Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dynol wrth y fath addurniadau. Gallai sefyll ar ei draed ei hun ymhlith meibion dynion a'n gorfodi i blygu'n wylaidd ger ei fron heb gymorth y gimigau hyn. Nid ei ddieithrwch na'i arwahanrwydd a'n dena yn nes ato, ond ei agosrwydd at y ddynol- ryw simsan a ffaeledig a'i faddeuant i'r gwan. Y mae cymaint o greiriau'r Ffydd yn Israel nes bod stori'r Testament Newydd yn dod yn bwerus i'r meddwl wrth ichwi deithio o Gaersalem i Alilea. A'r tu ôl i hanes y Geni ym Methlehem Jiwdea y mae cnewyllyn o wirionedd na allai neb ei wrthod. Fe ddaeth Ef yma, a dyfod yn dlawd a di-gefn, ond fe ddaeth, ac y mae ei ddyfodiad wedi gweddnewid y byd ac y mae'n dal i'n procio i geisio'r bywyd gwell. Baban mewn cadachau'n creu achau bonheddig! Dyna'r wyrth, ac nid stori addurniedig y angylion a'r doethion a'r bugeiliaid, er bod honno'n apelio o hyd a blant. Yn yr ambiwlans Marged Jones Mae Marged Jones, Frongoch yn gyn- lywydd Merched y Wawr. Diwrnod cyn y Nadolig oedd hi, diwrnod braf, mwyn, yn debycach i wanwyn nag i aeaf. Minnau wrthi'n llawn prysurdeb yn paratoi ar gyfer Y Gwyliau; stwffio'r ŵydd, gwneud mins peis, paratoi'r gwelyau, a chant a mil 0 orchwylion, rhai ohonynt yn ddigon dibwys, er mwyn rhoi croeso adre i'r plant. 'Roeddwn wrthi yn hongian yr uchelwydd a gosod y celyn yn addurniadol Nadohgaidd, pan ganodd y ffôn. Dratio'r ffon! Yng nghanol fy mhrysurdeb anghof- iaswn fy mod ar ddyletswydd ambiwlans y diwrnod hwnnw. Yn y dyddiau hynny aelodau'r Groes Goch oedd yn rhedeg y gwasanaeth ambiwlans yn wirfoddol. Ie, y meddyg oedd yno, yn galw'r ambiwlans allan ar unwaith. Derbyniais y cyfarwyddiadau, gan adael y mins peis ar hanner eu coginio yn y pobty, yng ngofal ansicr fy ngŵr. Roedd yn rhaid brysio, roedd yn argyfwng. Roedd sipsi mewn pabell i fyny rywle ar lechwedd Y Berwyn ar fin esgor, a rhaid oedd ei chael i'r ysbyty o fewn yr awr-a hithau dros ddeng milltir ar hugain o'r ysbyty. Cefais fy sicrhau fod y fydwraig ar ei ffordd ati yn barod, 'doedd dim angen pryderu, dim ond brysio. Gyda hyn 'roedd yr ambiwlans with y drws; llenwi'r poteli dwr rhag ofn! A ffwrdd a ni fel cath i gythraul, y goleuadau'n fflachio, teithio hanner can milltir yn awr drwy Lanfyllin, a ninnau heb lawer o syniad ble i fynd. Dringo'r Berwyn, chwilio am y babell, glaw mân yn disgyn a'r nos yn nesáu. O'r diwedd canfod cyrlen o fwg yn cordeddu o'r cwm islaw. Y babell! Cipio'r blancedi a'r poteli dwr poeth, Mr. Davies y gyrrwr yn cario'r estynell a chripian i lawr y llethr serth, lithrig. Yno y gwelem, wr ifanc yn cerdded yn orffwyll o gwmpas y babell nad oedd mewn girionedd ond sachau yn cael eu dal i fyny gan briciau, ac yn mwmian wrtho'i hun, "Good Lord, good Lord", a synhwyrais nad galw enw Duw yn ofer yr oedd, ond yn gweddio â'i holl enaid. 