Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

paratoi, drwy gynnal cyfarfodydd gweddi, astudiaethau beiblaidd, ymprydio ac ymarferion canu i'r côr, am dros flwyddyn. Sut wnaethom ni baratoi ar gyfer eu ymweliad? Sawl cyfarfod gweddi, sawl astudiaeth feiblaidd a gynhaliwyd, a sawl tro bu i ni ymprydio mewn paratoad at eu ymweliad? Tybed nad yw hyn yn dangos i ni'n glir mai dyma ein man gwan yn yr eglwys? Wrth feddwl am genhadu, os am wneud y gwaith ein hunain, yn lleol, neu wrth gefnogi gwaith pobl arbennig sy'n dod i mewn i weithio dros yr efengyl, ydani'n paratoi fel ag y dylem wneud? Rhaid i ni ddysgu rhoi llawer iawn mwy o amser i weddi ac astudiaeth feiblaidd yn ein heglwysi os ydym am fod yn llwyddiannus yn ein cenhadaeth. Cefais wybod, tra yn Aizawl, fod yr Eglwys Bresbyteraidd yn Mizoram yn cynnal tri chant pedwar deg a saith o genhadon sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o gyfandir yr India. Yn eu mysg un dyn ifanc oedd yn aelod o Gôr y Newyddion Da. Mae cynnal y gweithwyr yma yn rhan hanfodol o waith yr eglwys ac yn golygu fod 44% o'r arian a dderbynnir gan y Synod yn mynd tuag at waith cenhadol. Er fod cyflogau'n isel mewn cymhariaeth â'n gwlad ni mae cyfraniadau yn codi o flwyddyn i flwyddyn a phobl yn gwneud aberth er mwyn cyfrannu at waith yr eglwys. Clywais hanes o un ardal lie 'roedd llawer o dlodi ac oherwydd hyn y bobl heb fawr o arian i gyfrannu i'r eglwys. Er mwyn bod yn siwr o allu cyfrannu roeddynt yn mynd heb frecwast ar y Sul ac yn gwerthu yr hyn y buasent wedi ei fwyta er mwyn rhoi'r arian tuag at yr eglwys. Pysgotwr tlawd oedd heb gael helfa dda am nifer o ddyddiau yn llwyddo o'r diwedd ac yn rhoi'r degfed rhan o'r hyn oedd wedi ei dda'i i'w werthu a'r arian a dderbyniodd yn mynd i'r eglwys. "'Owi wedi cael llond fy mol ar y gwasan- aethau dwy-ieithog 'ma!" "Os bu Cristion erioed meddir yn awchus wrth ganmol rhywun. Dyma John Alun Roberts yn cofio MOSES ROBERTS, LLANDUDNO Yr oedd rhyw fawredd a chadernid o'i gwmpas. Dwylo mawr yn dwyn marciau caledwaith mewn ffermydd, rhyfel, chwarel a gwaith ar Gyngor tref Llandudno. Llais mawr grymus, ychydig nam ar ei leferydd ar hyd ei oes faith, ond fel John Elias o'i flaen, gallai ddefnyddio hwn i bwrpas cyhoeddi yr Anchwiliadwy Olud. Pregeth- odd am bum deg saith o flynyddoedd. Gwrthododd gymhelliad taer ei weinidog, Charles Jones, i ddechreu pregethu, oherwydd y nam ar ei barabl, ond mynnai D. Tecwyn Evans nad oedd hynny yn rheswm o gwbl, gan ddweud yn bendant wrtho, fod Moses arall hefo nam tebyg, ond fod hwnnw wedi arwain plant Israel allan o wlad yr Aifft. "A phwy a vvyr" meddai, "na fydd Moses yma yn cyflawni pethau mawr dros ei Arglwydd." Pwy allai wrthod wedi'r fath gymhelliad? Mor hawdd oedd gwrando arno'n pre- gethu, a'r bobl yn gwybod fod calon fawr a lanwyd â grâs Duw yn eu cymell i dderbyn Iesu yn Arglwydd a Gwaredwr iddynt. Fel y ddau ar y ffordd i Emaus gynt, byddai calonnau pobl "yn cynhesu yn rhyfedd pan y byddai yn ymddiddan â hwy ac yn agoryd iddynt yr ysgrythyrau". Ni wn am yr un pregethwr y byddai mwy o sôn am oedfa o'i eiddo ar y Sul, mewn seiat noson waith yr wythnos ddilynol. Cefais gyfle i ddarllen dyddiadur a gadwyd am dros hanner can mlynedd gan un a brofodd brofedigaethau mawr, ond mae'n amlwg fod nerth a chyfoeth mawr wedi dod i'w brofiad o dan weinidogaeth Moses Roberts. Wrth wrando arno yn ymddiddan â'i Arglwydd mewn