Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sectau amherffaith neu cymdeithas ddiddosbarth lle nad oes neb yn chwennych golud a meistrolaeth? Pennar Davies yn ystyried TLODION IDDEWIG YR EGLWYS FORE Bu canlyniadau echrydus a thorcalonnus i'r ffaith mai ymwahanu ac ymbellhau ac ymgecru a wnaeth Iddewon a Christnogion yn y cyfnod a ddilynodd weinidogaeth ac aberth yr Iesu. Er mai Iddewiaeth Palestina ar ddechrau canrif gyntaf Gristnogaeth oedd crud y mudiad Cristnogol daeth Eglwys a Synagog i fod yn elynion i'w gilydd. Fel yr ymnerthodd ac yr ymledodd y Gristionogaeth aeth yr Iddewon, a Ilawer iawn ohonynt eisoes ar wasgar, i ymwasgaru fwyfwy ac i fyw fel Ileiafrifoedd dirmygedig, yn enwedig mewn tiroedd lle yr oedd y Gristnogaeth yn tyfu'n sefydliad pwerus. Tueddai Cristnogion i roi'r bai ar yr Iddewon yn hytrach na'r Rhufeiniaid am groeshoeliad Iesu o Nasareth. Mewn un rhanbarth o leiaf o'r byd Cristnogol dyrchafwyd Pontius Pilatus i fod yn un o saint yr Eglwys. Ymgaledodd prif gorff yr Eglwys yn erbyn Iddewiaeth ac Iddewon. Daeth ofn a thrachwant ac ofergoel i rymuso casineb Cristnogion at Iddewon. Fel dieithriaid symudol heb hawliau tiriog troes yr Iddewon i ddatblygu eu doniau fel masnachwyr a meddygon a thrafodwyr arian. Caent eu defnyddio ac yn aml iawn eu twyllo a'u camdrin a'u herlid. Mae'r hanes erchyll yn rhy hir a chymhleth hyd yn oed i'w grynhoi. Dywedaf yn unig mai anoddefgarwch crefyddol oedd yn bennaf gyfrifol am yr erlidiau, ynghyda drwgdybiaeth o leiafrif estron a pharodrwydd i dderbyn sïon maleisus. Ond nid rhagfarn hiliol a achosai'r ffieidd-dra, ac y mae hyn yn wir hefyd am ymosodiadau anffodus Martin Luther ar yr Iddewon tua diwedd ei oes. Mewn cyfnod diweddarach daeth y rhagfarn hiliol i gymryd lle'r hen gasineb crefyddol, ac y mae'r canlyniadau ffiaidd yn rhan o drychineb y ddynol ryw yn yr ugeinfed ganrif. Efengylu'r Iddewon Ond beth ddigwyddodd yng nghenedlaethau cynharaf y mudiad Cristnogol? Cenhadai'r Iesu ymhlith ei gydgenedl ei hunan, er ei fod yn barod i drugarhau wrth Samariaid a Rhufeiniaid a rhywrai eraill y tu allan i gorlan Israel, megis y wraig o Syro-Phenicia. Pwrpas cyntaf Iesu oedd ennill calonnau'r genedl Iddewig i dderbyn yn llawen Newyddion Da'r Deyrnas a chroesawu gwaith a gogoniant yr Oes Fendigaid. Awyddai achub yn gyntaf "gyfrgolledig ddefaid ty Israel". Iddewon oedd ei ddilynwyr cyntaf. Ymhonni'n "Frenin yr Iddewon" oedd y cyhuddiad a'i dug i'r Groes. Daeth profiadau'r Pasg a'r Pentecost i beri i'r egin-Eglwys ddwyn ei thystiolaeth. Ar y cyntaf anelai'r ymgyrch at ennill yr Iddewon, ond cyn hir casglwyd tröedigion o blith y cenedlddynion. Yng ngwaith Paul yn arbennig, aeth yr ymgyrch efengylus yn genhadaeth fyd er bod modd dadlau (gyda Munck ac ysgolheigion eraill) fod Cristioneiddio Israel yn ganolog yn ei obeithion yntau. Mae'n amlwg fod mwy nag un farn ynghylch amcanion a dulliau'r genhadaeth Gristnogol. Cyhuddai Paul rywrai o rwystro lledaeniad yr Efengyl trwy fynnu ymlyniad wrth y Gyfraith Iddewig. Digon tebyg i rai a geisiai gadw'r traddodiadau Iddewig deimlo fod Paul am droi'r Gristnogaeth yn rhyw fath o grefydd gyfrin a allai gystadlu'n llwyddiannus â chrefyddau Cybele ac Isis a Mithra. Aeth yr Eglwys ymlaen yn y gwaith o ddyrchafu enw'r Iachawdwr dwyfol yn ben moliant ar y llawr. Ymroes Iddewaeth i'r dasg o ddiogelu a meithrin ei thraddodiad ei hunan a llwyddo i wneud hynny er gwaethaf dinistr y Deml a phob gwasgar ac erlid. Ond ym Mhalestina, yn enwedig ar yr ochr ddwyreiniol i'r Môr Marw, fe barhaodd cymuned o Gristnogion Iddewig. Yr "Ebioniaid", y "Tlodion", o'r gair Hebraeg "ebion" ("tlawd", "anghenus"), oedd yr enw a roddid iddynt, neu, o bosib, a roddent iddynt eu hunain, canys yr oedd cysylltiadau bendigedig i'r syniad am gymdeithas o dlodion, yn enwedig ar ôl y Gaethglud. Daethai i olygu cymdeithas ddiddosbarth lle nad oes neb yn chwennych golud a meistrolaeth a lle y myn pawb wasanaethu Duw a gwasanaethu Ei bobl. "Gwasgarodd, rhoddodd i'r tlodion", canodd awdur Salm 112, "a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth." Yr un rhai yw'r "rhai gostyngedig" a'r "rhai cyfiawn", ac wrth sôn am y tlodion a'r rhai addfwyn yn y Gwynfydau y mae'r Iesu'n adleisio Salm 37. Caiff duwioldeb Tlodion Israel fynegiant gogoneddus yng nghaniadau Mair a Sachareias a Simeon yn y ddwy bennod gyntaf yn Luc. Cynrychiolir yma holl obaith amyneddgar, hiraethus a hyderus y mudiad a oedd yn rhan o amgylchfyd cynnar y llanc o Nasareth. Wedi eu hysbrydoli gan efengyl ac aberth y llanc hwnnw yr oedd yr Ebioniaid yn dal i goleddu'r gobaith. Tybir gan rai mai'r rhain yw'r "Nasareaid" y cyfeirir atynt gan rai awduron o'r bedwaredd ganrif. Hereticiaid Ac eto daeth arweinwyr yr Eglwys Gristnogol i ystyried y Cristnogion hyn yn sect gyfeiliornus neu'n ddwy sect amherffaith eu dysgeidiaeth. Yr oedd y ddwy sect yn euog o ymlynu wrth y Ddeddf Iddewig a'r un waethaf yn euog hefyd o wrthod credu yn y Geni Gwyryfol, gan honni mai mab Joseff a Mair oedd Iesu o Nasareth ac iddo gael ei gydnabod yn Fab Duw wrth dderbyn bedydd dan ddwylo Ioan Fedyddiwr a chlywed y geiriau "Tydi yw fy annwyl Fab". Clywn am garfan a elwir 'Elcesaiaid' (o enw eu harweinydd