Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn epistolau Paul ac yng ngweithiau Awstin Sant, Aquinas a chyfoeswr Calvin, sef y diwygiwr Almaenig Martin Bucer. Bu iddi draddodiad parchus yn hanes dogma'r eglwys. Er na roddai Calvin y pwyslais mwyaf arni fe'i trafodid yn fanylach ganddo ef ac fe'i gosodid ganddo yng nghyd-destun cyfiawnder digyfnewid Duw. Ers cyn amser, meddai, rhagor- deinid gan Dduw yr achubid rhai ac y condemnid eraill. Ni cheisia ddatrys y dirgelwch ynglyn â natur athrawiaeth etholedigaeth trwy ras na'rcyfiawnhad drosto. Rhaid i bawb, meddai, fyw mewn gobaith y gwaredid hwy yng Nghrist. Ystyrid bod yr etholedig yn bendefigaeth freiniol drwy ras Duw, ac yn esiampl o ufudd-dod oblegid eu hymdrechion i wrthsefyll pechod. Yn groes i ddaliadau Calvin, fodd bynn- ag, ymysg ei ddilynwyr daethai'r bendefigaeth rasol yn endid gymdeithasol a ymhyfrdai mewn hunan-foddhad ysbry- dol. Wrth ddilyn athrawiaethau Calvin am natur eglwys ac ystyr y sacramentau gwelir eu bod hwythau hefyd yn dilyn ôl llwybrau Paul ac Awstin. Credai fel Luther mai cymdeithas y saint oedd yr eglwys anweledig ond rhoddai fwy o bwyslais ar ddisgyblaeth eglwysig o fewn yr eglwys weledig nag a wnâi Luther ac Ulrich Zwingli o'r Swisdir. Rhoddai hefyd fwy o amlygrwydd i awdurdod yr ysgrythurau cyflawn. Credai fod aelodaeth o gymdeithas credinwyr yn hanfodol: drwy'r wir eglwys ar y ddaear y gwnaed buchedd y Cristion yn bosibl. Yr Institutes a'r Drefn yng Ngenefa Bu'r Institutes yn gyfrwng effeithiol i sefydlu theocrasi yng Ngenefa ac i osod sylfeini eglwysi Calfinaidd drwy ogledd Ewrop a'r Byd Newydd. O'r holl ffactorau a fu'n gyfrifol am lwyddiant mudiad Calvin a chynigiwyd sawl rheswm gan haneswyr o bob lliw politicaidd dros y blynyddoedd yn ddiamau y gred mewn rhagordeiniad a threfn eglwysig ddisgybledig yw'r pwysicaf. Bu i gyhoeddiadau Calvin roi i'w ddilynwyr hyder a sicrwydd bod Duw gyda hwy er garwed pob erledigaeth. Fe'u cynorthwywyd gan yr eglwys yng DADFYTHU'R NADOLIG Rai blynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd cyfrol werthfawr o farddoniaeth wedi ei darparu ar gyfer plant ysgol. Ynddi argraffwyd tair cerdd yn ymwneud â'r Nadolig, a'r dair. yn awgrymog. yn llym eu beirniadaeth ar y modd y dathlwn yr ŵyl. Awgymodd Iorwerth Lloyd fod elfen o ffair yn ein dathlu: Tybed a gawn ni bardwn gan Fab Mair Am ddathlu ei benblwydd fel ffyliaid ffair? Yr elfen o ddihangfa yn ein dathlu a ddaeth o dan lach Mathonwy Hughes: Ngenefa i weithredu'n egnïol a thanbaid dros eu hachos am fod ganddynt ffydd yn ei dyfodol hi. Gosodwyd ei sylfeini yn yr Ecclesiastical Ordinances (Ordonnances Ecclésiastiques) a luniwyd gan Galvin ym 1541. "Nid oes unrhyw fodd arall i fynd i mewn i'r bywyd', meddai yn yr Institutes, 'os na feichiogir ni yn ei chroth [sef yr eglwys] ac iddi roi genedigaeth inni; os na feithrinnir ni yn ei chalon a'n gwarchod â'i hymgeledd a'i harweiniad y tu allan iddi nid oes obaith am faddeuant pechodau nac iachawdwriaeth'. Rhoddodd campwaith Calvin — a gynhwysai bedair pennod-ar-hugain erbyn 1559 gyffes ffydd eofn i ddiwygwyr pybyr Genefa yn y cenedlaethau i ddod. Ei Waddol Ysbrydol Yn ei ddyddiau olaf ym 1564 anogodd Calvin ei ddigyblion i barhau i gynnal a nerthu eu daliadau, a meithrin brawdgarwch ac ymddiriedaeth lwyr ymhlith ei gilydd. Mewn cyfnodau o argyfwng i Brotestaniaeth yn negawdau olafyr unfed ganrif ar bymtheg parhaodd ei dystiolaeth ef arweinydd mawr yr ail genhedlaeth o ddiwygwyr — yn dwr cadarn deinamig, a bu ei ddilynwyr yn flaengar yn y frwydr ddi-ildio'n erbyn Pabyddiaeth. Twr cadarn fu Calfiniaeth hefyd i'r emynydd hynod hwnnw, John Williams o Sain Tathan, Bro Morgannwg, dros ddwy ganrif yn ddiweddarach, pan ganodd yn orfoleddus am fawredd aruchel Duw ac am ei ras a'i allu gwaredigol yng Nghrist: Pa feddwl, pa madrodd, pa ddawn, Pa dafod all osod i maes, Mor felys. mor helaeth, mor llawn, Mor gryf yw ei gariad a'i ras? Ymaflodd mewn dyn ar y llawr, Fe'i dug ef a'r Duwdod yn un: Y pellter oedd rhyngddynt oedd fawr, Fe'i llanwodd a'i haeddiant ei Hun. Maurice Loader Wrth droi'n fwystfilod unpryd uwch y wledd, Wrth farus lowcio'r wydd a chladdu'r pore, Wrth lyncu'r pwdin cyn ymsuddo i sedd A blysio blas y gwin cyn tynnu'r corc; Na thorrer ar ein clyw drwy'r glustog glyd Grawc llyffaint newyn boliau gwag ein byd. Aeth un bardd. Llwyd Williams, gam ymhellach yn ei feirniadaeth: Cleddwch yr Wyl, eiddo Mamom yw mwyach, Mamon a masnach, miri a medd, Gwisgasoch yr Iesu yng nghlogyn Santa A phlannu'n ddiwreiddiau y goeden a'r tinsel Lie gynt y bu'r groes. Cleddwch yr Wyl.