Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y Gwanwyn eleni anerchwyd Cynhadledd Eglwysi Rhyddion Cymru gan y Barnwr Dewi Watkin Powell. Hwn oedd y tro cyntaf Undeb Bedyddwyr Cymru chwarae rhan yn y gynhadledd ac pheth arbennig o addas felly oedd mai aelod yng nghapel y Tabernacl Caerdydd a siaradodd ar y testun. GWASANAETHU'R DEYRNAS MEWN SECIWLAR CRYNODEB Erbyn hyn, cymdeithas seciwlar yw'n cymdeithas ni yng ngwledydd Ewrop a gwerthoedd seciwlar yw ei gwerthoedd. Y mae'r lliaws wedi cefnu ar y ffydd Gristionogol, ac ym y tro cyntaf ers un ganrif-ar-bymtheg, y mae cyfran sylweddol o bobl yn ymwrthod yn ymwybodol ac yn gyhoeddus â'r foeseg Gristionogol. Heresi a goleddir yn rhyfeddol o gyffredinol heddiw yw mai mater i'r unigolyn yw penderfynu beth sydd yn foesol a beth sydd yn anfoesol. Rhaid i bob un, meddir, wneud pethau yn ei ffordd ei hun; 'doing your own thing'. Heresi sydd yn ffynnu'n -gyfochrog â hi yw nad oes a wnelo'r ymwrthod â'r safonau moesol a gydnabyddid gynt yn ddilys mewn ymddygiad preifat ddim oll â moesoldeb gyhoeddus megis rhyfel a heddwch a chyfiawnder cymdeithasol a rhyngwladol. Ond nid felly y mae pethau'n gweithio oherwydd, yn y pendraw, ofer disgwyl i wyr a gwragedd sydd yn anghyfiawn, yn anffyddlon neu'n greulon yn eu hymwneud â'u teuluoedd i fod yn gyfiawn, ffyddlon a thrugarog tuag at y miliynnau dirifedi ddienw a lywodraethir ganddynt. Ofer hefyd disgwyl i lywodraethau weithredu yn unol â safonau uwch nag eiddo trwch y boblogaeth sydd yn eu hethol. Dirywiad Y gwir plaen yw bod drygioni'n rhemp mewn bywyd cyhoeddus a phreifat. Nid anodd canfod y brycheuyn yn llygad awdurdod yr holl baratoi ar gyfer rhyfel niwclear sy'n ddim llai na rhyfyg llofruddus; trin personau fel pethau y gellir eu defnyddio a'u taflu o'r neilltu yn enw gwladwriaeth neu ofynion y farchnad; caethiwo a gormesu cenhedloedd; erlid a phoenydio unigolion; a phedlera celwydd gan uchel swyddogion gwladwriaethau. Ónd yr un yw natur y dirywiad ym mherthynas personau â'i gilydd fel y dengys y cynnydd cyson mewn troseddau a'r torri a fu ar raddfa anhygoel a chynyddol ar gartrefi yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. Nid damwain mo'rffaith bod cyfnody cartrefi rhwygedig a'r carcharau gorlawn yng ngwledydd Prydain hefyd yn gyfnod cau eglwysi ac edwino cynulleidfaoedd. Ni bu erioed cymaint o alw am neges yr Efengyl ag sydd ar hyn o bryd. Oddi ar 1940 disgynnodd rhif aelodaeth eglwysi ymneilltuol Cymru a Lloegr i hanner yr hyn ydoedd bryd hynny a rhif y plant a'r ieuenctid bellach yn chwarter yr hyn ydoedd yn 1940. Mwy arwyddocaol, efallai, yn y pen draw, yw'r lleihad yn y cynulliadau. Un o bob deuddeg o aelodau a phlant y Tabernacl sydd yn mynychu cwrdd yr hwyr ar nos Sul er bod rhyw un o bob tri yn mynychu rhai o gyfarfodydd bore Sul. O fewn yr un cyfnod, gwelsom ddirywiad syfrdanol yn y parch a roddir i oblygiadau priodas, a barnau'r ffigyrau am ysgaru ac ymwahanu. Yn 1938, terfynwyd 7,800 o briodasau gan y Ilysoedd; yn 1983, y ffigwr oedd 154,800, cynnydd ar ei ugeinfed. Bellach am bob dwy briodas a weinyddir mewn blwyddyn y mae un pâr yn cael eu hysgaru. Y