Skip navigation

Cristion

 - 

17 Gorff./Awst 1986

Cynhadledd Genedlaethol Cyngor yr Eglwysi Rhyddion 1986

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
CYNHADLEDD GENEDLAETHOL
CYNGOR YR EGLWYSI RHYDDION
Cynhaliwyd y 90fed Gynhadledd Cyngor Cenedlaethol Yr
Eglwysi Rhyddion ar Fawrth 18 hyd Fawrth 20, yn
Llanelli.
Ar ôl yr addoliad dechreuol, cyfeiriodd y Llywydd at y
golled anfesurol a gafodd y Cyngor yn ddiweddar trwy far-
wolaeth ddisyfyd yr Ysgrifennydd Cyffredinol y Parch-
edig Richard J. Hamper, Y.H., M.A Yna cyflwynodd Mrs.
Dorothy Alexander, B.A, lywyddiaeth Adran y Merched o'r
Cyngor i'w holynydd Mrs. Elizabeth Proudlock. Diacones
gyda'r Bedyddwyr, o Saltash, Cernyw, yn wreiddiol yw Mrs.
Proudlock, ond yn byw yn awr yn Plymouth, ac fel Ysgrif-
ennydd Adran y Merched yn y cylch hwnnw, cyflawnodd
waith mawr gyda'r chwiorydd a'r ieuenctid ar hyd y blynydd-
oedd. Cyflwynodd anerchiad effeithiol iawn ar thema'r
Gynhadledd. Wedi canu emyn, cyflwynodd y Dr. R. Tudur
Jones lywyddiaeth y Cyngor i'w olynydd yntau y Dr.
Donald English. Ef, fel y gwyddys, yw Ysgrifennydd Cyffred-
inol Adran Y Genhadaeth Gartref, Yr Eglwys Fethodistaidd
yn Westminster. Mae'n awdur, yn bregethwr ac yn drefnydd
galluog iawn, a bu'n Llywydd Y Gynhadledd Fethodistaidd
bedair blynedd yn ôl. Cymerodd yn destun Salm 84, Cytgan y
Pererinion, ac wedi cyffwrdd â phererinion mawr yr Hen
Destament a'r Newydd, a chyfeirio at rai o bererinion mawr
yr Eglwys dros y canrifoedd, yn enwedig rhai o arweinwyr
mawr yr Eglwysi Rhyddion a'u cyfraniad arbennig hwy i
waith y Deyrnas, rhoddodd bwyslais ar neges a chenhadaeth
yr Eglwysi Rhyddion ym Mhrydain ac yn y byd sydd
ohoni heddiw.
Wedi'r addoliad a'r cyhoeddiadau bore ddydd Mercher,
traddodwyd darlith gan y Parch. J. Munsey Turner, M.A.,
Arolygwr Cylchdaith Halifax a chyn-Athro yng Ngholeg
Diwinyddol yr Eglwysi Anglicanaidd a Methodistaidd,
Queen's, Selly Oak, Birmingham. Rhoes fras olwg ar
ddechreuadau Anghydffurfiaeth a'r chwyldro gwleidyddol
yn yr ail ganrif ar bymtheg cyn symud at y Diwygiad
Methodistaidd a'r diwygiadau cymdeithasol a ddaeth yn ei
sgîl yn y ddeunawfed ganrif. Yna symud i adwaith oes Vic-
toria ac ymlaen at y cyfnod eciwmenaidd diweddar hwn a'r
rhagolygon i'r dyfodol. Hanesydd wrth reddf ac un yn gallu
â'i hiwmor a'i frwdfrydedd gynnal diddordeb ei gynulleidfa
i'r diwedd. Yn y gweddill o'r amser cyn cinio cyflwynwyd
penderfyniad cyntaf, a hwyrach, pwysicafy Gynhadledd, yn
delio â phwnc llosg apartheid yn Ne Affrica. Yn ôl y pender-
fyniad, addunedai Cynhadledd Cyngor Cenedlaethol Yr
Eglwysi Rhyddion yn Llanelli ar Fawrth 19 i weddio ac i
weithio dros newid sylfaenol yn Ne Affrica — newid a olygai
diddymu apartheid a selÿdlu llywodraeth yn cynnwys
cynrychiolwyr o bob dosbarth cenhedlig yn y dalaith a fydd-
ai'n sicrhau cyfiawnder, rhyddid a heddwch i bawb fel ei
gilydd. Datganai'r Cyngor ei fod o'r farn fod polisi torri
