Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adroddiad yn gyffredinol, yn enwedig y pwyslais ar werth a hawliau'r unigolyn, y pwyslais ar gydweithrediad eciw- mena'dd, a'r pwyslais ar le'r lleygwyr a'r chwiorydd. Cymeradwywyd yr Adroddiad i sylw manwl y Cynghorau taleithiol a'r eglwysi unigol. Cyflwynwyd Adroddiad newydd Pwyllgor Ymgyrch yn erbyn Gyrwyr Meddw (1986) i'r Gynhadledd. Priodolid y cynnydd mawr mewn damweiniau a'r lladd ar y ffyrdd dros y blynyddoedd diwethaf hyn yn uniongyrchol i'r ddiod feddwol a galwai'r penderfyniad am ostwng y lefel 0 160 miligrams o Alcohol yn y gwaed a ganiateir yn gyfreithlon ar hyn o bryd i yrwyr moduron, am gosbau a dirwyon trymach i droseddwyr a brofiryn euog, ac am fesurau eraill i ddiwygio'r ddeddf ac i amddiffyn y cyhoedd. Pasiwyd i ofyn i'r Cynghorau a'r Eglwysi lleol astudio'r adroddiad yn ofalus iawn a gweithredu, ac i roddi gwybodaeth i'r Cyngor Canolog yn Tavistock Square, Llundain, am eu hymateb i'r adroddiad pwysig hwn. Trafodwyd penderfyniad gan Gyngor Leicester yn datgan anfodlonrwydd ar gynnwys darllediadau crefyddol y BBC a'r IBA, fel ei gilydd. Y gwyn oedd fod gormod o'r cynnwys yn ddadleuol a rhy ychydig o ddarlledu crefyddol uniongred. A gormod o ymhel ag astroleg, ofergoeliaeth a'u tebyg ar Deledu Amser Brecwast. Cafwyd trafodaeth fywiog a budd- iol ar y pwnc pwysig hwn, ond er gwell er gwaeth, pasiwyd i ymatal rhag anfon y penderfyniad ymlaen y tro hwn! Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol am holl waith y Cyngor, yn wyneb y golled eleni, gan yr ysgrifennydd Cynorthwyol ac Ysgrifennydd Bwrdd y Caplaniaid — y Parch. David M. Main, BSc, yn ogystal â'i adroddiad arferol am waith Bwrdd y Caplaniaid dros y flwyddyn ddiwethaf. A'r adroddiadau cyllidol gan yr Ysgrifennydd Cyllidol, Mr. A E. J. Berry, a derbyniwyd yr adroddiadau fel rhai cywir. Rhoddwyd croeso dinesig i'r cynrychiolwyr yn hen Neuadd y Dref brynhawn ddydd Mercher gan Faer a Maeres y Fwrdeisdref, y Cynghorydd a Mrs. Griffith Jones. Wedi'r te croeso, cyflwynwyd rhoddion i brif a chyn-brif swyddogion Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion er cof am yr achlysur. Amheuthun oedd cael y fath groeso a chefnogaeth gan Gyngor y Fwrdeisdref, Cyngor y Dref a Chyngor y Gymuned a gweld y meiri nid yn unig yn y croeso dinesig ond yn y Cyfarfodydd Cyhoeddus a'r Cymun Sanctaidd ynghyd â'r Aelod Seneddol — Mr. Denzil Davies. Ar ben hynny, Maer y Fwrdeisdref yn arwain y gynulleidfa fawr mewn gweddi ar ddechrau'r Cyfarfod Cyhoeddus nos Fercher a Chôr Meibion Llanelli, nid yn unig yn cyfrannu i'r Cyfarfod ond yn rhoddi hanner awr gwefreiddiol o wasanaeth cyn y Cyfarfod. Mewn cyfnod mor brysur mewn pethau seciwlar ond mor ddifater yn grefyddol, dyma ryw- beth gwerth ei adrodd. Rhwng cyfraniadau'r Côr cafwyd pre- geth hanesyddol ac efengylaidd gan y Dr. Raymond Brown, Prifathro Coleg Spurgeon, Llundain, a chyn-weinidog Eglwysi'r Bedyddwyr yn 'Zion', Caergrawnt ac 'Upton Vale' yn Torquay. Cymerodd yntau, fel y Llywydd o'i flaen, Salm y Pererinion yn destun, ac ymdriniodd yn feistrolgar â lle y