Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y naill a'r llall. Ni phwysleisiai Calvin, fel y gwnaeth Luther, yr ollyngdod a geid wrth ryddhau o hualau'r hen gyfraith a derbyn yr Efengyl. Prif thema'r Institutes yw'r gred yn hollalluogrwydd Duw. Ef yw canolbwynt y cread: pwysleisid yr elfen theosentrig a mawrheid sofraniaeth a rhagluniaeth Duw, ffynhonnell pob realaeth. Rhoir gan Galvin lawer mwy o Ie i drafod hynny sef y weledigaeth o natur Duw nag i unrhyw agwedd arall ar ei ddiwinyddiaeth. Ystyrid bod dyn yn eiddo Duw; dyletswydd y credadun yw ei aberthu'i hun i Dduw a thrwy hynny ei uniaethu'i hun â'r hollalluog. Grym difesur Duw a phechod y ddynoliaeth — dau wirionedd mewn cyferbyniad â'i gilydd a wnâi i Galvin wrthod derbyn syniadau optimistaidd dyneiddwyr ei ddydd ynglyn â rhyddid ewyllys dyn ynghyd â chyfriniaeth ysgolheigion tebyg yn Ffrainc. Ymddengys y ddisgyblaeth Galfinaidd yn y penderfyniad di- ildio i gydnabod natur y tyndra a fuasai rhwng y reddf ddynol tuag at bechod a bwriadau Duw ar gyfer dynoliaeth gyfan. Cam hanfodol i geisio cau'r bwlch rhwng y tragwydd- ol a'r meidrol ffaeledig ydoedd dyfod Crist i'r byd i waredu pechaduriaid. Nid y pwyslais ar yr elfen theosentrig yn unig, fodd bynnag, a geid yn yr Institutes oblegid ystyrid bod gan Grist hefyd gyfraniad canolog i'w wneud er budd ysbrydol i bechaduriaid. Datgenid bod Duw yn ffynhonnell gwaredigaeth drwy Ei Fab. Cyflwyno'r Dadleuon Wrth graffu'n fanylach ar y thema hon ymddengys fod Calvin ar ei fwyaf aeddfed yn feddyliol yn argraffiad cyntaf yr Institutes. Cyflwyna ei ddehongliadau o fewn fframwaith pedair adran Credo'r apostolion, a rennid ganddo'n bed- war Llyfr, sef adnabyddiaeth o Dduw y Creawdwr; adnabyddiaeth o Dduw y Gwaredwr; derbyn gras Crist, a'r ddulliau ymarferol o sicrhau iachawdwriaeth. Dadleuid na allai dyn oblegid ei bechod adnabod Duwer iddo arddangos ei dduwdod yn y greadigaeth. Canlyniad hynny oedd na feddai dyn ar yr adnoddau i'w anrhydeddu na'i addoli, yn bennaf fel Creawdwr. Dehonglid y cyfanfyd gan Galvin yn greadigaeth Duw na ellid ei lwyr werthfawrogi ond drwy ddarllen y Gair. Yn yr ail Lyfr datgennir nad gwybodaeth o Dduw'r Creawdwr yn unig sy'n bwysig eithr yn hytrach ei dadolaeth yng Nghrist. Ni all y pechadur drwy ei ymdrechion ei hun droi o'i bechod at gyfiawnder. Y Crist byw a chroeshoeliedig yw'r Cyfryngwr a'r Achubwr drwy gymryd arno'i hun feichiau euogrwydd y byd. Unir y Tad â'i blant yng Nghrist. Cymhwysir y bendithion a geid gan y pechadur yn y trydydd Llyfr i dermau realaeth drwy'r Ysbryd Glân. Trwyddo daw'r crediniwr at Grist a'i ddilyn. Fe'i cryfheir yn ei yrfa Gristnogol drwy bererindod, ffydd, edifeirwch, hunan-ymwadiad a gweddi. Rhan o gynllun tragwyddol Duw oedd creu dyn yn fab iddo yng Nghrist, a rhagor- deiniwyd yr etholedig i'r deyrnas nefol tra y diystyrid y dif- reintiedig. Trwy ras yn unig yr etifeddid y bywyd llawn yng Nghrist. Yn y Llyfr olaf dadlennir nad mewnblygol yn ei hanfod yw adfywiad ac atgyfnerthiad y credadun; yn hytrach fe'i cyfiawnheir ac fe'i grymusir gan ei weithredoedd o fewn yr eglwys ac oddi allan iddi. Hi yw'r corff a ddefnyddir gan Grist i adfer dyn a'r greadigaeth. Gweinidogaeth yr eglwys a INSTITVTIO CHRI- ítianxrcligionis,in libros ciua- tuor nunc primùm digcü-.ccruíjuc dtíliníU capitibw, ad .ptiirinum mcthodum magna accethine vr propcmodum opus nouum hibcii poflìt. IOHANNE CALYINÔ AYTHORE, Oliua Roberti Stcphani. eilw'r etholedig a thrwyddi fe'u cyfiawnheir ac fe'u sanc- teiddir. Prif orchwyl y weinidogaeth honno oedd pregethu Efengyl Crist. Derbynnid aelodau iddi drwy fedydd a chyfoethogid eu buchedd gan neges yr Efengyl honno a'r sacrament o Swper yr Arglwydd. Purwyd a chywirwyd yr eglwys drwy ddisgyblaeth lem. Y Prif Gyfraniad Diwinyddol Dengys Calvin fod ganddo fwy o ddiddordeb yn Nuw y Creawdwr a'r Gwaredwr nag mewn dyn. Dyna yw hanfod yr Institutes. Iddo ef datblygiad pellach ym mawredd Duw yw iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol. Iddo ef hefyd gwir arwyddocâd y greadigaeth yw ei bod yn ymgorfforiad o'r Duw cyflawn holl-gynhaliol. Heb y cwymp gallai dyn fod wedi adnabod Duw yn y greadigaeth honno; parodd profiad Gardd Eden fwlch rhyngddo â'r Hollalluog. Yr ymgnaw- doliad yng Nghrist a fu'r cyfrwng i bontio'r gagendor. Yn y profiad hwnnw y daethai'r ddynoliaeth i adnabod y trag- wyddol anweledig; trwy ffydd a weithredid yn y byd real yr adnabyddid Duw y Tad. Gellir dweud mai amcan Calvin oedd ailgyfeirio'r meddwl diwinyddol o gylch iachawdwr- iaeth yr unigolyn i gylch neu fyd trosgynnol y cyfanfyd. Dyna, yn ddiau, ei bennaf gyfraniad i ddiwinyddiaeth y Diwygiad Protestannaidd. Cytuna â Luther mewn Cyfiawnhad drwy Ffydd rhodd y Duw trugarog i'r credadun ond cymaint fu pwyslais Calvin ar Dduw'n han- fod y greadigaeth fel y bu iddo fynd rhagddo i gyflwyno'i gred mewn etholedigaeth ddeuol y rhai a ragordeiniwyd i'r bywyd tragwyddol a'r gweddill truenus a wrthodwyd. Rhagordeiniad trwy Ras Nid oedd athrawiaeth y rhagordeiniaid trwy ras fel y cyfryw yn hollol newydd ac yn sicr nid Calvin a'i lluniodd. Fe'i ceid