Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd yn esgob ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. 'Rwy'n edmygwr mawr o'r Esgob Richard Davies, y Piwritan a'r Cyfieithydd, ac yn meddwl yn ami am y sgyrsiau mynych a gafodd ef â William Salesbury yn hen Balas yr Esgob drws nesa', ac fel y bu iddyn nhw anghytuno ynglyn ag ystyr gair, fel na ddaeth Salesbury yn agos i'r lle byth wedyn a gadawyd y dasg o gyfieithu'r Beibl heb ei gorffen. Gol: Rwy'n sylwifod Palas yr Esgob yn Amgueddfa erbyn hyn a'ch bod chi'n byw mewn tý llai o lawer. Ydy hynny'n arwydd allanol o'r newid a ddigwyddodd yn safle'r Esgob? G.N: Mae'n newid 'rwy'n groesawu fel gwerinwr o Fwlchllan, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n haws gan Jean y wraig edrych ar ôl y tŷ hwn na meddwl am lanhau'r hanner cant o ystafelloedd sydd yn yr hen Balas. Codwyd y tŷ hwn, Llys Esgob, rhyw ddeuddeng mlynedd yn ôl ac fe godwyd Swyddfa'r Esgobaeth yn gysylltiedig ag efyn ymyl stablau'r hen Balas. 'Roedd yr hen esgobion yn Breladiaid, ond nid dyn ar wahân yw'r Esgob heddi', ond un o'r bobl. Cofiwch chi, mae'r ffaith fod dyn yn cael ei wahodd yn rhinwedd ei swydd i gynifer o gyfarfodydd a dathliadau seciwlar yn ychwanegu'n fawr ar brysurdeb bywyd. Mi hoffwn i'n fawr petai gen i gaplan personol a allai ymchwilio i fewn i hanes a sefyllfa'r cymdeithasau hynny 'rwy'n derbyn gwahoddiadau oddi wrthynt, ond dyw hynny ddim yn bosib, ac mi rydwy'n gorfod gwneud y gwaith ymchwil fy hunan. Mae gyrru'r car yn mynd ag amser hefyd, mae gen i dros awr a chwarter o siwrne o Abergwili i'r Eglwys Gadeiriol yn Nhy Ddewi, a chan fod yr esgobaeth yn ymestyn o Bontarddulais i Fachynlleth, bron, fe fyddafyn teithio bum mil ar hugain o filltiroedd o'r naill le i'r llall oddi fewn i'w ffiniau bob blwyddyn. Gol: Does gennych chi ddim llawer o amser hamdden felly? G.N: Na, dim i sôn amdano. 'Roedd Stuart Blanch yn eistedd yn yr un gadair â chi rai dyddiau'n ôl ac yn dweud ei bod hi'n bwysig neilltuo'r bore, hyd at un o'r gloch, i ddarllen ac ysgrifennu, ond ni lwyddais i wneud hynny erioed. Bu gen i ddiddordeb mewn golff a chriced, ac mi rydwy'n llwyddo i bysgota rhyw hanner dwsin o weithiau'r flwyddyn ar ôl deg o'r gloch y nos gan fod yr afon mor agos. (joi: tejuoch chi ar lan afon arall yn ddiweddar ma pan fuoch chi'n cynrychioìi'r Eglwys yng Nghymru yng Nghynhadledd Cyngor Eglwysi'r Bydyn Fancwfer. A fu 'r daith honno 'nfodd ichi ddyfnhau eich diddordeb eciwmenaidd? G.N: Roedd y diddordeb hwnnw'n bresennol o'r dechrau ac yn cael ei fynegi yn y cyd-weithio naturiol pan oeddem ni'n mynd i Gymdeithas y Bobl Ifainc yng Nghapel Bwlchllan a'r capelwyr yn dod i'r eglwys. Fe'i cefais hi'n waith hawdd cyd- weithio'n eciwmenaidd yn y plwyfi y bûm ynddynt, yn enwedig yn Eglwys Gymraeg Dewi Sant, lle'r oeddwn i'n teimlo'n agos at eglwysi Ymneilltuol Cymraeg Caerdydd, ac yn gwneud mwy â'u gweinidogion nac â'm cyd-offeiriaid yn y brifddinas a'r esgobaeth. Ond yr oedd mynd i Fancwfer yn brofiad arbennig. 'Roedd hi'n ysbrydoliaeth cyfarfod â phobl fel Desmond Tutu ac Allan Boesak, ac eraill o gyffelyb fryd, a deall nad ydym ni yng Nghymru yn ddim ond un rhan fechan o sbectrwm amrywiol a chyfoethog yr Eglwys Fyd-Eang. Fe ddes i yn ôl o Fancwfer gyda gobaith newydd. Wedi cwrdd â'r saint yn y fanno ac yn y cysylltiadau personol â phersonau arbennig, yn fwy nac mewn cyfarfodydd yn gwrando ar anerchiadau cyhoeddus, y cefais i'r wefr fwyaf fe agorwyd fy llygaid i weld rhywbeth mwy nad oeddwn i wedi ei ddirnad o'r blaen. Fe gefais weld nad oes hawl gennym ni i anobeithio fel Cristnogion. Gol: I droi yn nes gartref ac at faterion eciwmenaidd yng Nghymru ga' i ofyn i chi beth yw'ch barn chi am ddrafft Com- isiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru ar batrwm y weinidogaeth? G.N: Cyfeirio ydych chi at gynnwys y ddogfen 'Gweinidogaeth mewn Eglwys sy'n Uno: o gydnabod i gymod'. 'Rwy'n croesawu'r ddogfen. Gan inni gyfamodi â'n gilydd fel eglwysi gwahanol ry'm ni'n rhwym o fwrw ymlaen i'r cyfeiriad hwn. Er mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydw' i'n hollol fodlon â'r amserlen gan ei bod hi'n tueddu at frysio pethau. Mae'r broses o gyd-fyw ac o gyd-dyfu yn un araf, er bod perygl arall hefyd, sef ein parodrwydd i aros yn ein hunfan.