profiad efengylaidd, lle rhyddid a lle gwasanaeth (addoliad, gweinidogaeth a chenhadaeth) yn nhraddodiad yr Eglwysi Rhyddion ddoe a heddiw. Diweddglo eneiniedig Peth doeth oedd newid lleoliad Gwasanaeth Coffa a Gwasanaeth Cymun y Gynhadledd fore ddydd Iau' o Gapel y Presbyteriaid Saesneg lle bu'r eisteddiadau i Gapel Moriah (B), lle bu'r Cyfarfodydd Cyhoeddus. Llanwyd y capel i'r ymylon i'r cyfarfod eneiniedig hwnnw dan arweiniad cyfoethog a chrisialaidd y Llywydd. Darllenwyd y llithoedd gan weinidog yr Eglwys y Parch. Dewi Davies (Cyn- rychiolydd Cymru ar y Cyngor Canolog ac Ysgrifennydd Bwrdd y Caplaniaid dros Gymru) a Mrs. Elizabeth Proudlock, Llywydd Adran y Merched, a chymerwyd y rhan goffaol o'r gwasanaeth pan roddwyd teyrnged i'r diweddar Barch. J. Hamper ac eraill o'r swyddogion taleithiol ymadawedig gan yr Ysgrifennydd Cynorthwyol y Parch. David M. Main. Amheuthun oedd cael merch ifanc ddisglair sef y Parchedig Ddr. Frances Young, awdur a darlithydd gyda'r Eglwys Fethodistaidd yn Selly Oak, Birmingham, yn bregethwr gwadd. Cymerodd yn destun: 'Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd' (II Corinthiaid 10,17). Olrheiniodd yr adnod i'r proffwyd Jeremeia (9,23-24, un o destunau mawr y Dr. D. Tecwyn Evans, fel y cofia rhai ohonom ni). Dechreuodd trwy ddadansoddi cymeriad cymhleth Jwdas Iscarioth a fradychodd yr Arglwydd Iesu Grist oherwydd iddo fethu ag adnabod ei gariad. Gall rhin- weddau dyn droi'n eilunod. Dywaid yr Apostol yn ei epis- tolau at y Corinthiaid y gallai ymffrostio yn ei brofiadau mawr ar y ffordd i Ddamascus ac o'r drydedd nef, yn ei gymeriad 'yn ôl sect fanylaf o grefydd yr Iddewon yn Pharisead', ac yn ei waith a'i orchestion dros Grist a'r deyr- nas', ond gwelodd nad oedd ganddo, fel y proffwyd o'i flaen, ddim i ymffrostio ynddo ond gras Duw. Gall pethau gorau traddodiad yr Eglwysi Rhyddion hefyd, sef ein hymffrost mewn profiad, rhyddid a Beibl agored droi'n eilunod, medd- ai'r pregethwr, os y defnyddir hwy i gaethwio yn hytrach nac i ryddhau. Pwysleisiodd fod y gwirionedd fel y ceir ef yng Nghrist Iesu yn rhy fawr i'w grebachu i lythrennau a sys- temau ac o ymresymiad i ymresymiad deuai'r testun: Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd' yn gytgan darawiadol. Pregeth fawr, ysgrythurol a chyfoes gan ferch y bydd eto mwy o sôn amdani yn y man. Coron y Gynhadledd oedd cymdeithas Teulu Duw wrth y Bwrdd pan wireddwyd un o benillion Charles Wesley a ganwyd: 'Love, like death, hath all destroyed, Rendered all distinctions void; Names and sects, and parties fall: Thou, O Christ, art all in all.' Wedi'r fath groeso yn y dref ac yng nghartrefi'r lletywyr, ac wedi'r fath arddeliad, gresynai rhai o'r cynrychiolwyr mai Cynhadledd Llanelli oedd yr olaf o gynadleddau blynyddol y Cyngor. Cynhelir y nesaf yn ninas Nottingham ym Mehefin 1988, blwyddyn fawr dathlu Mesur Hawliau Dynol 1688 yn Lloegr a dathlu Cyfieithiad Beibl yr Esgob William Morgan o'r Beibl Cymraeg a chyhoeddiad y Cyfieithiad Cymraeg newydd yng Nghymru, ac wedi hynny, cynhelir Cynhadledd yr Eglwysi Rhyddion unwaith bob tair blynedd.