dirywiad echrydus yng nghysegredigrwydd priodas ac ansawdd bywyd teuluol cyfoes yw un o'r prif resymau am y cynnydd mewn troseddu. Daw naw allan o bob deg o'r rhai sy'n ymddangos ger bron Llysoedd Plant o gartre rwygedig. Y mae'n dilyn, fel mae nos yn dilyn dydd, po fwyaf y nifer o deuluoedd rwygedig, mwya'n y byd fydd o droseddu oherwydd yr ansefydlogi sydd ar feddyliau plant o bob oed wrth weld eu rhieni'n ymwahanu. Mwya'n y byd hefyd yw'r, perygl i blant felly droi'n droseddwyr. Mesur y difrod ar blantì yw bod 54% o'r troseddau difrifol a gyflawnwyd yng Nghymru a Lloegr yn 1983 wedi eu cyflawnu gan bobl o dan 21 oed a bod 40% o'r holl fwrgleriaid a ddaw ger bron llys barn yn blant ysgol. Y mae gan blentyn a enir heddiw gyfle rhesymol o ddioddef lladrad, trais neu ymosodiad rhywiol wyth waith yn ystod ei fywyd. O bob oed, y mae'r cynnydd mwyaf sylweddol mewn troseddu ym mysg plant o 14 i 16 oed. Cododd nifer y troseddau difrifol a ddaeth i sylw'r Heddlu o hanner miliwn yn 1950 i dros dair miliwn yn 1983 ond yn ôl ymchwiliad a wnaethpwyd o dan adain y Swyddfa Gartre, credir bod y gwir nifer yn nes at chwe miliwn Nid tlodi materol yw achos y cynnydd syfrdanol hwn. Mae'n arwyddocaol mai rhwng 1960 a 1978, blynyddoedd ffyniant cyfnod y 'You've never had it so good' oedd y cyfnod a welodd y cynnydd mwyaf mewn troseddu o fewn cof. Achos y cynnydd yn y bôn yw'r ysfa am fwyniant tymhorol a'i bethau, a hynny ar adeg pan fo ymwrthod bwriadol ar safonau a dderbynnid gynt yn ddi-gwestiwn, er gwaethaf yr aml dorri arnynt, a'r dibrisio cyffredinol ar briodas a dyletswydd bywyd teuluol. Ni all y cyfryngau torfol osgoi cyfrifoldeb chwaith am y bri a roddir ar fyw bras a moesau llac. Yn anad dim, un o'r achosion am yr escaleiddio mewr trosedd yw'r lleihad trychinebus yn nylanwad capel ac eglwys. Dwysawyd y broblem yn nhermau anghydfod ar yr aelwyd. bywydau drylliedig a llygredig a throseddu gan y bri at gyffuriau a phornograffi, a chan y cynnydd aruthrol mewr alcoholiaeth. Safon byw sydd yn cyfrif ac nid safonau bywyd. Collodc cymdeithas ymdeimlad â'i sylfeini. Aeth y gymdeitha; seciwlar yr ym yn byw yn ei chanol yn hunanol a hunangyf iawn. 'Rym yn beryglus o agos at anarchiaeth gyffredinol. Fe y dangosodd Paul yn eglur yn ei lythyr at y Rhufeiniaid — dogfen na welwyd ei thebyg fel darn o ryddiaith ddadansodd iadol pe bai'n ddim mwy rydym ar ein ffordd tuag a farwolaeth a difodiant. Yr angen am waredigaeth Os ydym i fyw, i barhau fel hil ddynol, rhaid wrt droedigaeth ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen a hynn ar frys. Rhaid wrth chwyldro ym mlaenoriaethau, agwedda a theyrngarwch dynion a merched led-led byd ac y arbennig yn Ewrop. Ni fedrwn edrych i gyfeiriad y cymdeithasegydd na' gwleidydd na'r addysgwr na'r gyfraith i greu dynion merched da allan o bobl ddrwg neu ddifraw. Yn y cyfrwng hwn, nid rhywbeth sydd gan yr Eglwys i" ddweud: ganddi hi yn unig y mae'r Gair. Mae gandc awdurdod a gorchymyn yr Arglwydd Ei Hun i gyhoedc Efengyl Maddeuant, Iachawdwriaeth a Gwaredigaeth. Duw' unig a fedd y gallu i waredu, a nyni, o fewn Ei Eglwys yw I .draed, Ei ddwylo a'i lais.