Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nerys Evans o Fangor Fel Cristion ifanc, cefais fendith fawr o fynychu Wigwam '85 yn 'Parc', wythnos diwethaf. Hoffwn ddefnyddio'r cyfle yma i ddiolch yn fawr iawn i'r Parch. Emlyn Dôl a'i wraig Lowri, am ddyfalbarhau a gweithio mor galed i wneud Wigwam yn lwyddiant. Diolch yn fawr iawn hefyd i deulu Fferm Ty Du, heb yr holl gydweithrediad a'r caredigrwydd gawsom ganddynt, fe fyddai wedi bod yn anodd iawn cynnal yr Ŵyl. Teimlaf ei fod yn hen bryd i ni'r Cymry gynnal ein gwyl ein hunain ar gyfer Cymry ifanc, yn hytrach na gadael i'r Saeson wneud yr holl waith ac fel canlyniad i hynny, gymeryd ein cynulleidfa gyda nhw. Cafodd yr Ŵ'yl ei threfnu'n arbennig o dda, gyda rhywbeth at ddant pawb, heblaw am y glaw 'roedd popeth i'w weld yn berffaith. Cawsom seminarau da iawn gyda siaradwyr arbennig yn trafod problemau'r oes hon a beth dylai agwedd y Cristion fod tuag atynt, gyda thrafodaeth reit gyffrous yn y seminar Hawliau Merched! Yn ogystal â'r seminarau, gwelwyd nifer o fideos Cristnogol megis "The Hiding Place" stori o fywyd Corrie Ten Boon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, "The Cross and The Switchblade", a hefyd y ffilm "Jesus" sydd newydd ymddangos. Roedd yna feithrinfa gyda chyfleusterau da ar gyfer y plant ifanc a oedd yno ac roedd y plant i'w gweld yn mwynhau eu hünaih yn fawr. Y rhan o'r penwythnos wnes i fwynhau'n fawr oedd yr adloniant da a gawsom, mewn ffurf noson lawen a thwmpath dawns ar y noson gynta', a chyngerdd pop ar nôs Sadwrn, gyda nifer o grwpiau Cristnogol- braf oedd gweld pobl yn cael gwir fwynhad heb orfod dibynnu ar alcohol am eu pleser fel rwy'n gweld mewn gymaint o gyngherddau 'Rock' "traddodiadol" Gymreig ein cenhedlaeth. Teimlais bresenoldeb yr Ysbryd Glân yn gryf yn ystod yr Ŵyl a gweddiaf y bydd yr Ẁyl flynyddol hon yn help i adfywio ein gwlad "Grefyddol" ac i ennill llawer o Gymry at Grist yn y dyfodol. Gwenan Creunant Digon o fwd, canu, dawnsio, a thatws trwy'i crwyn wedi'u boddi mewn menyn. Dyna rai o'r pethau sy'n aros yn y côf wedi penwythnos Wigwam '85. Ond nid dyna'r cyfan chwaith. I'r rhai fu yno, cawsom drwy'r cwbl amser bendithiol o addoli Duw a chyfrannu o gymdeithas arbennig Cristnogion â'i gilydd. Ceisiaf ail-dwymo ychydig o'r wefr. Deilliodd y syniad o Wigwam wedi i griw ohonom ymweld â Greenbelt yn Awst y llynedd. Gẁyl Gristnogol ryngwladol yw Greenbelt, wedi cael ei chynnal, dros Ŵyl y Banc ers deuddeg mlynedd bellach, ac yn dal i fynd o nerth i nerth. Dechreuodd y cyfan ar raddfa fechan iawn mae'n debyg; rhyw 900 o wersyilwyr oedd yno'r tro cyntaf, ond erbyn llynedd, 'roedd rhyw ddeugain mil wedi ymweld a'r wyt yn Castle Ashby ger Northampton. Yn