Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anton Bruckner. Llun: Casgliad Mansell. 'Roedd Franz Joseph Haydn (1732-1809) hefyd yn datgan ei ffydd ar lawysgrifau ei gerddoriaeth; arferai ysgrifennu "In nomine Domini" (Yn enw'r Tad) ar ddechrau ei lawysgrifau a "Laus Deo" (Gogoniant i Dduw) ar eu diwedd. Catholig da oedd Haydn a gyfansoddodd bymtheg o offerennau yn ystod ei oes. Beirniadwyd y gweithiau hyn oherwydd eu bod yn rhy hapus! tybiai rhai, ar gam, nad oedd yr offerennau yn grefyddol ddidwyll. Ymateb Haydn i hyn oedd: "wrth feddwl am Dduw mae 'nghalon yn neidio gyda llawenydd, a 'fedra' i ddim atal fy ngherddoriaeth rhag gwneud yr un fath". Gwaith crefyddol enwocaf Haydn, heb os nac onibai. yw "Y Greadigaeth", gwaith sy'n llawn o funudau cofiadwy. Un o'r rhain yw diwedd corws cyntaf y gwaith, pryd y cenir y geiriau "Dywedodd Duw bydded goleuni a goleuni a gaf- wyd". Mae hon yn foment ddramatig iawn, a rhan arall o'r gwaith sy'n taro deuddeg yw darn mwyaf adnabyddus "Y Greadigaeth" — y corws "Y nefoedd sy'n datgan" ("The heavens are telling"). Yn y corws hwn, gellir tiemlo fod Haydn yno pan" ganodd sêr y bore gyda'i gilydd a gwaedd- odd holl feibion Duw gan orfoledd". Prawf bod Haydn yn wirioneddol gredu yn thema "Y Greadigaeth" yw'r ffaith iddo dreulio ymron y cyfan o 1797 a rhan o 1798 yn cyfansoddi'r gwaith. Dengys y sgetsau di-ri', y brasluniau cyntaf a'r ail frasluniau ac ati (y gellir eu gweld yn llyfrgelloedd Fiena heddiw) na chymerodd Haydn orchwyl erioed cymaint o ddifrif â hwn, nac ymdrin â phwnc gyda chymaint o barch. Catholig oedd y cyfansoddwr o Awstria, Anton Bruckner (1825-94) hefyd, ac fel y tri chyfansoddwr y soniwyd amda- nynt eisoes, fe gafodd yntau "ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân" wrth gyfansoddi. Bruckner yw un o'r cyfansoddwyr mwyaf duwiol a fu erioed, a thystia nifer o hanesion gwir i'w ffydd ddi-sigl. Er enghraifft, arferai Bruckner gadw cyfrif dyddiol o'r nifer o weithiau y bu iddo weddïo; a siaradai ei ddisgyblion am adegau yng nghanol gwersi pryd y sylweddolent fod meddwl eu hathro yn bell roedd clychau'r eglwys wedi canu, a Bruckner yn gweddïo. Yn ychwanegol at hyn, pan yn darlithio un tro, fe sylwodd y cyfansoddwr ar fyfyriwr o Iddew yn eistedd yn y neuadd. Aeth Bruckner i fyny at y myfyriwr, rhoi ei law ar ei ben, a gofyn iddo: "Ydych chi'n wirioneddol gredu nad yw'r Meseia wedi dyfod eto?" Ymhlith cyfansoddiadau crefyddol Bruckner mae ei "Missa Solemnis" (ar gyfer unawdwyr a chôr S.A.T.B., cerddorfa ac organ) a'r "Te Deum" — gwaith eang mewn pum adran i unawdwyr a dau gôr S.A.T.B., cerddorfa ac organ; ond fe'i cofir yn bennaf heddiw am y naw simffoni a gyfansoddodd mewn cyfnod di-dor bron o ddeng mlynedd ar hugain (1865 i 1894). Beirniadodd sawl un adeiladwaith enfawr y simffoniau hyn, ond cam gwag oedd awgrymu i Bruckner yn ddigon caredig fod y gweithiau hyn braidd yn hir. Ys dywedodd y cyfansoddwr: "Maen' nhw eisiau imi ysgrifennu mewn ffordd wahanol. Mi fedrwn wneud hynny. ond rhaid imi beidio. O blith miloedd, rhoddodd Duw dalent i mi Un diwrnod bydd yn rhaid imi roi cyfrif ohonoffy hun. Sut fuasai'r Tad yn y Nefoedd yn fy marnu i pe bawn i'n dilyn eraill ac nid Efe?" Da-a-wel nos.