Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn Hwngari Norah Morgans Bu Norah Morgans yn gynrychiolydd yr U.R.C. yng Nghynhadledd Cyngor Eglwysi'r Byd yn Vancouver: mae ei chartref yng Nghaerdydd. Derbyn cais i ysgrifennu darn am hanes, neu'n hytrach ystyr, y geni a synnu cael y meddwl yn fflachio'n ôl i ddiwrnod o haf mewn gwlad Sosialaidd. Cefndir digon annisgwyl i fyfyrdod ar y Nadolig. Cawsom y fraint fel teulu o dreulio mis Awst yn Hwngari, gwyliau haf ar y cyfandir i'r teulu am y tro cyntaf a'r tymheredd yn y nawdegau. Cyfle i ymweld â thrysorau niferus y wlad; cyfle i ymlacio ac i nofio yn Llyn Balaton; a digon o gyfle i ymestyn ac i ddyfnhau'r profiad o fod yn rhan o deulu Cristnogol byd-eang drwy addoli a chwrdd ag aelodau'r Eglwys Ddiwygiedig yn Hwngari. Bu llawer o holi a gwrando brwd am y modd y mae'r eglwys yn bod mewn gwlad Sosialaidd. Clywed sut y symudwyd yr Eglwys oddiar ei phedestl cysurus i'w gliniau; sut y bu'n raid iddi chwilio am ystyr ynghanol yr anialwch; sut y daeth i weld mae'r unig fywyd, yr unig arweiniad gall yr Eglwys roi mewn unrhyw gymdeithas yw un o wasanaeth — "ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas" (Phi1.2). O ganlyniad i'r weledigaeth newydd, pwysleisiwyd waith "diakonia" yr Eglwys, yn arbennig gwasanaeth i'r hen ac i'r anabl. Dyma'r cefndir i'n hymweliad â chartref i blant anabl yn Nyiregyhaza, tref hyfryd yng Ngogledd-Ddwyrain y wlad. Cyrraedd y cartref, ac wedi'r croeso a'r 'goulash' mynd i ymweld â'r plant. Digon o swn a thwrw, y plant mwyaf galluog yn gwneud gweithgareddau, yn canu a dawnsio. Cael fy nharo gyda'r hapusrwydd a'r cariad a oedd yn amgylchynu'r plant breichiau agored ym mhobman, ac ystyried pa mor bwysig oedd cyffwrdd a chofleidio yn y cyswllt hwn. Sgwrsio gydag un o'r cynorthwywyr ifainc a gwrando ar ei thystiolaeth aeddfed, yr anrhydedd a Emmaniwel DUW GYDA NI Nadolig Gofynnwyd i gyfrannwyr sôn am brofiadau y gellid dweud amdanynt 'ROEDD E' YNO. deimlai wrth wasanaethu'r plant-arwyddion y Deyrnas oeddent bob un iddi. Yna ymlaen i ystafell lle'r oedd y plant mwyaf anabl naill ai'n eistedd neu'n gorwedd yn eu gwelyau a'm llygaid yn symud at un gwely yn y cornel, ac ynddo rhyw ffurf bach truenus yn gorwedd yn ddifywyd. Creadur bach llipa a phen addas i'r pedwar a'r ddeg mlynedd ydoedd ond â chorff baban blwydd oed. Osgoi cyffwrdd a'r bach am funud, yn ofni'r ymateb. Yna'n beiddio, a sylwi ar y symudiad ysgyfnaf ar wyneb y plentyn. Cydio'n dynnach, a gweld gwên yn ffurfio. Gwasgu'n dyner a gweld y wên yn ymledu dros yr holl wyneb, a'r llygaid a oedd gynt yn ddiliw ac yn wag yn disgleirio'n danbaid ac yn cyfleu'r fath angerdd a grym na theimlais i erioed o'r blaen. Plentyn bach diymadferth mewn crud, yn hollol ddiamddiffyn. Anabl yn y corff ond abl yn yr ysbryd, y corff yn brin ond yr ysbryd yn gorlifo ac yn datgelu craidd bywyd. Roedd yr Emmaniwel yn y cartref yn Nyiregyhaza, yn y plant bywiog agored, yn y cynorthwywyr ymroddgar, ond yn bennaf i mi yn y plentyn bach diymadferth yn y gwely cornel a lwyddodd i drawsffurfio cragen fethedig yn arwydd o'r Deyrnas. Diolch bod Duw yn Ei drugaredd yn defnyddio'r gwannaf. Ym Methiehem Gan Gwilym R. Jones Cyn olygydd Y Faner a bardd yw Gwilym R. Jones; mae'n byw yn Ninbych. Cystal i mi gyfaddef na chefais i erioed fy nghynhyrfu gan y chwedlau lliwgar a thelynegol am y Geni gwyrthiol ym Methlehem. Er mor brydferth ydynt, y maent yn dreth ar hygredoedd dyn ac yn nes i storiau tylwyth teg nag i gofnod ffeithiol, hanesyddol o enedigaeth y mwyaf o feibion dynion. Ond cefais y fraint fawr o fyned gyda mintai o Gristnogion i Fethlehem, dan arweiniad fy nghyn-weinidog, y Parchedig W.I. Cynwil Williams, Caerdydd. Loes i galon dyn oedd gweld siopau siêp yn gwerthu coronau drain a delwau o'r groes ar y ffordd tua'r preseb. Dysgasom nad oes gan aelodau o garfannau crefyddol eraill fawr o barch i Gristnogion, dim ond fel gwrthrychau i odro ei harian yn y modd mwyaf cwrs. Tipyn o syndod oedd canfod mai rhyw fath o ogof ar ymyl yr heol oedd y fan lle ganed Iesu, yn ôl traddodiad. Aethom i lawr y grisiau tywyll gan gydio yn nwylo'n gilydd, a chyrraedd llecyn goleuedig ac yno yr oedd seren go helaeth wedi ei gwneud ag aur ar y llawr cerrig. "Dyma," meddai ein harweinydd, "y llecyn lle credir bod Iesu wedi ei eni arno. Fe welwch mai ogof sydd yma, ac y mae hynny'n awgrymu mai i blith yr isel-radd y daeth Mab Duw, ac nid i blith mawrion byd yn eu moethusrwydd. Felly, un ohonom ni yw Ef, ac nid aelod o deulu breintiedig a neilltuedig." Gresyn fod rhywrai wedi goreuro'r llecyn a'i amddifadu o'i gyntefigrwydd noeth. Ond cawsom brofion o'r un annifyrwch wrth ymweld â llecynnau cysegredig eraill, gan gynnwys pen Calfaria, ar y daith honno. Nid yw'n anodd credu stori syml y geni mewn stabl. A sôn am angylion a doethion a bugeiliaid sy'n anodd i ddygmod ag ef. Prin bod rhaid i'r mwyneiddiaf o fodau