Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CASdJAID 1EIS Braint rawr 1 mi oedd cael ymweld â chyn faes cenhadol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn Mizoram, Gogledd Ddwyrain India, diwedd mis Mawrth eleni. Cefais y cyfle i gyd-deithio â Miss Gwen Rees Roberts, Y Bala, a fu'n gweithio yn Aizawl am tua pum mlynedd ar hugain fel prifathrawes ysgol y genethod. Prif reswm dros ein ymweliad â'r ardal yma oedd ein bod wedi derbyn gwahoddiad oddiwrth adran y chwiorydd o'r Eglwys Bresbyteraidd yn Mizoram i rannu yn eu cenhadledd i ddathlu eu Jiwbili Arian. Tra yn y wlad cawsom gyfle i gyfarfod â rhai o'r bobl yn eu cartrefi, wrìrreu'gwaith ac wrth gwrs yn eu heglwysi. Cyn cychwyn am y wlad roeddwn wedi clywed llawer am y gwaith mawr a wnaethpwyd gan y cenhadon, ddechrau'r ganrif ac ymlaen, i geisio sefydlu'r eglwys yn y wlad. Roeddwn wedi cael cyfle i gyfarfod a nabod rhai o'r cenhadon ac wedi clywed am eu profiadau hwythau. Roeddwn wedi cael cyfle i gyfarfod a bod yng nghwmni aelodau o Gôr y Newyddion Da, a fu ar daith yng Nghymru yn ystod Mai 1984, i ddiolch am gael derbyn y Newyddion Da am Iesu Grist drwy'r cenhadon o Gymru, ac i bregethu yr Efengyl tra yn ein gwlad. Er y paratoi mewn gwybodaeth am y wlad fe'm syfrdanwyd gan y croeso dderbyniasom gan unigolion, gan bwyllgorau a chan eglwysi. Roedd bod mewn oedfaon yn ystod ambell i brynhawn neu gyda'r nos a gweld pob sêt yn llawn, meinciau yn cael eu gosod ym mhob twll a chornel a phobl yn sefyll y tu allan yn edrych i mewn drwy'r ffenestri ac yn gwrando ar bob gair oedd yn cael ei lefaru, yn rhywbeth oedd yn rhaid i mi ddysgu dygymod ag o tra yn y wlad, 'roedd yn dipyn o newid o fod mewn eglwys yng Nghymru. Roedd bod yn un o dros ddeng mil o chwiorydd a rhai dynion, yn yr oedfa gymun brynhawn Sul olaf y gynhadledd, yn brofiad na allaf byth ei anghofio. Roeddym, er yn wahanol o ran lliw ein croen, o ran iaith a chefndir yn un wrth Fwrdd yr Arglwydd. Un yng Nghrist yr hwn roddodd ei fywyd er mwyn i ni gael byw. Wedi cael y profiadau yma, a llawer profiad arall byth gofiadwy yng nghwmni ein brodur a chwiorydd yn Mizoram, rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys beth sydd wedi digwydd i'r Fam Eglwys yma yng Nghymru? Yr Eglwys welodd yr angen i anfon a chynnal cenhadon yn yr India ddechrau'r ganrif hon. Yr eglwys sydd heddiw yn mynd yn llai ag yn llai o ran rhifau gyda llawer o gapeli'n cau ac yn ei chael yn anodd cadw drysau'n agored. welodd Menna Green ym Mizoram Tybed nad oes gennym lawer i ddysgu oddiwrth ein brodyr a'n chwiorydd yn yr India sy'n byw i'r eglwys ac yn rhoi o'u gorau i bob rhan o waith yr eglwys. Casgliad reis Cyn mynd i Mizoram roeddwn wedi clywed am y Casgliad Reis. Casgliad arbennig yw hwn sy'n ffordd arbennig o gyflwyno arian at waith yr eglwys. Pob bore a'r hwyr pan mae'r fam yn paratoi pryd o fwyd i'r teulu mae'n mesur allan digon o reis ar gyfer y pryd i'r teulu. Allan o'r hyn sy'n anghenrheidiol i'r teulu at y pryd bwyd mae'r fam, neu'r pen teulu'n cymeryd allan ddyrnaid o reis a'i roi ar un ochr mewn potyn arbennig. Diwedd bob wythnos bydd y reis hwnnw yn cael eu bwyso a'i werthu a'r arian a dderbynnir amdano yn mynd tuag at waith yr eglwys. Maent yn cyfrannu alìan o'r hyn oedd yn anghenrheidiol i'r teulu nid allan o'r hyn oedd yn weddill. Sut yda ni'n cyfrannu tuag at waith yr eglwys? Yda ni'n degymu ein arian a'n cynnyrch? cyfrannu o'r hyn sy'n anghenrheidiol i ni neu o'r hyn sy'n weddill? ac os nad oes gweddill yna yr eglwys sydd yn gorfod bod heb ddim. Wrth feddwl am yr eglwys yn Mizoram a'r eglwys yng Nghymru ni allaf ddim llai na meddwl ein bod ni, yma yng Nghymru wedi colli'r ffordd yn arw. Beth sydd wedi digwydd i'r eglwys oedd yn gweld yr angen yn yr India ac yn barod i anfon a chefnogi gwaith cenhadon hanner can mlynedd :ti ôl? Erbyn heddiw mae'r eglwys yn ur India yn anfon cenhadon allan at eu bobl eu hunain yn eu cyfandir eu hunain. Tybed a fydd Duw yn arwain yr eglwys yn Mizoram i anfon ac i gynnal cenhadon yma yng Nghymru cyn bo hir! Sawl aelod newydd? Pan yn siarad ag aelodau o Gôr y Newyddion Da yn Aizawl cefais gwestiwn ganddynt a wnaeth i mi deimlo'n annifyr iawn ac yn llawn cywilydd dros yr Eglwys yma yng Nghymru. Gofynnwyd i mi sawl aelod newydd oeddym wedi ei weld yn yr eglwysi yng Nghymru mewn canlyniad i'w hymweliad fel côr. Wrth imi ateb, drwy ddweud nad oeddwn wedi clywed am ddim newydd ddyfodiaid, roeddynt i gyd yn edrych yn drist ac yn holi'n arw. Pam? Roeddynt, tra yng Nghymru a Lloegr, wedi derbyn bendithion mawr ac wedi disgwyl y buasai ein heglwysi ni wedi elwa yn yr un modd oddiwrth eu hymweliad. Cyn dod i Gymru roedd aelodau'r Côr wedi bod yn