylid cofio hefyd bod y C.U. wedi symud y ddynoliaeth ymlaen wrth osod safonau trwy'r byd. Er engraifft bwriad y siarter yw dwyn cenhedloedd ynghyd i ddatrys dad- leuon o gwmpas y bwrdd cynadledda. Y mae'r datganiad ar Hawliau Dynol wedi gosod y safon bob unigolyn ar gyfer bywyd gweddus; daeth y datganiad ar yr amgylchfyd dynol â sylw'r byd gyflwr bregus ein planed a'r ffaith bod yn rhaid i ni ofalu amdano. Y mae'r Datganiad ar hawliau'r plentyn yn fynegiant hardd o sut y dylwn ofalu am blant drwy'r byd. Onid yw hyn wedi'r cyfan yn rhan o'n hathrawiaeth Gristnogol? Os goswyd y safonau hyn, beth sy' wedi mynd o chwith? Pam mae'r byd mewn cyflwr mor ddigalon? Ydi'r Cenhedloedd Unedig wedi methu neu a yw'r cenhedloedd wedi mynd eu ffyrdd eu hunain gan ddilyn eu buddiannau eu hunain ac ar waethaf derbyn y safonau aruchel mewn egwyddor yn ofni eu gweithredu? 'Rwy i'n credu ein bod wedi cyrraedd man lle y gall barn gyhoeddus drwy'r byd ddwyn pwysau allweddol i ddatrys problemau rhyngwladol. Mae'n hen bryd sylweddoli fod gan bobloedd yn ogystal a llywodraethau 'awer i'w ennill trwy fod y Cenhedloedd Unedig yn effeithiol. Wedi'r cyfan fe'i lluniwyd ac fe'i bwriadwyd yn wreiddiol i fod yn ffordd wahanol yn lle rhyfel ac anarchiaeth rhyngwladol. Petai hynny'n dod yn amlwg byddai ymgais fwy pwrpasol at ddatrys y problemau rhyngwladol yn siwr o ddilyn. Fel Cristnogion gwelwn Dduw yn gweithio ym mywyd y byd a'i sefyd- liadau. A yw'n bosibl i'r Cenhedloedd Unedig, sydd yn unig â'r gallu yn y pen draw gyffroi adnoddau anferth gallu a chyfalaf dynol gwrdd â'n sefyllfa, fod yn rhan o'i gynllun Ef ar gyfer Ei greadigaeth? Rhoi dy fywyd Dros heddwch? Wyt ti'n wallgo? Fe gei di dyladd! O Amenca gan STEIN Awyr lach Gallwn fod yn berffaith sicr bod dallineb nodweddiadol yr ugeinfed ganrif y dallineb y bydd ein dis- gynyddion yn dweud amdano "sut y gallan'nhw fod wedi credu hynny?" yn gorwedd mewn man na fyddem ni byth wedi tybied. Ni all yr un ohonom osgoi'r dall- ineb hwn yn llwyr, ond byddwn yn siwr o'i gynyddu a gwanhau'n ham- ddiffyn yn ei erbyn os ddarllenwn ni ddim ond llyfrau modern. Lie f^e 'nhw'n wir fe roddant i ni winon- eddau yr oeddem eisoes yn hanner eu gwybod. A lle bont yn ffug byddant yn gwaethygu'r camsyn- iadau hynny yr ydym eisoes yn beryglus glaf ohonynt. Yr unig feddygyniaeth yw cadw awyr lan y môr o'r canrifoedd yn chwythu trwy'n meddyliau a gellir gwneud hyn yn unig trwy ddarllen hen lyfrau. Nid bod unrhyw swyn- gyfaredd am y gorffennol. 'Doedd pobl ddim clyfrach nag ydyn 'nhw nawr. Fe wnaethon'nhw Ilawn gymaint o gamsyniadau â ni. Ond nid yr un camsyniadau. Fyddan'nhw ddim yn ein seboni ni yn y camsyn- iadau yr ydyn ni eisoes yn eu gwneud, a chan fod eu camsyniadau hwy yn agored ac amlwg, fyddan 'nhw ddim yn beryglus ni. Dyfyniad o C. S. Lewis mewn rhagymad- rodd i gyfres newydd o'r "Clasuron Crist- nogol" a gyhoeddir mewn clawr papur gan Hodders am £ 1.50.