Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAIS Y PROFFWYD TRANC NIWCLEAR E. R. Lloyd Jones Gan fod gofod helaeth wedi ei roi i'r 'Ddadl Niwcliar' yn rhifyn Mai/Mehefin 1984 o Cristion, y peth cyntaf i'w wneud yw cyfiawnhau ysgrifennu ar y 'Tranc Niwcliar'. Fel rhan o Astudiaeth Feiblaidd seiliedig ar Lyfr Joel y cyflwynais y sylwadau ar y 'Tranc Niwcliar' mewn Encil Gweinidogion, felly fe'm gorfodwyd gan fy .nhestun i roi ystyriaeth i'r broblem. Egyr y proffwyd yr adran 2: 1-11 gyda dyfodiad ac agosrwydd Dydd yr Arglwydd. Mae'n werth sylwi ar rai o'r ymadroddion sy'n disgrifio'r dydd, "diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog" (adn.2) "o'u blaen y difa y tân y wlad o flaen y gelyn, "fel gardd baradwys" ac ar eu hôl, "yn ddiffeithwch anrheithiedig" (adn.3), "o'u blaen y cryn y ddaear", "a'r ddaear a gynhyrfir" (adn.10). Yna fe ddeuwn yn ôl at y tywyllwch "yr haul a'r lleuad a dywyllir a'r sêr a ataliant eu llewyrch" (adn.10). Ceir darlun tebyg gan Jeremeia lle'r edrycha ar y ddaear, "ac wele afluniaidd a gwâg ydoedd", yna'n edrych ar y mynyddoedd a'r bryniau, "ac wele yr oeddynt yn crynu ymysgydwent." Wrth edrych ymhellach, "wele y doldir yn anialwch, a'r holl ddinasoedd a ddistrywiasid Fel Joel, rhydd Jeremeia, trwy'r darlun tywyll hwn yn y bedwaredd bennod, ddehongliad ysbrydol o'r sefyllfa," fel hyn y dywed yr Arglwydd Rhydd Eseia yntau ddarlun cyffelyb ym mhennod 54, "y mynyddoedd a filiant a'r bryniau a symudant", ac ym mhennod 24, seiliau y ddaear sydd yn crynu, gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear Fe wyr y cyfarwydd bod gan Paul Tillich bregeth ar y geiriau hyn gan Eseia a Jeremeia yn ei gyfrol The Shaking of the Foundations, lie y sylwa bod y dyddiau pryd y gallem wrando ar y disgrifiadau yma heb lawer o deimlad na llawer o ddealltwriaeth wedi mynd heibio. Erbyn hyn daeth gweledigaethau'r proffwydi'n bosibiliadau gwirioneddol. Meddai, "I ni, nid delwedd farddonol yw'r ymadroddion 'gan ymddryllio yr ymddrylliodd y ddaear' eithr realiti caled. Dyna ystyr grefyddol yr oes y daethom iddi." Byddai'r hyn a ddywed Tillich am Jeremeia ac Eseia yn berthnasol i'r hyn a ddywed Joel yntau. Er pan welais ffilm Peter Watkins yn ôl yn y Chwedegau, nid wyf wedi cael dim anhawster i weld bod y darlun ynddi o'r 'storm o dân' yn cyfateb i gyfeiriad Joel at elynion Israel, "o'u blaen y difa y tân". Nid yw'r ffilmiau diweddaraf ynglŷn â'r holocaust niwcliar yn gwneud dim ond cadarnhau'r gyfatebiaeth hon. Mae'n arwyddocaol hefyd, o gofio'r cyfeiriad at dywyllwch, mai clawr plaen du sydd i lyfr Jonathan Schell The Fate of the Earth. Defnyddir y pennawd 'The Unforgettable Five' gan un o'r bobl a oedd yn dystion i'r dinistr yn Hiroshima a Nagazaki a sôn am fam a oedd yn hanner gwallgo yn chwilio am ei phlentyn nes o'r diwedd iddi ddod o hyd iddo. Dyma'r disgrifiad o'r plentyn," 'Roedd ei ben fel octopws wedi ei losgi." Pan edrychodd athro hanes yn ôl ar y ddinas wedi'r ffrwydrad, dywedodd, "Gwelais bod Hiroshima wedi diflannu". Mae'n wir mai bechan oedd y fom a ollyngwyd ar Hiroshima ac mai ymhlith yr arfau tactegol y byddid yn ei gosod heddiw, ond nid yw hynny'n amharu dim ar y dehongliad presennol o'r gair proffwydol. Yn wir nid yw'r datblygiad mewn arfau, os gellir galw'r peth yn ddatblygiad, yn gwneud dim ond dwysau'r gair hwn a'i wneud yn fwy perthnasol fyth. Beth yw'r gair proffwydol? Nid wyf yn meddwl bod angen cloriannu'r ddadl rhwng safbwyntiau diarfogi unochrog neu ddiarfogi amlochrog, nac ychwaith ystyried athrawiaeth y rhyfel cyfiawn, er penderfynu beth yw'r gair proffwydol. Mae dwy gyfrol The Church and the Bomb, a The Cross and the Bomb, gol. Francis Bridger yn gwneud hynny trosom. Cyhoeddiad o farn Duw arnom sydd yn y gair proffwydol. Dyma ddimensiwn crefyddol ein hargyfwng. Mae angen cysylltu un peth y soniodd Islwyn Ffowc Elis amdano yn 1955, sef bod bodolaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru fel enwad wedi bod, ymhlith pethau eraill, yn dystiolaeth i wirionedd Penarglwyddiaeth Duw. Yr anhawster i mi yw beth yw natur yr athrawiaeth hon yn wyneb y tranc niwcliar. A yw'n bosib inni fedru derbyn na bydd Duw'n caniatau dinistrio'r byd a greodd? Neu a oes raid inni dderbyn y posibilrwydd o ddinistr llwyr ac mai cysur gwrach yw dweud na chaniatau'r y dinistr gan Dduw? Fe fyddwn i'n gwrthod y dehongliad na bydd Duw'n caniatau'r dinistr mwy nag y gallwn dderbyn y posibilrwydd o ddinistr llwyr fel cyfiawnhad dibrotest o'r statws cwo niwcliar. Ffordd trais o ddwyn yr oes ddrwg bresennol i ben a fyddai hynny heb ddod â dim newydd na gwahanol i'r sefyllfa. gan Gareth Davies yn ^Buii'