cyfarfod gweddi ganol wythnos, a hynny ugeiniau o weithiau, hawdd oedd gwybod mai gwr "yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf" oedd yn ein harwain at Orsedd Grâs. Yr oedd mor hyddysg yn ei Lyfr Emynau â'i Feibl, dyfynnai ar weddi, emyn ar ôl emyn o weddi a mawl i'r Arglwydd, ac ambell un yn ddiarwybod yn uno yn y weddi a'r cydad- rodd. Cwynai ambell un ar adegau ei fod yn gweddio yn rhy faith, ond i wr fel Moses Roberts oedd yn cydio mor dynn yn rheffynnau yr addewidion, yr oedd yn anodd iddo eu gollwng ar frys. Byddai gwlith ar ambell seiat yn ei gartref, yn enwedig pan soniai am ei gyfaill mawr, William Llewelyn Lloyd. Daeth i'w adnabod yn gynnar, pan ddeuai'r pregethwr i aros i Bant y Mêl Mawr, yn agos i'w gartref. Soniai gyda balchder iddo fod yn flaenor answyddogol iddo yn ystod ei arhosiad ym Mharc Cinmel, adeg y Rhyfel Byd cyntaf, gan gymell cyd-filwyr i oedfaon, seiadau a chyfarfodydd gweddi. Tystiai yn llawn i'r diwedd, iddo weld llawer yn derbyn Iesu yn Waredwr yn y gwasanaethau hynny. Y fath gymwynaswr, haelionus ei galon, yn ffrind cywir plant a phobl ifanc, ac yn cefnogi pob ymdrech o'i heiddo fyddai er llês eraill. Yn Gymro mawr, yn amharod i gefnogi gormod ar wasanaethau Saesneg mewn capeli Cymraeg, am y credai yn onest y gallai hynny danseilio rhai pethau fu'n rhan o'n hetifeddiaeth ers cenedlaethau. Prawf o'i sêl dros y "pethau" oedd ei ddewis yn llywydd Cymdeithas Cym- rodorion y dref dair gwaith yn ystod ei oes; bu hefyd yn llywydd Cyngor Eglwysi Cymraeg y dref deirgwaith. Yn wr o ddiwylliant mawr, bu'n gohebu i'r Faner, Yr Herald Gymraeg, Y Gwyliedydd a Seren y Bala am flynyddoedd. Nid oedd pall ar ei frwdfrydedd a'i gymwynasgarwch; bu'n ymwelydd cyson ag ysbytai ar hyd y blynyddoedd a'i bocedau yn llawn o roddion i'r cleifion. Ni roddwyd iddo oludoedd byd, ond yn sicr, breintiwyd yn helaeth â Goludoedd Gras. Yn llawn hiwmor, yn chwerthwr heintus, ond yn sicr yn was Duw ac yn wasanaethwr pobl. Bu farw 21 Awst eleni yn 92 oed. "Os y bu Cristion erioed, dyma fo", Moses Roberts, Pant y Mêl, Llandudno. Ganwyd yn Glan Llyn, Cefn Brith, Cerrig y Drudion, ardal Uwchaled, Ebrill 28 1893, gan ymffrostio yn gynnil ar adegau, ei fod o'r un gwaed â Jac Glan y Gors, a anwyd nepell o'i gartref. Er byw y rhan helaethaf ei oes yn ardal Llandudno, ni bu iddo adael yn llwyr fro Uwchaled, yr oedd dylanwadau bore oes wedi gwreiddio yn ddwfn yn ei natur a'i gymeriad, fel nad oedd bosib i ddim lychwino y pethau a gyfrifai ef yn werthfawr. Yn ddadleuwr cadarn, di- gymrodedd bron ar adegau, os y teimlai fod rhai canllawiau oedd wedi gwarchod pethau gorau ei grefydd a'i genedl yn cael eu bygwth. Yr oedd ei dad, Robert Roberts, Pant y Mêl bach, yn un o ferthyron y degwm. Hawdd credu, pe byddai wedi byw mewn cyfnod o erledigaeth ar yr Eglwys, mai merthyr fyddai Moses Roberts hefyd. Ni fyddai "ofn gŵr" byth yn dwyn magi iddo fo. Yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf, ac yntau yn filwr, mynnai rhyw swyddog yn y fyddin ei rwystro i anfon llythyrau Cymraeg i'w dad, gan fod yn rhaid iddo anfon rhai Saesneg. "If I writein English" meddai, "it won't be me speaking to my father". "They must be in English" meddai'r swyddog. "I will tell my MP", meddai Moses Roberts. "Who is your MP?" meddai'r swyddog. "Lloyd George" meddai yntau, a dyna ddiwedd ar yr helynt. Ymfalchiai i'r diwedd iddo orchfygu rhyw gyrnol hunanbwysig.