Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EIN MAM, YR HON WYT YN Y NEFOEDD "EIN MAM, yr hon wyt yn y nefoedd?" Testun i bregeth ffeminyddol, debyg! Ie, ond gwryw sy'n sgrifennu, wedi cael cip ar y weledigaeth fod gan y syniad am Dduw'r Fam rywbeth i'w ddysgu inni am agwedd Duw at bechadur. Cofio'r oeddwn am gyfaill yn sôn amdano'i hun yn siarad â'i dad cyn mynd i'r coleg am y tro cyntaf (lawer blwyddyn yn ôl) ac yn gofyn ei gyngor ynglyn â'r ddiod. Roedd mam y cyfaill yn ddirwestwraig weddol selog, lle y byddai'r tad yn yfed ei beint yn ei dro; ond dyna a ddywedodd ef wrth ei fab, "Rwy'n gwybod na fyddet ti ddim am wneud dim a fyddai'n tristáu dy fam." Roedd hynny, meddai'r cyfaill, yn llawer mwy effeithiol nag unrhyw bregethu na tharanu. Ac o ran hynny, oni chlywsom ni am aml un yn dweud fod arno lawer mwy o ofn tristáu ei fam na chynddeiriogi'i dad? Yn hynny y mae'r weledigaeth: tristáu Duw y mae ein pechod ni ddynion (yn wryw a benyw), nid ei gynddeiriogi. (A phan feddyliwn am darddiad y gair cynddeiriog, fe ddeallwn mor anweddus yw breuddwydio am ei arfer am Dduw er imi weld yr ymadrodd "cynddaredd gyfiawn" yn rhywle. Clefyd y ci gorffwyll yw'r gynddaredd, ac yn ôl Cyfraith Hywel, nid oedd dyn yn y clefyd hwnnw, dyn cynddeiriog, yn gyfrifol am ei weith- redoedd.) Ni all fod cynddaredd yn Nuw, ond fe all fod dicter: mae dicter yn gallu bod yn gyf- rifol. Ond os meddyliwn am Dduw'r Fam gallwn weld nad dicter at y pechadur sydd yn Nuw. Tristau'r fam ddaearol y mae camymddygiad ei phlentyn; dyna'r effaith hanfodol, ond fe all y camymddygiad ennyn yn y fam ddicter at y camym- ddygiad, at y posibilrwydd i'w phlentyn wneud y cam. Bwrier mai meddwi yw'r camymddygiad (am ei fod yn ffurf hwylus i'w drafod): gofidio y mae'r fam fod ei phlentyn wedi meddwi: mae'n siomedig nad yw'n ddigon cryf ei gymeriad i sefyll yn erbyn temtasiwn. Ond mae hi'n teimlo'n ddig wrth y cyfeillion cryfach a fu'n cymell y ddiod; yn ddig wrth y ffasiwn sy'n tybio na ellir bod yn llawen heb ddiod feddwol; yn ddig wrth y masnachwyr sy'n hys- bysebu'r ddiod er mwyn chwyddo'u helw; ac yn ddig wrth y gyfraith sy'n caniatáu cymaint rhyddid i'r fasnach a'r ffasiwn. Rhywbeth yn debyg yw hi gyda Duw'r Fam: rhywbeth yn debyg, cofier, oherwydd rhywbeth yn debyg i'r gwirionedd yw'r cwbl y gellir ar y ddaear ei ddweud am Dduw. Ac yn yr ymdrech i ddod yn nes at y gwirionedd, mae llu o adnodau ac emynau'n dod i'r meddwl. "Ydwyt lanach YR ATHRO EMERITUS DAFYDD JENKINS dy lygaid nag y gellir edrych ar ddrwg", meddai Habacuc (i. 13) wrth Dduw -ond nid yw hynny'n golygu na all Duw edrych ar y drwgweithredwr; yn wir, roedd Habacuc yn achwyn yn yr un adnod fod Duw yn edrych ar y drwgweithredwr: "paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?" Onid felly y mae'r fam yn dal i edrych ar ei phlentyn ac yn pallu edrych ar ei drosedd? Fe garai Duw'r Fam edrych ar y plentyn ac edrych heibio i'r pechod. Ond weithiau mae'n amhosibl iddi Hi wneud hynny, am fod y plentyn yn mynnu ymguddio yn y pechod. Bydd mam ddaearol weithiau yn methu edrych ar ei phlentyn am fod pechod wedi'i newid cymaint fel na all hi ei weld mwyach: nid oes ganddi ond troi ei golwg i ffwrdd. A dyna y mae Duw'r Fam yn ei wneud, weithiau: mae'n gorfod troi ei golygon oddi wrth y plentyn, gan ei roi i fyny i fynd ei ffordd ei hun (cf. Actau vii. 42). Dyna sydd esmwythaf i'r plentyn, mae'n debyg. Oherwydd "ein Duw ni sydd dân ysol", a phetai Duw'n edrych arnom ni, byddai'r tân hwnnw o anghenraid yn ysu'r drwg sydd ynom yn llwyr Ac wrth losgi'r drwg, byddai'r tan yn anorfod yn deifio'r drwgweithredwr: fel na all y fam ddaearol dyneraf beidio â dolurio'r plentyn wrth sôn am y ddrwgweithred, er iddi allu peidio â dannod i'r plentyn. Ac mor aml y mae'n CWIS YSGRYTNUROL 1. Pwy laddodd lew mewn pydew yn amser eira? 2. Pwy laddodd 'fab y cawr', gwr corffol â chwech o fysedd ar bob llaw iddo a chwech ar bob troed? Pa berthynas ydoedd i Dafydd? 3. Pwy oedd y cymwynaswr mawr a dref- nodd godi Jeremeia o'r daeardy? 4. Pa sawl blwyddyn a ychwanegwyd at einioes y brenin Heseceia? 5. Trwy ba sawl gradd y dychwelodd y cysgod ar ddeial Ahas fel prawf o adferiad Heseceia? 6. Wrth pa waith oedd Gideon pan ymddangosodd yr angel iddo dan y dderwen yn Offra? 7. O ba ddinas y dihangodd Paul trwy ffenest mewn basged? 8. Mewn sawl llongddrylliad y bu Paul? 9. Enwau pa dduwiau paganaidd rod- dodd trigolion Lystra ar Paul a Barnabas? digwydd fod y mab neu'r ferch yn methu wynebu'r fam, o wybod mor dost y bydd tân cariad y fam yn serio'r gydwybod. Felly'r ým ni wrth fethu wynebu Duw: mae gennym reswm da i ofni'r tân ysol. Ond roedd Pantycelyn wedi'i gweld hi, yn y pennill: 'Rwy'n dy garu, er na's gwelais, Mae dy gariad fel y tân; Nis gall nwydau cryfa'm natur Sefyll mymryn bach o'th flaen; Fflam angherddol Rywbryd ddifa'm sorod yw. 10. Am bwy y dywed Paul, "canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd ganddo gywilydd o fy nghadwyn i: eithr pan oedd yn Rhufain efe a'm ceisiodd i yn ddiwyd ac a'm cafodd".? Atebion Haydn Davies