Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Croesair Annwyl 13 Awst, 1985. AnnwylOlygydd, Dwy flwyddyn yn ôl cefais y fraint o fwynhau Cymanfa Ganu Eisteddfod Ynys Môn. Gyda'r nos ar y Sul, ar ddiwedd yr Wyl, wrth ganu'n iach o dan ddylanwad yr Ysbryd Glân yn emyn John Elias 'Ai am fy meiau i', cefais sioc fod disgwyl inni ganu'r geiriau 'A'i waed a ylch yr Ethiop du Yn lân fel eira gwyn'—a bu taw ar fy nghanu. Eto, roedd yr un geiriau yn rhaglen Cymanfa Eisteddfod y Rhyl. Roedd y pobl a ganodd y geiriau yn rhoi arian i'n chwiorydd a'n brodyr newynog yn Ethiopia y diwrnod hwnnw. Tybed, wyneb yn wyneb â'r pobl duon hynny, a fyddwn ni'n canu'r pennill hiliol hwn? Rwy'n amau. A gaf i ofyn i'n pwyllgorau sy'n dewis geiriau Cymanfaoedd i ddarllen yn fanwl cyn argraffu hen emynau yn eu crynswth rhag ofn i eiriau oedd yn dderbyniol 200 0 flynyddoedd yn ôl yn awr bod yn anner- byniol? Yn gywir, Fiona Lloyd Lewis 10 Ffordd Belmont, Bangor, Gwynedd LL57 2LL Un sgwar i lythrennau cyfansawdd. Ar draws: 1. "O sanctaidd ddinas 7. Mae dau o'r rhain mewn 'gogoniant' 8. y lle y magesid Ef. 10. broffwydes". 11. Llythrennau byddin arswyd. 12. Erlidiwr y Mab bychan. 15. Emyn Nadolig—rhan olaf. 18. Y fam fendigaid. 20. Efe Ei Hunan. 21. Rhoisant groeso mawr iddo. 22. Dilynnodd cwymp hon gwymp Jericho. I lawr: 1. Rhain ddaeth i 'Fethlem dre dirion'. 2. Gair y Gogs am 'gyda'. 3. "Duw gyda ni". 4. Gair ddaw ar ddiwedd ambell adnod yn y salmau, —heb ei ben. 5. Yr enw y fynnai Naomi. (Ruth. pen.1. adn.20.) Cywiro Cerddoriaeth Wythnos yr Eisteddfod yn Y Rhyl, ymddangosodd Caniedydd newydd O dŷ i Dŷ o'r Ganolfan Llenyddiaeth Gristnogol ym Mangor. Llwyddwyd i'w gynhyrchu am bris rhesymol oherwydd i gyfaill ymroddgar gopio'r tonau 'â llaw'. Er pob gofal, deallaf fod gwallau wedi llithro i mewn rai troeon, er enghraifft: 'Marchnant', rhif 13 (J. Ceurwyn Evans), — dau nodyn yn anghywir mewn dau 'gord', a 'Cae Del', rhif 52 (J. Ceurwyn Evans), — nodau heb eu clymu, a dotiau ar goll. Os deuir o hyd i eraill, bydd yn ddealladwy o leiaf nad yw'r cerddor ar fai. Dafydd Owen Hendre, 18 Ffordd Victoria, Hen Golwyn. Mae Ilawer ohonom yn araf i ymddiried ac yn barod i bryderu. Dywedwyd mai pryderu yw'r Ilog a dalwn ar ofidiau yfory, a'i fod ar raddfa uchel iawn hefyd! Byddai'r Esgob Quayle yn America weithiau'n eistedd hyd yr oriau mân yn pryderu. Un noson 'roedd fel petai Duw'n dweud wrtho "Quayle, cer i dy wely; mi wnai i eistedd am weddill y nos." Daeth hynny â rhyw dang- nefedd iddo. Sonia'r Beibl am Fwrw'n baich ar yr Arglwydd ac mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud. Colonel Wesley Harris o Fyddin yr lachawdwriaeth. 6. Enillodd hwn Achsa yn wraig iddo. (Joshua pen.15 adn.16-17.) 9. Dyma oedd Ef wrth ei grefft. 13. "A daeth o'r dwyrain doethion 14. Un o'r achau. (Luc pen.3. adn.29.) 16. Un a ddychwelodd at ei phobl. 17. Mae hon hefyd yn yr achau. 19. 'Nain' (heb ei phen). Undod Ni weddiodd yr Arglwydd "iddynt gychwyn trafodaethau â'i gilydd"; gweddiodd "am iddynt fod yn un." Visser 't Hooft, Ysgrifennydd cyntaf Cyngor Eglwysi'r Byd. Angen Roedd Carl Jung yn cynghori dyn oedd wedi bod yn cael triniaeth ers chwe mis ac yn gwella dim. O'r diwedd dywedodd Dr. Jung "Gyfaill, fedra'i wneud dim mwy drosot ti. Angen Duw sy' arnat ti." "Sut ddo'i o hyd i Dduw, Dr. Jung?" gofynodd y dyn. "Dwn i ddim" meddai Jung, "Ond 'rwy'n amau petaet ti'n dod o hyd i grwp o bobl sy'n credu'n ddwys ynddo ac yn treulio ychydig amser gyda 'nhw, yna gyda 'nhw fe ddoi di o hyd i Dduw." (O'r Methodist Recorder). Ryn ni'n rhyddfrydol lawn yn ein capel ni. Pedwar gorchymyn a chwech gwna gore' fedri di.