Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDORIAETH YSBRYDOLEDIG Diau y bydd record "Teilwng Yw'r Oen" i'w chlywed droeon y Nadolig hwn eto; ond tybed sawl un ohonoch sy'n gyfar- wydd â chefndir y campwaith clasurol y seiliwyd "Teilwng Yw'r Oen" arno y "Meseia"? Gan na chymerodd George Frideric Handel (1685-1759) ond ychydig dros dair wythnos i gyfansoddi'r "Meseia" (o Awst yr 22ain, hyd Fedi'r 14eg, 1741), 'does ryfedd fod ambell i hanesyn diddorol wedi'i gofnodi ynglyn â Handel tra'n gweithio mor ddiwyd ar yr oratorio. Yn ôl un stori, fe ddywedodd Handel ei fod wedi gweld "y nefoedd oll o'm blaen" tra'n ysgrifennu cerddoriaeth y "Meseia". Hefyd, y sôn yw bod un o weision Handel wedi mynd i mewn i ystafell ycyfansoddwr(yn Brook Street, Llun- dain) ar flaenau'i draed, er mwyn peidio ag aflonyddu ar Handel wrth ei waith. 'Roedd y gwas yn cludo hambwrdd â siocled arno i'r cyfansoddwr, ac wrth osod yr hambwrdd i lawr, sylweddolodd fod Handel yn wylo. 'Roedd y dudalen o flaen y cyfansoddwr yn llaith gan ddagrau, ac o dan y nodau o gerddoriaeth ar y dudalen, gallai'r gwas weld y geiriau: "He was despised and rejected of men". 'Does wybod a yw'r naill stori neu'r llall yn wir, ond mae yna eironi pendant yn perthyn i'r ail hanesyn. 'Roedd Han- del yn teimlo'n isel iawn ei ysbryd yr adeg yma, oherwydd problemau gyda'i iechyd a chydag arian: sefyllfa dra Gareth Blainey gwahanol i honno tua ugain mlynedd yn gynt. Bryd hynny, Handel oedd y ffefryn mawr yn Llundain, gan fod ei operâu yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd. Fodd bynnag, erbyn 1740 'roedd pobl Llundain wedi blino ar operâu Handel, ac yn dilyn methiant yr un olaf "Deidamia" — ym 1741, pen- derfynodd Handel roi'r ffidil yn y to. Er hynny, fe dder- byniodd y cyfansoddwr wahoddiad gan Ddug Dyfnaint Arglwydd Lifftenant Iwerddon ar y pryd i ymweld â Dulyn ac i gyfansoddi gwaith newydd i'w berfformio yno. gyda'r holl elw yn mynd tuag at: "the benefit and enlargement of poor distressed prisoners for debt in the several marshalseas of the city of Dublin". Felly. dyma sut y bu i Handel ysgrifennu'r gerddoriaeth i eiriau Charles Jennens — geiriau a seiliwyd ar nifer o lyfrau o'r Beibl. O gofio'r modd y cyfansoddodd Handel y "Meseia", mae'n amlwg fod y cyfansoddwr wedi cael ysbrydoliaeth arbennig o rywle "ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân", efallai? Wedi'r cyfan, tipyn o gamp oedd cwblhau cyfansoddiad dau gant a phump a thrigain o dudalennau o hyd mewn tair wythnos. Ar ben hyn, fe ddengys llawysgrif wreiddiol y "Meseia" fod Handel yn teimlo'n wahanol iawn i'r hyn a deimlai ychydig flynyddoedd yn gynt. Adlewyrchir poen meddwl y cyfansoddwr ynglyn â'i iechyd a'i sefyllfa ariannol yn llawysgrifau ei operâu olaf, sy'n frith o newidiadau rhannau wedi'u hail ysgrifennu'n llwyr. Ar y llaw arall, prin fod unrhyw gywiriadau nac arwyddion o ansicrwydd i'w gweld ar y copi gwreiddiol o'r "Meseia". 'Roedd y gerddoriaeth i ddarnau megis "Hedd Yn Awr". "Bachgen a Aned", a chorws mwyaf adnabyddus y gwaith, yr "Haleliwia" wedi byrlymu yn llif di-dor allan ohono. Mae dwy stori ddilys ynghylch corws yr "Haleliwia". Cododd y Brenin Siôr yr Ail ar ei draed pan glywodd y corws am y tro cyntaf; ac fe gafodd yr "Haleliwia" effaith yr un mor syfrdanol ary cyfansoddwr Franz Joseph Haydn. Cyfeiriodd yr olaf at Handel fel a ganlyn: "Ef yw ein meistr ni i gyd". Fodd bynnag, mae'n siwr y byddai Handel wedi datgan mai "ei Feistr" a roddodd y gallu a'r nerth iddo gyfansoddi gwaith mor gofiadwy â'r "Meseia", a hynny mewn cyn lleied o amser. Cyfansoddodd cyfoeswr Handel, Johann Sebastian Bach (1685-1750) weithiau crefyddol lu. Ymhlith y rhain mae dau gant o "cantatas" eglwysig, "Y dioddefaint yn ôl Sant Mathew", "Y Dioddefaint yn ôl Sant loan", "Oratorio'r Nadolig" a'r "Offeren yn B leiaf'; ac mae'n sicr fod y cyfan- soddwr wedi derbyn "ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân" i ysgrifennu'r darnau hyn. Yn wir, arferai Bach ysgrifennu S.D.G. ("Soli Deo Gloria" — i Dduw yn unig y byddo mawl) a J.J. ("Jesus juva" — Iesu, tywys fi) ar ddechrau ei lawysgrifau: nid yw'n ormodiaith dweud mai gweithred o addoli oedd cyfansoddi i Bach.