Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pobl. pobl. pobl. POBL. POBL. Mae Dr. Rhiannon Lloyd, Rhyl, wedi cael blwyddyn lawn a chyffrous dan hyfforddiant gyda'r mudiad rhyngwladol "Youth with a Mission". Roedd hi yn Copenhagen ym mis Mai yn rhan olaf cwrs hyfforddi "bod yn ddisgybl". Yr oedd 50 yn y grwp rhyngwladol ac fe'u croesawyd gan eglwys fawr fyw yng nghanol y ddinas. Cawsant brofiad o weithio gyda drama awyr agored, dawns, a cherddoriaeth. Treuliwyd peth amser yn Christiania enw anaddas ar ran o'r ddinas sy' wedi ei neilltuo i dryg adicts a hippies ac yn y blaen. "Yr oedd rhyw fil o bobl yn byw yno a peth dirdynnol oedd gweld eu cyflwr. Wrth adael y lle 'roedd fy nghalon yn cael ei rhwygo a theimlem i gyd rhyw ychydig bach o wewyr calon Duw drostynt." Ynghanol Mehefin yr oedd Dr. Rhiannon yng Ngogledd Iwerddon. "Y prif amcan oedd gweddio ac ymbilio ar ran y wlad sy'n cael ei rhwygo gan ryfel ond 'roedd hefyd gyfle i annerch mewn cyfarfodydd. Dysgais bod gweddi, gwrando ar Dduw a chydweithredu â dymuniadau Ei galon yn un o'r pethau mwyaf cyffrous ar wyneb y ddaear." Yna yng Nghorffennaf i Amsterdam a byw a gweithio mewn Tŷ Coffi sy'n eiddo i'r mudiad yn ardal "Golau Coch" y ddinas "Doeddwn i ddim wedi disgwyl i'r ffieidd- dra fod cynddrwg ar yr oedd, nac i weld cymaint o gaethiwed i ddrygiau. Roeddem yn y Tŷ Coffi am ddau ddiwrnod yr wythnos a'r tri diwrnod arall allan bob yn ddau yn ceisio bod yn ffrindiau â'r puteiniaid ac yn siarad â'r bobl y tu allan i'r sioeau pornograffi. Myfyriwn llawer am lesu'n cael ei alw'n "gyfaill pechaduriaid". Gwn ei fod Ef gyda ni yn y strydoedd hynny yn caru pobl trwyddo'n ni ac yn cynnig bywyd a gobaith newydd. Gwefr oedd gweld pobl yn raddol dod i ymddiried ynom a gwrando ar ein "Newyddion Da." Yr wythnos olaf yng Ngorffennaf nôl i Ddenmark a chynhadledd o bum mil o bobl ifanc "Youth With a Mission" ac yna nôl i'r Rhyl a'r Eisteddfod a dosbarthu papur newydd "Bendithion Duw" a gwneud cannoedd o baneidiau te! O fis Medi ymlaen bydd Dr. Rhiannon yn gwneud cwrs cynghori Beiblaidd yn The King's Lodge, Watling Street, Nuneaton CV10 OTZ. M.C.M. Mae Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr wedi cyhoeddi penodiad ysgrifennydd cenedlaethol ar gyfer Cymru ers dechrau mis Awst. Mae Jo Knell newydd raddio yng Ngh. P. C. Aberystwyth, lle y mae swyddfa'r mudiad, yn nhy cymuned M.C.M. yn 8 Maes Lowri. Wedi astudio yn Aberystwyth a bod yn llywydd M.C.M. yng Nghymru, yn ogystal â bod yn gadeirydd M.C.M. trwy Brydain, mae Jo eisoes yn gyfarwydd â nifer o'r colegau y bydd yn gyfrifol amdanynt. "Un peth i'w wneud ar unwaith fydd helpu cychwyn grwpiau newydd o'r mudiad wrth ochr y rhai sy gennym yn Aberystwyth, yn y politechnig yn Nhrefforest, yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn Llambed", meddai Jo, a esboniodd fod gan M.C.M. sylfaen cadarn i adeiladu arno yng Nghymru. "Gobeithio y gwelwn ni gamre mawr ymlaen yn y blynyddoedd nesa 'ma," ychwanegodd. Trwy'r ynysoedd Prydeinig mae M.C.M. wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ar ôl cyfnod llwm yn y chwedegau ac ar ddechrau'r saithdegau. Mae M.C.M. yn dal i dderbyn cefnogaeth llawer o eglwysi "Rhaid mai hen lanc yw Sion Corn — fuase-fe byth mor hael â'i arian petai gydag-e wraig!" a chapeli, a chyn aelodau neu "Gyfeillion Hyn" a phwysleisiodd Jo eu cyfraniad nhw, "Mae M.C.M. yn ffodus bod ganddo nifer fawr o gefnogwyr y tu allan i'r colegau a gobeithio y gallwn dalu nôl iddyn nhw am eu caredigrwydd drwy eu gwahodd i rannu yng ngweithgareddau'r Mudiad yng Nghymru." Roedd yn bwysig rhoi blaenoriaeth i gysylltu eto â chyrff eglwysig eraill ac ag unigolion a oedd â diddordeb. Gellid hwyluso'r gwaith hwn, a'r cysylltiadau â grwpiau M.C.M. drwy ddarparu cyhoeddiad cyson yng Nghymru yn ychwanegol at "Movement", cylchgrawn y Mudiad ar gyfer Prydain oll. Y gobaith yw paratoi'r rhifyn cyntaf erbyn dechrau'r flwyddyn golegol yn yr Hydref. Marw Carcharor Daeth y newyddion trist fod athro hanes o Indonesia y bu Cristnogion yng Nghymru yn ymgyrchu i'w rhyddhau wedi cael ei ddienyddio a hynny ar 0116 o flynyddoedd yn y carchar. Yr oedd Catot Testario yn un 0 4 carcharor a "fabwysiadwyd" gan "Cristnogion yn erbyn Poenydio" a bu mewn cysylltiad â grwp yn Abercraf. Yn un o'i Iythyrau olaf iddynt meddai. "Rhoddodd yr Arglwydd i mi nerth a dewrder i dystio drosto. Does arno' ni ddim ofn. Ni fydd y Gwaredwr byth yn ein gadael."