cysylltiadau economaidd â De Affrica gan rai gwledydd wedi
gorfodi'r Affricanwyr gwyn mewn awdurdod ail-ystyried
1986
gan E. H. Griffiths
sefyllfa wleidyddol y wlad. Yr oedd y Gynhadledd hefyd, fel
Cyngor Eglwysi'r Byd, yn datgan yn y penderfyniad, ei bod
o'r farn fod eisiau pwyso am fwy a mwy o gyfyngiadau
economaidd i brysuro'r newid gwleidyddol anorfod, ac fel
Cyngor Eglwysi'r Byd, pasiodd Y Gynhadledd i neilltuo
Mehefin 16, 1986, fel dydd ympryd a gweddi dros Dde Affrica
sef diwrnod dathlu degfed penblwydd y gwrthryfel yn
Soweto. Fel awdur 'Count me out', gallasai'r Llywydd siarad
yn huawdl o'i brofiad ei hun yn Affrica, ond dewisodd alw ar
y Dr. Kenneth G. Greet, un o Gyn-Lywyddion y Cyngor
Cenedlaethol, oedd newydd ddychwelyd o wlad gythryblus
yr apartheid, i roddi peth o'r hyn a glywsai ac a welsai.
Gwelsai greulonderau anhygoel, meddai, a phethau nas
cyhoeddir ar y cyfryngau. Yr oedd o'r farn fod y sefyllfa mor
ddifrifol fel y gallai'r cyfandir ffaglu'n aflywodraethus oni
ddêl newid gwleidyddol yno'n fuan iawn.
Ffydd yn y Ddinas
Ar ól cinio, cyflwynodd y Parch. Martin Robinson, Bir-
mingham, adroddiad pwysig comisiwn Eglwys Loegr ar
gyflwr crefydd a chymdeithas ym maesdrefi'r dinasoedd
mawr sef FFYDD YN Y DDINAS. Anfonwyd talfyriad o'r
adroddiad swmpus hwn i'r cynrychiolwyr cyn y Gynhadledd
a bu hynny a chyflwyniad un oedd yn hyddysg a'r sefyllfa yn
Birmingham, y ddinas ail o ran maint ym Mhrydain, yn help
mawr i rai o'r cynadleddwyr i werthfawrogi'r cymhlethdodau
yn y dinasoedd, mewn cyfnod pan geir cymaint â hanner
miliwn o Hindwaid a Siciaid, a miliwn o Fwslemiaid ym
Mhrydain. Fel yn rhai o adroddiadau y Llywodraeth a 'Mis-
sion Alongside the Poor' gan yr Eglwys Fethodistaidd,
tanlinellir y problemau cymdeithasol ac economaidd, pro-
blemau yr amgylchedd a phroblemau cyfraith a threfn.
Dangosir yn eglur iawn fod llawer o dlodi, unigedd a
phroblemau gyda'r henoed a phlant dan bump oed yn y
rhanbarthau aml-hiliol ac aml-sectol o'r dinasoedd mawr.
Nid heddlu lluosocach a chosbau trymach yw'r ateb, medd-
ai'r adroddiad. Rhaid wrth fwy o waith, wrth well cyfleus-
terau addysg, rhaid wrth welliantau yn yr amgylchedd ac
wrth wasanaeth iechyd teilwng. Rhaid delio â'r achosion gan
fod y cyni yn codi o'r cwynion. Cydnebydd yr Adroddiad na
all yr Eglwys ddiddymu diweithdra, ond rhaid iddi
wrthwynebu polisïau economaidd anfoesol. Mae'r dasg yn
rhy fawr i Lywodraeth neu'r Eglwys ar wahân. Rhaid wrth
gydweithrediad rhwng y Cyrff statudol a'r Cyrff gwirfoddol,
rhaid wrth gydweithrediad rhwng Llywodraeth Ganolog a
Llywodraeth Leol, a rhaid wrth gydweithrediad rhwng
eglwysi o bob enwad ynglyn ag adeiladau, adnoddau a
gweinidogaeth. Yr oedd angen hyfforddiant arbennig yn y
weinidogaeth hon ac angen cyrsiau adnewyddol achlysurol
ynddi hi, ac angen hyfforddi mwy a mwy o'r lleygwyr, a mwy
a mwy o'r chwiorydd. Croesawodd y Gynhadledd yr
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.