Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dilyn Llwybrau Percrinion y "Mayflowcr" Awst 1985 Ystyriaf hi'n fraint fy mod wedi cael bod yn bresennol yng Nghynhadledd Annibynwyr y Byd yn Beverley ger Boston ym mis Awst yr haf yma. Cynhadledd rhyngwladol yn cynnwys 343 o aelodau o dair gwlad ar hugain oedd hon ond yr oedd 304 ohonom yn dod o dair gwlad yn unig, sef yr Unol Daleithiau, Cymru a Lloegr. Yn wir ar ran cyfartaledd ein poblogaeth yr oedd yno fwy o Gymru nag o unrhyw wlad arall. Mae .ysbryd rhamantus y Cymro ac awch ei flas am "drip" mor gryf ag erioed! Dim ond 21 oedd yn bresennol o'r hen feysydd cenhadol, megis Samoa, Nigeria, Angola, Brasil, Guyana, Honduras, Hong Kong, India, Korea, Mecsico, Ynys Nauru, Ynys Tuvalu, Ynysoedd y Philippines a Taiwan. Dyna rhan helaeth o'r byd heb gynrychiolydd o gwbl felly. Rhyw un neu ddau a ddeuai o'r gwledydd pellennig a nodwyd, oherwydd y gost mae'n sicr. Ond trist oedd gweld dim ond un o Affrica gyfan ar ôl yr holl genhadu yno. Gobeithio bod y Ileiafrif bach o'r Trydydd Byd wedi cael bendith yn y Gynhadledd, a heb deimlo'n unig o dibwys ymhlith gymaint o bobl prysur o'r hil Ewropeaidd. Wrth edrych arnynt yn ceisio ymuno mor llon ag a gallent gyda'r dorf, gwyddwn yn iawn am deimladau cudd Cristionogion tramor pan yn ceisio cyfathrachu â phobl wynion, cyfoe:hog yn eu tŷb hwy. Hyderaf na sigwyd teimladau calon ambell i unigolyn distadl mai rhyw "Iesu'r dyn gwyn" oedd gwrthrych canolog y Gynhadledd hon. Prin oedd yr amser i feithrin yr ymdeimlad fod yr lesu'n wir frodorol yn enaid pob gwlad. Cynhaliwyd y Gynhadledd yn adeiladau Coleg Endicott, rhyw bum milltir ar hugain o Boston mangre hynod o dlws ar tan y môr ynghanol coedwigoedd a Ilynnoedd. Cofiaf yn bennaf 011 o blith y siaradwyr, Dr. Manfred KohI o'r Almaen, Cadeirydd dewisiedig yr Undeb am y pedair blynedd nesaf. Siaradodd yn ddifrifol a theimladwy gan ein cyhuddo o gynnig "ceiniogau copr" i'r anghenus wrth y porth yn lle'i godi ar ei draed yn enw'r Iesu, fel gwir apostolion yr Arglwydd. Mawr hefyd oedd ein braint o wrando ar seren ddisglair Cymru yn y Gynhadledd sef Dr. Dafydd ap Thomos, yn arwain yr astudiaethau Beiblaidd. Uchafbwynt yr addoli oedd efallai y gwasanaeth cymun a gynhaliwyd yn bwrpasol i ni ar brynhawn Sadwrn yng nghapel enwog Park Street yn Boston, gan Dilys Quick, Abertawe gyda'r pulpud ychwanegol oddi allan ar y llawr uchaf yn gwylio Stryd Park a Stryd Tremont. Adeiladwyd y capel presennol yn 1809 a dyma mae'n sicr un o gapelau harddaf y rhanbarth yma o'r Amerig. Y mae iddo hanes mor bwysig fel y mae yn cael ei nodi yn Ilyfryn y dre, "Boston's Panorama". Pregethwyd yma yn erbyn caethwasiaeth yn 1829 hyd yn oed, ac yn y capel yma y canwyd y gân "America" am y tro cyntaf yn 1831. Oddiyma yr aeth cenhadon cyntaf yr Amerig i ynysoedd y Môr Tawel yn yr hanner cyntaf o'r ganrif diwethaf. Hyd yn oed heddiw, gosodir un rhan o dair o dderbyniadau helaeth y capel o'r neilltu i gynnal gwaith cenhadol tramor. Pwysleisiwyd ffydd syml y pererinion cynnar yn ei bregeth deimladwy gan Dr. Dienster, gweinidog o Florida. Gweinyddwyd y cymun yn urddasol a phruddaidd a phwysleisiwyd yr "oni ddelo" wedyn ni bydd angen cofio fel hyn. Buom yn ymweld â llawer o fannau hanesyddol eraill heblaw Boston, yn bennaf oll Salem a Plymouth. Yr hyn a'm tarawodd i oedd cysylltiad crefydd ynghlyn â hanes y wlad. Pwysleisiwyd hyn drosodd a throsodd: hunan aberth pererinion syml yn ymateb i ofynion cydwybod oedd y stori bob tro. Yn Plymouth buom ar fwrdd y copi o'r llong enwog y "Mayflower", a gwelsom y darn graig lle troediodd y pererinion blinedig dir America ar Rhagfyr 2lain 1620. Disgyn ar eu gliniau mewn diolch i Dduw oedd eu gweithred cyntaf yn y Byd Newydd. Daeth 102 i'r tan ond yr oedd hanner ohonynt wedi marw erbyn Ebrill ar ôl eira trwm y gaeaf. Yma yn Plymouth hefyd gwelir cerflun mawreddog y Cyn-Deidiau yn 81 0 droedfeddi o uchder. Pererin o ferch yn cynrychioli "Ffydd" sydd ar gopa'r golofn ganolog, ei throed chwith ar ddarn o graig Plymouth, y Beibl agored yn ei llaw chwith a'i llaw dde yn pwyntio i'r Nefoedd. Ymhlith llawer o gerfluniau eraill ar y gofadail mae Moesoldeb yn dwyn sgrôl y Deg Gorchymyn mewn un llaw a sgrôl y Datguddiad yn y llaw arall, ac Addysg, Trugaredd, Cyfiawnder, Rhyddid, y Ddeddf Heddwch yn cael eu lle hefyd. Rhyw dair milltir o Ian y môr yn Plymouth ceir copi o'r pentref cyntaf a sefydlwyd gan y pererinion ar ochr fryncyn yn 1627. Profiad hynod o ddiddorol oedd ymweld â hwn. 'Roedd yno frodorion ffug wedi eu gwisgo yn nillad yr hen oes, yn siarad iaith ac acen yr hen oes ac yn cyflawni eu gwaith yn y ty ac yn y gerddi yn ôl yr hen ddulliau. 'Roedd croeso i chwi sgwrsio â hwy ond i chwi gofio nad oeddynt wedi clywed sôn erioed am ryfeddodau a phroblemau'r oes hon. Beth yw'r argraffiadau sy'n aros? Y mae pwysigrwydd crefydd a hanes crefydd yn y gymdeithas yn amlwg hyd y dydd heddiw. Yn ail, sirioldeb ac amynedd y dyn cyffredin wrth ei waith yn y meysydd glanio, yn y siopau, ar y buses ac yn y blaen. Pobl amyneddgar a chymwynasgar oedd yr Americanwyr y cwrddais i â nhw. Tybed a ydyw'r ail agwedd yn dilyn o'r cyntaf? Ie, da oedd gen i fod yno. Megis y dywed y gân a ganwyd gyntaf 011 yng nghapel Park Street "Bendithied Duw America".