Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

meddai yn ei siom, "wyt ti ddim yn gwybod yn gwahaniaeth rhwng beisicl a threisicl?" Ymhen blynyddoedd wedyn yn fy nyddiau fel athrawes mewn ysgolion a choleg y cês i'r pleser mawr o fwynhau drama'r Nadolig gyda'r plant-y paratoi mawr, y gwisgoedd, y carolau-a'r holl wefr o gael y stori ramantus yn ôl Luc a Mathew wedi ei phortreadu o'n blaen. Diolch i'r ysgolion bob dydd yn fy adeg i ac nid i'r Ysgol Sul. Stori fach am fachgen 'drwg' y dosbarth yn cael actio gwr y llety­ Mair a Joseph yn curo'r drws ac yn holi yn flinedig, "A oes lle yn y llety?" A'r ateb cyflym, "O oes, digon o le, dewch mewn." A dyma'r ddrama yn dod i ben yn ddigon swta. I mi yn bersonol mae'n haws dipyn i addoli a chael profiad ysbrydol ar Ŵyl y Pasg na'r Nadolig. Pam? Wel, y prysurdeb am fisoedd cyn yr Wyl-y siopa, y prynu, y ffys a'r ffwdan, ac ie, y cardiau Nadolig. Anfon at rai nas gwelswn ers trigain mlynedd bellach-rhaid dilyn y 'rhestr enwau' bob blwyddyn, ac anghofio ambell un, ras i brynu carden y funud olaf i ddal y post olaf. Daw dydd Nadolig o'r diwedd a chyfle i ymlacio wedi'r holl fasnacheiddio. Ond eto rhaid cyfaddef mod i'n dal i fwynhau'r tinsel, yr addurniadau, y goeden Nadolig, a'r rhoddion a'r cardiau­·yr ysbryd a'r naws ewyllys da sy o gwmpas y Nadolig; y teulu a'r perthnasau'n dod ynghyd, yr holl ganu carolau at achosion da am wythnosau cyn yr Wyl. A sôn am y carolau, er mor swynol ydynt, ychydig o ystyr y Nadolig a geir ynddynt ar y cyfan- y crud, y caledi, yr oerni, y preseb, y doethion, ond yn fwy na dim ceir cân mawl i Dduw- "Mab Duw tragwyddoldeb yn gorwedd mewn preseb" A Hooson yn sôn am fawredd y geni: "A gweled yno yn ei grud Arglwydd Arglwyddi yr holl fyd." Ie, stori ramantus y geni yn ôl Luc a Mathew a geir yn y carolau. Yn fy myfyrdod tawel, unig, o ganol y miri a'r twrw a daw cyfle i ddarllen yn fyfyrgar ystyr y Geni gan loan yn ei farddoniaeth fawr. "A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd ac a drigodd yn ein plith ni, yn llawn gras a gwirionedd". Ac eto "Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion Duw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef". Mae un gair yn sefyll allan yn y carolau yn fy mhrofiad i, sef Emmanuel— Duw gyda ni-nawr, bob dydd yn ein holl dreialon, yng nghanol drygioni'r byd a'i boen. Yn ystod miri a hwyl y Nadolig, rhaid ymdrechu bob dydd i gael ychydig o fyfyrdod i sylweddoli mawredd y Nadolig "yn y dwys ddistawrwydd"—Emmanuet— Duw gyda ni. Yng ngeiriau'r hen garol: "Daeth Duwdod mewn baban i'r byd Ei ras, O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn A throsto ef, gweithiwn i gyd". Pryderi Llwyd Jones Gweinidog Capel y Groes, Wrecsam yw Pryderi Llwyd Jones Mae yna bum mlynedd bellach er pan ddaeth defod newydd i'n Nadolig a byth er hynny mae wedi bod yn rhan annatod o ddathlu geni'r Ceidwad. Nid defod chwaith am wn i. Ar ddygwyl Nadolig fe fyddwn yn cynnal gwylnos a thystiolaeth bedail awr ar hugain yng nghanol tref Wrecsam. Tân, carolau, gweddi, y Gair, posteri 'Tywysog Tangnefedd', 'Emmanuel', 'Gobaith y Byd', 'Ar y ddaear, tangnefedd ac esgus o gysgod ar ffurf cwt o gartref o'r trydydd byd. Yn y cwt fe fydd rhyw fath o allor a channwyll. A dyna fo. Bod yno. Fe fydd gennym hefyd gerdyn Nadolig i'w roi i bawb fydd yn mynd heibio a'r rhai fydd yn aros am ychydig. Fe fydd y cerdyn gobeithio yn eu hatgoffa fod y Plentyn (sydd yn ffenestr Woolworths yn ymyl) wedi tyfu, wedi ei groeshoelio, wedi atgyfodi a thrwy hynny fel y dywedodd ei fam cyn ei eni wedi dod a buddugoliaeth Teyrnas Ei Dad ar drais, grym, anghyfiawnder, gormes, marwolaeth. Neu, a'i rhoi yn fwy cryno, buddugoliaeth ar ddrygioni a phechod, ar wrthryfel a methiant dyn sy'n chwalu Shalom Duw. Damwain yw fod 'Concwest Nefol Duw' yn