ystod y penwythnos, cynhelir seminarau amrywiol yn trafod pynciau cyfoes o safbwynt y Cristion, gweithdai drama a dawns, cyngherddau pop Cristnogol bob nos, ac ar y bore Sul, daw uchafbwynt y cyfan yn yr oedfa gymun. Yno, cawn i gyd ddod at ein gilydd, yn ieuanc a hyn, gwyn a du, 'monks' a phyncs, i addoli Duw ac i ranu'r bara â'r gwin fel un teulu. Daeth y criw ohonom adre' o Greenbelt ar dân dros Grist, ac yn teimlo at ein calonnau fod gwir angen penwythnos debyg yng Nghymru. 'Roedd yn hen bryd ceisio tanseilio'r syniad fod yr Efengyl yn 'boring', yn henffasiwn ac amherthnasol i wythdegau'r ugeinfed Sioned Elin o Bencader Gŵyl Gristnogol ar fferm? Addoli mewn wellingtons? Gwasanaeth mewn 'sgubor? Syniadau gwahanol iawn! Yn ôl pob sôn deilliodd y syniad o'r \V\i Seisnig 'Greenbelt'. Cymaint oedd y gwahaniaeth rhwng yr amgylchedd, â'r capel â fynychaf ar y Sul. Y penwythnos cyn Wigwam bûm mewn gŵyl roc flynyddol, boblogaidd Pesda Roc'. Ieuenctid oedd yn mynychu'r ddau gyfarfod. Fe'm trawyd gan v cyferbyniad! Penwythnos meddwol oedd y cyntaf. Pobl yn ymgolli'n llwyr o dan reolaeth a chaethiwed y ddiod ffeddwol. Curiad cadarn cryf y drymiau'n byddaru. Awyrgylch fyglyd, chwyslyd. Pobl yn cuddio'u his-ymwybod ansicr, trwy dyfu mwng llachar, pigog, tyllau di-ri'n eu clustiau, a gwisgo dillad à geisiau greu'r ddelwedd "Rwyn hard". Nifer yn ceisio denu sylw "Hei. bois, 'drychwch arna i!" Yna, cyferbyniad llwyr yn Wigwam. Dim alcohol ar gyfyl y Ile pawb yn ymgolli'n llwyr o dan ddylanwad yr ysbryd glân. Angharad Tomos yn arwain Seminar ar brob lemau Cymru. Dengys nad oes rhaid wrth alcohol i fwynhau noswaith allan. Curiad cadarn cryf y drymiau'n gyfeiliant i nodau soniarus caneuon Cristnogol. Caneuon syml. Caneuon cofiadwy. Caneuon yn dwyn neges bwysig. Awyrgylch gyfeillgar, gartrefol. Awyrgylch glos, gynnes. Er na adnabûm llawer yno, medrwn gymdeithasu'n hawdd. Trechwyd pob swildod gan yr agosatrwydd. Personau 'normal' yr olwg rhai derbyniol yng ngolwg cymdeithas. Neb, hyd y syiwais, â gwallt amryiiw, dim clustdlysau ymhob man posib, dim dillad yn sgreehian am sylw. Mae peryg imi fynd yn hunan gyfiawn, a barnu ffyddloniaid Pesda Roc, yn hallt. Hapusrwydd ffug a gaed yno ond dyna'r agwedd hollol anghywir. Pobl ydi pobl, beth bynnag am y gragen allanol. O dan y gwallt, clustdlws a siaced mae personoliaeth. Personoliaeth ansicr. Personoliaeth sydd wedi diflasu ar gyflwr annioeddefol bywyd bob dydd. Bywyd ar y dôl, bywyd yn Ilawn problemau cymdeithasol, bywyd heb ffydd. Heb ffydd, rhaid iddynt droi at gysuron eraill i leddfu poenau a boddi pryderon. Heb ffydd yn Nuw, ni wyddant fod rhywun yno'n wastadol yn barod i wrando ac i faddau pechodau. Unwaith y deallwn fod