'Doedd dim sôn am y fydwraig (roedd honno'n crwydro'r mynydd yn rhywle), a dyma finne, fel y sipsi druan, yn galw ar Dduw, a gobeithio'r gorau. Roedd yn sefyllfa argyfyngus. Gwraig ifanc yn gorwedd ar sachau a hen gotiau ar y glaswellt llaith, newydd esgor ar ei baban cyntaf anedig, a hwnnw'n gorwedd yn llipryn bach egwan, digyffro rhwng ei chluniau. Ceisiais gofio gwersi'r Groes Goch. "O Dduw! rho i mi arweiniad! Torrais y llinyn bogail, ond doedd dim hyd yn oed gadachau i rwymo'r baban hwn ynddynt. Tynnais fy mhais, lapiais y baban ynddi, a'i wthio tu fewn i fy nghot fawr. Rhaid oedd ei gadw'n gynnes. Yna Mr. Davies, gyda help y gwr yn cario'r wraig ifanc ar yr estynell i fyny'r llethr caregog. "Brysiwch! brysiwch!" Cyrraedd yr ambiwlans o'r diwedd. Erbyn hyn roedd yn gwaedu'n bur ddrwg, a minne mor ddibrof- iad, ac yn cario baban marw, fel tybiwn, y tu mewn i'm cot fawr. Gwneud fy ngorau, gan bwyso ar fy nghwybodaeth gyfyng, i atal y gwaedlif. Hithau, druan fach yn gafael yn dyn yn y groes fechan wrth gadwyn am ei gwddf, ac yn yngan rhyw eiriau erfyniol yn ddi-baid. Yr unig eiriau y medrwn eu deall oedd "Pater Noster". Pabydd wrth gwrs. Ymhen hir a hwyr arafodd y gwaedu, a dyma finne yn rhoi sylw i'r baban bach. Tybed a oeddwn wedi ei fygu y tu mewn i'r got fawr wrth blygu drosodd i weini ar y fam? "O Dduw!" Roeddem o fewn milltir i'r ysbyty erbyn hyn, a theimlais y symudiad lleiaf y tu mewn i'r got. Mentrais ei dynnu allan, a dyma sgrech fach wan. Estynnodd y fam ei brechiau allan, a'i gofleidio. Dyma'r crio'n cryfhau. Y rhyddhad a'r diolchgarwch! A minnau'n cusanu a chofleidio'r ddau-y sipsi fach lygatddu a oedd yn dlotach na thlawd, ac na wyddwn am ei bodolaeth ddwyawr ynghynt. "Canys mab a anwyd Chlywais i mo'r angylion yn canu, ond yr oedd Efe yno gyda ni bob cam o'r daith. Ynghano! y miri Mati Rees Bu Mati Rees yn ddarlithydd ^ng Ngholeg Hyfforddi Abertawe; bellach mae'n byw yn Aberystwyth. Daw atgofion lu am y Nadoligau a fu. Ie, Nadolig y plant fu'n fwyaf amlwg rywsut- -fe y cenir yn yr ysgol fach: Nadolig, hwre, yr orau o bob gŵyl Clecars, hosanau, Digon o deganau Yr edrych ymlaen yn eiddgar, yn ddiamynedd tost at Santa Clos, ac o'r diwedd-siom efallai? Wn i ddim. Rwy'n dal i gofio ninnau fel plant yn dyheu am roddion Santa-dol fawr a ddymunwn ond 'dol racs' oedd wrth y gwely, a'r ddol fawr a'i llygaid yn cau yn mynd i'r chwaer hyna, Cassie. Nid dol i chwarae â hi bob dydd ond i'w hongian ar y wal fel addurn inni oll allu edrych arni. Fy mrawd wedyn yn "gweddio" am ddryll neu wn ond feiolin a gafodd er mawr siom iddo. Cofio am grwtyn yn ein stryd ni yn dyheu am feisicl ac yn wir yn gweddio amdano. Bore'r Nadolig codi'n fore ac allan i'w sied gyda'i fam i weld- wel-treisicl. "Duw Mawr",