Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Weinidogaeth O Weinidog, beth wyt ti? Nid oes debyg iti, a wnaed allan o ddim! Nid oes debyg iti, sy'n gyfryngwr rhyngom a Duw Nid wyt yn ceisio dy fuddiannau dy hun. Gwas i bawb ydwyf fi. Nid wyr yn eiddo iti dy hun. Ffrind y Priodfab wyf fi. Nid wyf yn dilyn fy uchelgais fy hun. Gweinidog Duw ydwyf fi. Beth wyt ti felly? Dim a phob peth. O! Weinidog. Cyfieithiad o Ladin o'r Canol Oesoedd. "0 gwmni ardderchog ydynt hwy" Dr. T. Tecwyn Evans. Nid oes gylch mewn bywyd lle gall dyn gyda mwy o sicrwydd osod ei holl dalentau yng ngwasanaeth Duw. Bydd galw am bob gallu sydd gennych. Daw â chwi i gysylltiad â phlant dynion ymhob perthynas y gellir ei ddychmygu. Nid oes fywyd mwy cyfoethog, nid oes fywyd mor llawn o'r diddanwch sy'n deillio o wybod eich bod yn gwasanaethu pobl yn y lle y mae eu hangen dyfnaf. William Temple. Dywedir y byddai'r Esgob Charles Gore yn arfer llefaru gwiriau arbennig iawn i'w ordinands noswyl eu hordeinio. "Yfory" dywedai "byddaf yn gofyn i chwi ateb y cwestiynau fel y maent wedi eu gosod yn y Gwasanaeth Ordeinio. Ar ddiwedd pob cwestiwn daw'r ymadrodd A wnewch chwi? A wnewch chwi? Byddaf fi yn gofyn a chwithau yn ateb. Gwnaf Gwnaf. Byddaf fi yn sefyll fan hyn a chwithau fan acw. Yfory yw'r diwrnod Ond fe ddaw diwrnod arall yn amser Duw, pryd y byddwn ni yn sefyll gyda'n gilydd. Nid myfi fydd yn gofyn y cwestiynau. Un arall fydd yn gofyn y cwestiynau. A gofyn a wna nid a wnewch chwi ond A wnaethoch chwi? A wnaethoch?" Y Parchedig M. Pennant Lewis, Llanrwst a ddefnyddiodd y dyfyniadau uchod wrth annerch yng ngwasanaeth ordeinio y Parch. Cadfan Pari Owen yn Synod Talaith Cymru yn Ebrill ym Mhontarddulais. Wrth siarad am egwyddorion y weinidogaeth Gristnogol atgoffodd y gynulleidfa o sylfeini'r weinidogaeth ordeiniedig ac ychwanegodd. "Byddwch ddiwyd a rhoddwch eich gorau yn yr amlwg ond ceisiwch fod yn fwy diwyd, os oes modd, yn y dirgel. Ceisiwch bob amser amddiffyn y bywyd mewnol. Y traddodiad ysbrydol Methodistaidd yw eich cynefin chwi. Cofiwch y defnydd a wnaeth John Wesley o ddysgeidiaeth J. Taylor am oruchwyliaeth amser, am burdeb amcan a'r ymarfer o bresenoldeb Duw." Cyfeillion i Dduw Mae Sancteiddrwydd yn golygu cyf- eillgarwch â Duw. Y mae cariad Duw atom ni a'n cariad ninnau ato Ef yn tyfu, fel unrhyw berthynas rhwng pobl. Daw rhyw funud, na allwn byth ei leoli na'i ddal yn union, pan dry cyd- nabod yn gyfeillgarwch. Ar un olwg bu'r newid o'r naill i'r llall yn digwydd dros gyfnod o amser ond daw rhyw funud pan y gwyddom y gallwn ymddiried yn ein gilydd, cyfnewid a chadw cyfrinachau'n gilydd. Ryn ni'n gyfeillion. Rhaid bod munud felly yn ein per- thynas â Duw. Mae'n peidio a bod yn rhyw gydnabod dydd Sul ac yn dod yn gyfaill ddyddiau gwaith. Cardinal Basil Hume yn ei Iyfr "To be a Pilgrim". "Am un funud ofnadwy 'roeddwn i'n meddwl mai Dydd Sul oedd hi!" Diolch i Mrs. Jones am ei gwaith yn addumo'r pulpud Yn ddiwinyddol 'does gen i ddim yn erbyn ordeinio gwragedd, dim ond bod dynion yn fodau uwch Merch: "Pam mae Dadi'n dweud gweddi cyn pregethu?" Mam: "Mae'n gofyn Dduw ei helpu." Merch: (ar ôl saib) "Pam nad yw Duw'n eu helpu?"