Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Elcesai) i'r dwyrain o'r Iorddonen tua diwedd y ganrif gyntaf, a gwelir dylanwad yr Ebioniaid ar y rhain. Ni fyddai'r Ebioniaid yn cydnabod ond un Efengyl ysgrifenedig ac yr oeddynt yn anfodlon derbyn llythyrau Paul fel ysgrythur ddilys. Tybia rhai mai eu Hefengyl hwy ("Yr Efengyl yn ôl yr Ebioniaid", fel y dywed ysgolheigion heddiw) yw'r gwaith a elwir "yr Efengyl yn ôl yr Hebreaid" (neu, fel y'i gelwir hefyd, "Efengyl y Nasareaid"). Dernynnau'n unig o'r gwaith sydd ar gael, ac y mae'n anodd penderfynu a oes sail i'r ddamcaniaeth fod y gwaith hwn (wedi ei sgrifennu'n wreiddiol yn yr iaith Aramaeg, yn ôl Hierôm) yn ffynhonnell i Efengyl Mathew yn y Testament Newydd. Sut bynnag, mae'n hollol gredadwy fod rhai o'r dywediadau'n cyfleu geiriau dilys yr Iesu. Mae rhywrai sy'n ddigon hyddysg ym maes y Testament Newydd yn barod i dderbyn rhai o ddywediadau'r rhan Efengyl hon fel rhai a ddaeth o enau'r Crist. Tybed a gawn ni glywed pregethau wedi eu seilio arnynt rywbryd? Dyma enghreifftiau: "Pam y dywedi, 'Bûm yn ufudd i'r Gyfraith a'r Proffwydi', gan ei bod yn ysgrifenedig yn y Gyfraith, 'Câr dy gymydog fel ti dy hun', ac wele y mae llawer o'th frodyr, meibion i Abraham, wedi'u gwisgo mewn baw ac yn marw o newyn, ac y mae dy dŷ'nj llawn o bethau da, a dim byd yn mynd allan ohono iddynt hwy?" "Un o'r pechodau mwyaf yw bod dyn yn chwerwi ysbryd ei frawd." "Na lawenhewch ond pan fyddoch yn edrych ar eich brawd mewn cariad." "Aeth yr Ysbryd Glân â mi gynnau gerfydd un o'm gwalltiau a'm dwyn i fynydd mawr Tabor." "Ni phaid â cheisio nes cael, ac wedi cael, bydd yn synnu ac wedi synnu bydd yn teyrnasu, ac wedi teyrnasu bydd yn gorffwys." Y mae heddiw, wrth gwrs, yn ogystal ag "Iddewon Uniongred", nifer o "Iddewon Rhyddfrydol", a rhai ohonynt yn agosáu yn eu pwyslais at yr Ebioniaid gynt. Ydi meddwl am newyn wedi newid eich ffordd chi o baratoi bwyd? Dyma lyfryn deniadol i'ch helpu. 50c oddiwrth Cymorth Cristnogol.