atgoffa pobl o CND a 'Cariad y Crist' yn atgoffa pobl o Gymdeithas y Cymod. Erbyn hyn yr ydym wedi mynd yn ddigon haerllug a hunan- gyfiawn i gredu na fuasai Nadolig yn Wrecsam yn gyflawn heb i'r neges hon fod yn weladwy, fel petae, i'r funud olaf. Mae'r dystiolaeth gyntaf honno yn fyw yn fy meddwl o hyd, ac yr ydym wedi cael yr un profiad pob blwyddyn ar ôl hynny ac fe'i cawn eto eleni, gobeithio. Ar ôl prysurdeb y siopa gorffwyll cyn i'r siopau (fe ymddengys) gau am byth; rhywbryd rhwng pump a chwech y bore ac ambell i un (ia wir) hanner meddw ar y ffordd yn ôl i rhywle; wyth neu ddeg ohonom yn eistedd yn syllu i'r tân; lleian gyda'i hacen Wyddelig wedi canu ei charol i Faban Mair; rhywun arall wedi darllen yr hen hanes eto ac wedi offrymu gweddi. Dyna pryd y daw y munudau yna o dawelwch llwyr pob blwyddyn, a phawb yn luddedig lonydd. Ac yn y tawelwch yn nhrymder gaeaf fe fydd rhyw aderyn yn siwr o ddeffro a dechrau ar ei gân. Nid 'rhyw aderyn' chwaith, ond aderyn to. Maent yn funudau rhyfeddol a chysegredig, ple mae tystiolaeth, gweddi, cymundeb, llonyddwch, rhwng cyfnos a gwawr, yn rhoi'r wefr a'r llawenydd ei fod Ef yn agos Roedd E yno'. I'r mwyafrif ffolineb eithafol yw cynnal tystiolaeth o'r fath dyna paham mai ychydig iawn o'n cyd-Gristnogion yn y dref sydd yn ymuno. Mae seindorf Byddin yr Iachawdwriaeth o bell yn fwy cydnaws â'r dathlu. A go brin, medda nhw, y gwnaiff tystiolaeth o'r fath ronyn o wahaniaeth i'w pwerau a'r grymusterau sydd yn ceisio dal y byd wrth ei gilydd rhywsut gyda grym arfau ac awdurdod Herod. Ac y mae bron popeth yn awgrymu eu bod yn iawn ac yn ddoeth ac yn ymarferol. Ar wahan i un peth Nadoligaidd. Mai ynfydrwydd oedd i fugeiliaid honni iddynt nhw gael gweledigaeth ac addewid o dangnefedd ar y ddaear ac efallai mai rhwng cyfnos a gwawr oedd hynny hefyd! A dyna paham ein bod yn edrych ymlaen yn obeithio lawen i fod yng nghanol Wrecsam ar ddygwyl Nadolig eto eleni. EGLWYSYDDA! A Guide to Welsh Parish Churches, R.W. Soden. Gwasg Gomer, £ 4.95. Eglwysi Cymru, Mari Ellis a Marged Dafydd. Cyfres Teithio Cymru, Y Lolfa, [2.45 Gair newydd sbon (rwy'n credu) yw 'eglwysydda' i ddisgrifio hobi y creaduriaid rhyfedd hynny sy'n meddwi ar eglwysi. Nid oes raid iddynt fod yn eglwyswyr, neu hyd yn oed yn Gristnogion. Y mae rhai yn hoffi 'capelydda' hefyd. Bodau yw'r rhain nad oes modd iddynt weld eglwys heb droi i mewn i weld a yw'r drws ar agor, yn y gobaith (yn nhyb eu beirniaid) o fwynhau'r sawr arbennig sy'n llenwi llawer o eglwysi yn gymysgedd o farnais, llwch, tamprwydd, cwyr dodrefn, gwêr cannwyll a baw llygod bach. (Amrywiaeth ar y brid yw'r rhai sy'n hoffi mynwenta). Rhaid i mi gyfaddef ar unwaith fy mod yn un o'r criw ers blynyddoedd. Hyd yn oed yn absenoldeb y gynulleidfa y mae Uawer i eglwys wedi ei llenwi â chwmwl o dystion. Yn y tawelwch gellir clywed o hyd weddiau a chaniadau ein hynafiaid, yn Gymraeg, Saesneg neu Ladin. Nid enwir Llanfair Talhaearn yn yr un o'r ddwy gyfrol, ond dyna'r eglwys lle y priodwyd Twm o'r Nant a'i wraig-a leuan Fardd yn offeiriad. Dyna chi dystion. Ni cheir distawrwydd sy'n ddwysach nag eiddo eglwys hynafol; yno yn ogystal ag yn y storom y mae modd clywed y llef ddistaw fain. Cewch yr un profiad yn Rhydwilym neu Soar-y-Mynydd mae i gapeli eu cwmwl tystion hefyd. Gwaetha'r modd, y mae cyfyngiadau ar y rhai ohonom sy'n gaeth i'r arfer ddiniwed hon o eglwysydda. Y mae twf fandaliaeth wedi gorfodi llawer o blwyfi i gau eu heglwysi ar ddyddiau'r wythnos, rhag ofn ymwelwyr annymunol, ac y mae clefyd arall yr oes wedi cau rhai eglwysi ar y Sul hefyd. Mae'r clefydau hyn yn broblem yn Lloegr yn ogystal â Chymru, ond yng Nghymru fe fu eglwysydda yn hobi amheus-- cywilyddus, bron­·yng ngolwg ambell un. Y rhain yw'r snobeglwysyddwyr. Mae nhw'n barod i feddwi ar ogoniannau Lloegr