Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae afon Iorddonen yn llifo, a bu hon, eto, yn ddelwedd amlwg yn ein hemynau, delwedd o'r ffin rhwng 'anialwch' y byd hwn a gwynfyd y 'Ganaan nefol'. Tasg olaf bywyd yw croesi hon: Hen afon ddofn Iorddonen Rhaid i mi groesi hon Wrth feddwl am ei dyfnder Mae arswyd dan fy mron Mewn emyn mwy adnabyddus: Ar lan Iorddonen ddofn Rwy'n oedi'n nychlyd Wedi croesi'r afon o dan arweiniad Josua mae'r genedl ymhen hir a hwyr yn cyrraedd ac yn concro Jeriwsalem, neu, a rhoi'r enw Cymraeg arni, Caersalem (Salem weithiau hefyd). Defnyddir y ddinas hon hefyd yn ddelweddol yn emyn adnabyddus David Charles, er enghraifft: O fyniau Caersalem ceir gweled Holl daith yr anialwch i gyd a chan yr un awdur: Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd Pa bryd i'th gynteddau caf ddod? Enw arall ar y ddinas yw Seion, gair â dwy ystyr iddo yn ein hemynau, sef, yn gyntaf, Eglwys Duw ar y ddaear: Ac yn ail, dinas Duw yn y nef: Cyfunir y ddwy ddelwedd yn yr emyn: Dyna ni, felly, wedi cyrraedd Caersalem, diwedd y daith gan gychwyn yng ngwlad yr Aifft a theithio drwy'r Môr Coch, yr anialwch, heibio i fynydd Sinai a thros yr Iorddonen i wlad Israel (heddiw) a dinas Jerusalem, a'n Beibl a'n llyfr emynau yn ein llaw i'n cyfarwyddo a'n harwain a'n golueo. Bu hanes taith anturus yr Israeliaid o gaethiwed i ryddid yn ysbrydiaeth i ddychymyg cenedlaethau o feirdd ac emynwyr, yn gloddfa trosiadau a chyffelybiaethau cyfoethog dirifedi, ac yn brif ddelwedd gwaith Williams Pantycelyn. Os daw cyfle rywbryd i ddilyn y bererindod hon y bu'r Israeliaid yn ei dilyn filoedd o flynyddoedd yn ôl fe fydd y llyfr emynau Cymraeg yn 'llyfr taith' anhepgor. Bedyddiwr selog sy'n gyn-bennaeth adran Gymraeg Coleg Car- trefle Wrecsam yw awdur yr erthygl hon. Am beth 'rydych yn synfyfyrio wrth yrru ar hyd traffyrdd ein gwlad? A ydy'ch llygaid, fél fy rhaí i, yn dilyn llinell dlos y ffordd sy*n gogwyddo'n raddol o amgylch y bryn heb gornel sydyn, yn codi a disgyn yn ôl osgo'r wlad heb raddiant brawychus? A ydy'ch dychymyg yn troi, fel fy un i, I gyfeiriad y peiriannydd sifil a'l cynlluniodd; pa hafaliad differol roddodd y prydfferth- wch I grymedd y tro lleddf y ma? Codwch eich llygaid am eiliad i weld y llinell brydferth yn troelli'n fwyn tua'r gorwel, yn plethu el ffordd ar draws y wlad. Gallu dyn wedi el aslo a harddwch byd natur. Prydferthwch y greadigaeth wedi ei ategu gan beirianneg y creadur. Dyn wedi cydwelthio 0 Duw er lles a boddhad i ni i gyd. Angharad Roberts Cyduned Seion lân Mewn mawl bereiddia'i blas Fe welir Seion fel y wawr Er gwaeled yw ei gwedd Arglwydd melys ydyw cerdded I gyfeiriad Seion fryn. Wele gadarn sylfaen Seion Ar y graig dragwyddol gref Cawn dros byth mewn hoffach Seion Weld y Brenin hardd ei bryd.